Prentis Busnes a Gweinyddiaeth – Hybu Annibyniaeth

National Minimum Wage

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Mai 29, 2026

Course / Training
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Mi allwn ni ystyried ymgeisydd sy'n gweithio tuag at drwydded yrru.

Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd

Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes yma?

Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis. 

Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw! 

DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026

Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.

Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.

Cynnal cyfweliadau ar 22/06 a 24/06.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]    

Am ragor o wybodaeth - https://www.gwynedd.llyw.cymru/apprenticeships

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am fanylion pellach gellir cysylltu â Lisa Thomas ar 01286679094

Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: [email protected]

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.


-------------------------------------------------------------------------------------------------

Pwrpas y Swydd.

  • Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes
  • Darparu gwasanaeth cymysg sy’n cyfuno gwaith gweinyddol wrth ddesg â chefnogaeth ymarferol yn y gymuned, gan hyrwyddo annibyniaeth drwy dechnoleg.  

 

Cyfrifoldeb am Adnoddau.  . e.e. staff, cyllid, offer 

  • Dim, heblaw am offer swyddfa arferol, e.e. cyfrifiadur.   

 

Prif Ddyletswyddau. 

  • Prif bwrpas y gwasanaeth yw cefnogi gwasanaethau cymdeithasol i ddiwallu anghenion gofal a hyrwyddo annibyniaeth trigolion Gwynedd drwy ddatblygu a darparu atebion teleofal a thechnoleg gynorthwyol effeithiol.
  • Mae’r rôl Prentis Busnes a Gweinyddiaeth - Hybu Annibyniaeth yn gyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol a phersonol drwy gyfuno gwaith technegol a chymunedol, gan gefnogi trigolion i fyw’n fwy annibynnol drwy dechnoleg gynorthwyol.
  • Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
    • Datblygu dealltwriaeth o’r dechnoleg a ddefnyddir yn y gwasanaeth a chymryd rhan mewn gosod ac atgyweirio offer teleofal.
    • Cefnogi gwaith y gwasanaeth drwy gyfuno tasgau gweinyddol yn y swyddfa â gweithgareddau ymarferol allan yn y gymuned.
    • Cysgodi staff a dysgu am wahanol unedau busnes, gan gynnwys cyllid, contractau, comisiynu gofal a sicrwydd ansawdd.
    • Cynorthwyo gyda threfnu apwyntiadau, delio ag ymholiadau, gweinyddu systemau a rheoli stoc ac offer.
    • Teithio gyda staff i apwyntiadau ar draws y sir i ddeall sut mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y cartrefi.
    • Cefnogi prosiectau sy’n hyrwyddo annibyniaeth, megis taliadau uniongyrchol neu fentrau digidol eraill.
    • Magu dealltwriaeth o brosesau trin data a chyfrannu at waith perfformiad yr adran.
    • Dilyn polisïau’r Cyngor o ran iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu data a lleihau carbon.

Prentis Busnes a Gweinyddiaeth – Hybu Annibyniaeth

Yn ôl i swyddi