Peiriannydd Seibrddiogelwch a Chadernid x2

£38,510 - £40,444 per annum

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Tachwedd 18, 2026

Full-time Permanent
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Peiriannydd Seibrddiogelwch a Chadernid x2

Cyflog: S4 £38,510 – £40,444 y flwyddyn

Oriau: 37 yr wythnos

Lleoliad: Caernarfon

Pwrpas y Swydd

  • Monitro’r Rhaglen Sicrwydd Diogelwch i gwmpasu bygythiadau presennol a chyfredol sy’n esblygu i dechnoleg ar draws y Cyngor
  • Cydlynu a dogfennu effeithiol ar ofynion cydymffurfiaeth Seibr Ddiogelwch, yn unol a pholisïau diogelwch, safonau’r Cyngor a deddfwriaeth lle’n berthnasol, i’r arfer gorau’r diwydiant
  • Cefnogi holl achrediadau Diogelwch TGCh y Cyngor
  • Adrodd ar, a dogfennu Risgiau Seibrddiogelwch a Chadernid
  • Datblygu cydberthnasau da â staff technegol a staff cymorth i sicrhau bod anghenion systemau a gwybodaeth yn cael eu nodi a’u bodloni
  • Rhoi cyngor ac arweiniad yn ystod cyfnodau cynllunio prosiectau i sicrhau yr ystyrir gofynion Seibrddiogelwch a Chadernid yn y fanyleb gyfan
  • Cefnogi, peiriannu a darparu’r sgiliau a’r arbenigedd ail a thrydydd rheng ar gyfer holl galedwedd a meddalwedd sydd yn cynnwys elfennau diogelu rhwydweithiau’r Cyngor
  • Cefnogi defnydd o feddalwedd cynnal mynediad diogel i’r we i dros 20000 o ddefnyddwyr ar draws y sectorau Corfforaethol a Chwricwlaidd
  • Rhoi mewnbwn am ddiogelwch a gwytnwch yr isadeiledd a’r gallu i adfer drwy ymateb i ddigwyddiad yn llwyddiannus
  • Sicrhau y cefnogir y maes digidol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan y Cyngor a/neu y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth
  • Wrth weithio fel rhan o dîm, nodi lle mae modd defnyddio TGCh i greu cyfleon ac arbedion effeithlonrwydd a gwell Gofal Cwsmer
  • Bod yn gyfrifol am sicrhau bod offer a sustemau TGCh y Cyngor yn gweithio bob amser
  • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud

Cyfrifoldebau

Staff

  • Rhoi arweiniad a chefnogaeth i eraill yn y gwasanaeth ym meysydd diogelwch TGCh
  • Gall fod yn arweinydd technegol ar gyfer ogwydd diogelwch ar brosiectau technegol y Cyngor
  • Bod yn adnodd technegol i eraill yn yr adran neu’r Cyngor
  • Monitro gwaith eraill

Cyllid

  • Yn ymwybodol o strwythurau cyllidebol a chyfyngiadau prosiect/contract cefnogi
  • Archwilio mentrau bychain/canolig

Data/Offer/Meddalwedd

  • Bod â mewnbwn i agweddau Seibr Ddiogelwch holl systemau’r Cyngor a rhoi cefnogaeth technegol i unrhyw brosiectau newydd technegol
  • Mewnbwn ar unrhyw galedwedd neu feddalwedd defnyddir er budd diogelu holl systemau a data’r Cyngor
  • Bod â mewnbwn i agweddau diogelwch systemau sydd ag effaith ar y Cyngor i gyd ac sy’n cael effaith uniongyrchol ar y cyhoedd (a gwneud penderfyniadau yn eu cylch)
  • Bod a chyfrifoldeb am sefydlu a chadw polisïau wal dân y Cyngor
  • Bod a chyfrifoldeb am wasanaeth hidlo defnydd y we
  • Datblygu a chynnal amcanion diogelwch, strategaeth a pholisi diogelwch TGCh
  • Sicrhau bod cynlluniau, polisïau a strategaethau o’r fath yn cael eu cytuno ar draws y Cyngor
  • Sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol yn cael eu diweddaru pan fydd newidiadau yn cael eu gwneud
  • Cysylltu gydag unigolion/cyrff allanol i ddatrys materion cymhleth
  • Sicrhau bod yr holl ddogfennau sy’n berthnasol i weinyddwyr yn cael eu diweddaru i’r safon uchaf pan fo newidiadau’n cael eu gwneud i bob elfen sy’n gysylltiedig â’r cyfarpar TG

