Prentis Busnes a Gweinyddiaeth – Gofal Cymdeithasol
National Minimum Wage
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Mai 29, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes yma?
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!
DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
-------------------------------------------------------------------------------------------------
Pwrpas y Swydd.
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes.
- Darparu gwasanaeth cefnogol i’r adran drwy helpu gyda thasgau gweinyddol, trefnu a chofnodi gwybodaeth, cyfathrebu â thimau a phartneriaid, a chynorthwyo gyda gwaith prosiect o ddydd i ddydd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
- Dim, heblaw am offer swyddfa arferol, e.e. cyfrifiadur.
Prif Ddyletswyddau.
- Prif bwrpas y gwasanaeth yw darparu cefnogaeth ganolog i sicrhau bod gwaith y ddwy Adran Gofal yn rhedeg yn esmwyth drwy reoli gwybodaeth, cyfathrebu, data a phrosesau i alluogi gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi pobl fregus yn effeithiol.
- Mae’r rôl Prentis Busnes a Gweinyddiaeth – Gofal Cymdeithasol yn gyfle i gael profiad eang ar draws gwasanaethau gofal, dysgu gan weithwyr proffesiynol, datblygu sgiliau gweinyddol a data, a chyfrannu at brosiectau sy’n cefnogi pobl fregus.
- Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
- Cefnogi’r adran drwy ddefnyddio systemau gweinyddu a chofnodi data’n gywir
- Trin a threfnu gwybodaeth sensitif yn ddiogel ac yn broffesiynol.
- Llunio a rheoli cyfathrebiadau, gan ymateb i geisiadau gan dimau rheng flaen a phartneriaid.
- Darparu ‘cover’ gweinyddol, trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau, a chynorthwyo gyda thasgau trefniadol.
- Cefnogi cyfeiriadau diogelu a chyfrannu at brosesau llywodraethu gwybodaeth.
- Cymryd rhan mewn gwaith prosiect ac ymgysylltu â gwahanol dimau i ddeall prosesau’r adran.
- Cysgodi gweithwyr proffesiynol a dysgu am feysydd arbenigol megis cyllid, contractau, comisiynu a sicrwydd ansawdd.
- Dilyn polisïau’r Cyngor o ran iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu data a lleihau carbon.
Cynnal cyfweliadau ar 22/06 a 24/06.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]
Am ragor o wybodaeth - https://www.gwynedd.llyw.cymru/apprenticeships
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am fanylion pellach gellir cysylltu â Lisa Thomas ar 01286679094
Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: [email protected]
Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.