Prentis Busnes a Marchnata
National Minimum Wage
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Mai 29, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes yma?
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!
DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
Cynnal cyfweliadau ar 22/06 a 24/06.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]
Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.
Am ragor o wybodaeth - https://www.gwynedd.llyw.cymru/apprenticeships
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am fanylion pellach gellir cysylltu â Lisa Thomas ar 01286679094
Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: [email protected]
___________________________________________________________________
Pwrpas y Swydd.
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes.
- Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyfnod cychwynnol fel warden dros yr haf cyn symud i rôl gweinyddiaeth busnes ym mis Medi, gan ddatblygu sgiliau technegol, cyfathrebu a chynnwys marchnata wrth weithio ar draws adrannau’r parciau.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau.
- Prif bwrpas y gwasanaeth yw rheoli a datblygu parciau gwledig Gwynedd drwy gynnal y tir a’r bioamrywiaeth, cefnogi treftadaeth a lles y cyhoedd, a darparu profiad diogel a deniadol i ymwelwyr trwy reolaeth effeithiol, gwasanaeth cwsmeriaid a gweithgareddau marchnata.
- Prif rôl Prentis Busnes a Marchnata yw cefnogi gwaith dyddiol y parc drwy ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid, cynorthwyo gyda thasgau swyddfa a chreu cynnwys marchnata, gan ateb ymholiadau, diweddaru cofnodion a chyfrannu at drefnu digwyddiadau i wella profiad ymwelwyr a chyfathrebu cyhoeddus.
- Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
- Cefnogi gwaith dyddiol y parc drwy ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ymwelwyr, ysgolion a grwpiau cymunedol.
- Ateb ymholiadau, rheoli archebion ac adnewyddu cofnodion yn gywir ac yn amserol.
- Cynorthwyo gyda thasgau swyddfa megis ffeilio, mewnbynnu data a phrosesu dogfennau.
- Creu a chyfrannu at gynnwys marchnata, gan gynnwys diweddaru cyfryngau cymdeithasol a hyrwyddo gweithgareddau’r parc.
- Cefnogi trefnu a chyflwyno digwyddiadau drwy gydweithio â staff a gwirfoddolwyr.
- Datblygu sgiliau technegol drwy ddefnyddio systemau archebu, meddalwedd swyddfa a dulliau marchnata digidol.
- Gweithio fel warden dros yr haf i ddeall gweithrediadau’r parciau a meithrin perthynas waith gref gyda’r tîm.
- Dilyn polisïau’r Cyngor o ran iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu data a lleihau carbon.