Prentis Cyllid – Archwilio Mewnol
National Minimum Wage
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Mai 29, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes yma?
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!
DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
Cynnal cyfweliadau ar 22/06 a 24/06.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]
Am ragor o wybodaeth - https://www.gwynedd.llyw.cymru/apprenticeships
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am fanylion pellach gellir cysylltu â Lisa Thomas ar 01286679094
Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: [email protected]
Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.
____________________________________________________________
Pwrpas y Swydd.
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes
- Darparu gwasanaeth archwilio mewnol annibynnol ac ar sail risg sy’n cynnig sicrwydd, cyngor a mewnwelediad i wella llywodraethu, rheoli risg, defnydd o adnoddau cyhoeddus a pherfformiad gwasanaethau ar draws y Cyngor.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
- Dim, heblaw am offer swyddfa arferol, e.e. cyfrifiadur.
Prif Ddyletswyddau.
- Prif bwrpas y gwasanaeth yw darparu archwilio mewnol annibynnol ac ar sail risg i wella llywodraethu, rheoli risg, defnydd o adnoddau cyhoeddus a pherfformiad gwasanaethau’r Cyngor.
- Mae’r rôl Prentis Cyllid – Archwilio Mewnol yn gyfle cyffrous i unigolyn chwilfrydig, trefnus ac ymroddedig sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa broffesiynol ym maes archwilio ac atebolrwydd cyhoeddus.
- Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
- Datblygu dealltwriaeth o systemau rheolaeth mewnol a safonau Archwilio Mewnol
- Cynorthwyo gyda dadansoddi data, casglu tystiolaeth a chymryd rhan mewn gwaith archwilio ymarferol.
- Cryfhau sgiliau cyfathrebu drwy gynnal trafodaethau â swyddogion a llunio adroddiadau clir ar ganfyddiadau.
- Arsylwi ac yna cyfrannu at archwiliadau llai cymhleth cyn symud ymlaen i dasgau mwy annibynnol.
- Cydweithio â gwasanaethau ar draws y Cyngor i ddeall prosesau, risgiau a rheolaethau mewn gwahanol feysydd.
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant technegol a datblygiad proffesiynol parhaus i feithrin sgiliau archwilio cadarn.
- Derbyn mentora gan archwilwyr profiadol i adeiladu hyder a gallu ymarferol yn y maes.
- Dilyn polisïau’r Cyngor o ran iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu data a lleihau carbon.