Prentis Busnes a Gweinyddiaeth – Arlwyo a Glanhau
National Minimum Wage
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Mai 29, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes yma?
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!
DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
Cynnal cyfweliadau ar 22/06 a 24/06.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]
Am ragor o wybodaeth - https://www.gwynedd.llyw.cymru/apprenticeships
Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am fanylion pellach gellir cysylltu â Lisa Thomas ar 01286679094
Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: [email protected]
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Pwrpas y Swydd
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes.
- Pwrpas y swydd yw cefnogi darpariaeth effeithiol gwasanaethau Arlwyo a Glanhau ysgolion drwy gynorthwyo gyda tasgau ymarferol a gweinyddol gan sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn esmwyth ac yn diwallu anghenion ysgolion Gwynedd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
- Dim, heblaw am offer swyddfa arferol, e.e. cyfrifiadur.
Prif Ddyletswyddau.
- Pwrpas y gwasanaeth yw darparu arlwyo a glanhau diogel ac effeithiol i ysgolion Gwynedd.
- Mae’r rôl Prentis Busnes a Gweinyddiaeth – Arlwyo a Glanhau yn gyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol a gweinyddol wrth gefnogi gwasanaeth allweddol i ysgolion Gwynedd ac ennill profiad ymarferol ochr yn ochr â thîm profiadol.
- Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
- Cysgodi aelodau staff mewn ysgolion.
- Ymateb i ymholiadau gan staff arlwyo a glanhau ac ysgolion, gan helpu i drefnu staff llanw a chynnal gwasanaeth esmwyth.
- Cefnogi cyfathrebu proffesiynol drwy ateb galwadau, ysgrifennu negeseuon ac adroddiadau, a chydweithio â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
- Helpu i hyrwyddo gwasanaethau arlwyo a glanhau drwy ymgyrchoedd, digwyddiadau ac adnoddau marchnata megis newyddlenni a chyfryngau cymdeithasol.
- Mewnbynnu, gwirio a rheoli data’n gywir i gefnogi perfformiad y gwasanaeth a defnyddio systemau busnes perthnasol.
- Cydweithio â thimau eraill megis Iechyd a Diogelwch, Gwarchod y Cyhoedd ac Eiddo i sicrhau safonau uchel o wasanaeth ac i ddatrys materion gweithredol.
- Cefnogi prosiectau datblygu megis Rhaglen Bwyd a Hwyl a hyrwyddo cynnyrch lleol, gan gyfrannu at welliant parhaus y gwasanaeth.
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant ymarferol ac academaidd i ddatblygu sgiliau mewn arlwyo, glanhau, hylendid bwyd a threfniadaeth broffesiynol.
- Dilyn polisïau’r Cyngor o ran iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu data a lleihau carbon.