Prif Ddyletswyddau Yn Cynnwys

Gwneud penderfyniadau, trefnu ac arloesi

  • Adolygu’n rhagweithiol cydymffurfiad i safonau Seibrddiogelwch
  • Ymateb i ddigwyddiad(au) diogelwch TG, gan ymchwilio a dadansoddi, dogfennu ac adrodd, gan gynnwys argymhellion gwelliant
  • Monitro am dôr-diogelwch, ymosodiadau neu weithgareddau anarferol, gan gynnwys adnabod camddefnydd hawliau ayyb
  • Nodi syniadau newydd ac arbedion effeithlonrwydd ynghylch sut y gall TGCh greu gwelliannau effeithlonrwydd, gwella gofal cwsmer neu greu cyfleon newydd o fewn ei swyddogaeth ei hun ac o fewn i brosiectau cyfredol ac ar draws y cyngor yn ei gyfanrwydd
  • Mewnbwn i’r broses gwneud penderfyniadau o ran dethol cyflenwyr a chynnyrch
  • Rheoli ei (l)lwyth gwaith hynod gymhleth a thechnegol ei hun er mwyn cyrraedd targedau
  • Medru gwneud sawl tasg yr un pryd
  • Medru sicrhau cydbwysedd rhwng gofynion cyflawni gwaith prosiect a gwaith cefnogi pwysau mawr ac adhoc er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod ar gael i sustemau TGCh y Cyngor
  • Arwain ar bolisïau a gweithdrefnau, y bydd gofyn iddo/iddi eu dogfennu
  • Mewnbwn i’r broses cynllunio busnes
  • Cyfrannu tuag at sicrhau bod targedau perfformiad a mesuriadau gwella yn cael eu cyflawni, neu ragori arnynt

Cyfathrebu

  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn cyfathrebu â defnyddwyr ledled y Cyngor
  • Ysgrifennu adroddiadau i Bwyllgorau a/neu fforymau o fewn y Cyngor, ac adrodd ar berfformiad Seibr Ddiogelwch
  • Paratoi cyflwyniadau a’u cyflwyno i gynulleidfa niferus, gan gynnwys Prif Swyddogion, Aelodau a cyrff allanol
  • Gweithio’n rhagweithiol gydag Uwch Swyddogion, Penaethiaid Adran ac eraill, swyddogion TGCh, swyddogion Diogelu/Llywodraethu Gwybodaeth, a rhanddeiliaid perthnasol eraill ar draws yr awdurdod ac endidau/cwmnïau allanol i sicrhau bod gofynion Seibrddiogelwch yn cael eu diffinio’n gywir a sicrhau cydymffurfiad
  • Dogfennu gofynion defnyddwyr yn glir trwy gysylltu â defnyddwyr mewn cyfarfodydd a gweithdai
  • Datblygu ac adolygu manylebau cysyniadol a thechnegol
  • Paratoi a chyflwyno hyfforddiant i’r defnyddwyr
  • Cynrychioli’r adran TGCh yn allanol ac mewn cyfarfodydd ar draws y Cyngor
  • Rhoi cyngor ac arweiniad i ddefnyddwyr ac uwch reolwyr

Arall

  • Medru datrys problemau ar sawl lefel
  • Gwneud awgrymiadau i ddatrys materion cymhleth a thechnegol
  • Gweithio ar sawl tasg yr un pryd
  • Yn gyfrifol am adnabod risgiau yn unol â fframwaith rheoli risgiau TGCh a sicrhau y cymerir cyfrifoldeb amdanynt
  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

Amgylchiadau Arbennig

  • Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a fydd yn gymwys am daliad yn unol ag Amodau a thelerau cyflogaeth y Cyngor. Bydd galwadau brys yn destun i drafodaeth benodol.

