Prentis Gradd Dadansoddi Data a Systemau

National Minimum Wage

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Mai 29, 2026

Course / Training
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd

Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes yma?

Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis. 

Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw! 

DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026

Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.

Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.

Cynnal cyfweliadau ar 22/06 a 24/06.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]    

Am ragor o wybodaeth - https://www.gwynedd.llyw.cymru/apprenticeships

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am fanylion pellach gellir cysylltu â Lisa Thomas ar 01286679094

Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: [email protected]

Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.


_______________________________________________________________________-

Pwrpas y Swydd.

  • Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes
  • Cefnogi’r Adran Addysg i wneud y defnydd gorau o ddata drwy gynnal ansawdd gwybodaeth, defnyddio systemau a thechnolegau modern, a chydweithio â thimau ar draws y Cyngor i wella prosesau a chyfrannu at brosiectau digidol.

 

Cyfrifoldeb am Adnoddau.  . e.e. staff, cyllid, offer 

  • Dim, heblaw am offer swyddfa arferol, e.e. cyfrifiadur.

 

Prif Ddyletswyddau. 

  • Prif bwrpas y gwasanaeth yw darparu data a gwybodaeth o ansawdd uchel i gefnogi penderfyniadau ac arferion addysg, drwy reoli systemau gwybodaeth, sicrhau ansawdd a throsglwyddo data, cynhyrchu dadansoddiadau ac adroddiadau, a hyrwyddo defnydd effeithiol o dechnoleg ar draws yr Adran Addysg.
  • Mae’r rôl Prentis Gradd Dadansoddi Data a Sustemau yn gyfle i ddatblygu sgiliau technegol a dadansoddol mewn technoleg a data, gan weithio gyda systemau modern a thimau ar draws yr Adran.
  • Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
    • Defnyddio systemau rheoli gwybodaeth i sicrhau trosglwyddo, storio a rheoli data ysgolion yn gywir.
    • Datblygu sgiliau technegol mewn Excel, Power BI, SQL a systemau addysg megis Bromcom ac Ysgol ar Un Dudalen.
    • Cefnogi datblygu a defnyddio dulliau deallusrwydd artiffisial mewn ffordd gywir ac atebol.
    • Gweithio’n agos gyda rheolwyr ac adrannau ar draws y Cyngor i gasglu gwybodaeth a chefnogi prosiectau digidol.
    • Cynnal ansawdd data drwy wirio, prosesu a sicrhau cysondeb mewn systemau a setiau data.
    • Cefnogi cydymffurfiaeth â deddfwriaeth rheoli gwybodaeth a phrosesau diogelu data.
    • Cyfrannu at waith trawsadrannol sy’n alinio â’r ffrwd data o fewn Cynllun Digidol y Cyngor.
    • Dilyn polisïau’r Cyngor o ran iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu data a lleihau carbon.

Prentis Gradd Dadansoddi Data a Systemau

Yn ôl i swyddi