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol.

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â David Gwyn Jones ar 01286 679605 neu drwy e-bost [email protected].

Dyddiad Cau: 10:00 O’R GLOCH, 18/11/2026.

Manylion Person

Nodweddion Personol – Hanfodol

  • Angen bod yn annibynnol a medru gwneud penderfyniadau ar ei ben ei hun ac fel rhan o dîm
  • Yn rhagweithiol wrth barhau i ddysgu am y diweddaraf yng nghyswllt diwydiant cymhleth sy’n newid yn gyflym
  • Medru ennill sgiliau a diweddaru’n barhaus wrth i’r diwydiant fynd yn ei flaen
  • Yn berchen ar drwydded yrru llawn yr DU

Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Hanfodol

  • Yn meddu ar radd neu cymhwyster Seibrddiogelwch (e.e. CISSP, CEH, CCSP, CISM)

Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Dymunol

  • Cymhwyster proffesiynol
  • Ardystiad CISCO CCNA, CCNP neu tebyg
  • Ardystiad Microsoft

Profiad Perthnasol – Hanfodol

  • Profiad mewn peiriannu a chefnogi systemau Diogelwch (e.e. wal-dân, meddalweddau gwrth-firws ayyb.)
  • Profiad o ddefnyddio systemau i adnabod ac adrodd ar wendidau Diogelwch
  • Dealltwriaeth o safonau Diogelwch e.e. NCSC CAF, Cyber Essentials, NIST ayyb
  • Swyddog proffesiynol gyda phrofiad mewn cefnogi, cynnal a dylunio rhwydweithiau
  • Profiad o ddadansoddi a dylunio isadeiledd

Profiad Perthnasol – Dymunol

  • Profiad o ddatblygu polisïau a gweithdrefnau
  • Profiad o gefnogi rhai o brif systemau isadeiledd TG a ddefnyddir gan y Cyngor

Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Hanfodol

  • Gwybodaeth am isadeiledd TG, caledwedd, systemau gweithredu, rhwydweithiau ardal eang/leol ayyb
  • Sgiliau cofnodi cadarn, ac y gallu i ddogfennu adroddiadau i gynulleidfa technegol a/neu annhechnegol
  • Profiad o reoli Seibrddiogelwch, gan gynnwys atal, monitro a chanfod digwyddiadau, ymosodiadau, ymyraethau a gweithgareddau anarferol, anghyfreithiol neu faleisus eraill
  • Yn ymwybodol o ddatblygiadau yn y maes arbenigedd
  • Medru datrys problemau yn rhesymegol
  • Gwybodaeth fanwl o offer diwifr a swits gyda’r gallu i’w sefydlu, ffurfweddu, eu cynnal a’u cadw
  • Y gallu i sefydlu, ffurfweddu, cynnal a chadw wal dan

Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Dymunol

  • Diogelwch Gwybodaeth ac ISO27001
  • Gwybodaeth o TCP/IP, protocolau ‘routing and switching’ gan gynnwys protocolau rhwydwaith OSPF, BGP, a Theleffoni IP VOIP (Voice over IP)
  • Arbenigedd ar sefydlu, ffurfweddu, cynnal a chadw Microsoft Active Directory, Microsoft Powershell, Microsoft Group Policy, systemau wrth gefn, technoleg ‘Data Centre’ / gweinyddwyr / meddalwedd firtiwaleiddio, caledwedd ymylol (e.e. cabinet, gwifrau, UPS) a thechnoleg Adfer Trychineb / Parhad Gwasanaeth

Anghenion Ieithyddol – Hanfodol

  • Gwrando a Siarad – Canolradd: Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
  • Darllen a Deall – Canolradd: Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. (Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
  • Ysgrifennu – Canolradd: Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy’n gyfarwydd i’r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan.)

Peiriannydd Seibrddiogelwch a Chadernid x2

Yn ôl i swyddi