Peiriannydd Gweithrediadau Cymwysiadau

£38,510 - £40,444 per annum

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Hydref 23, 2026

Full-time Permanent
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Peiriannydd Gweithrediadau Cymwysiadau

Cyflog: S4 £38,510 – £40,444 y flwyddyn

Oriau: 37 yr wythnos

Lleoliad: Caernarfon

  • Yn gyfrifol am darparu, diogelu, gweinyddu, gweithredu, ehangu a chynnal a chadw systemau canolog Technoleg Gwybodaeth y Cyngor.
  • Cefnogi systemau TG i sicrhau parhad gwasanaeth.
  • Cydweithio â thimau traws-swyddogaethol i sicrhau diogelwch systemau a phreifatrwydd data, gan ddilyn canllawiau’r llywodraeth, ac yn atebol am sicrhau bod yr holl gysylltiadau data yn ddiogel ac yn gweithredu i’r lefelau a ragwelir, yn cydymffurfio â safonau perthnasol a pherchnogi datrysiadau a gwelliannau lle bo angen.
  • Gwerthuso technolegau newydd a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau systemau, a chynnig datrysiadau arloesol o fudd i wasanaethau Cyngor Gwynedd, a phensaernio a chefnogi rheini.
  • Yn gyfrifol am fonitro cymwysiadau, basau data a systemau hanfodol.
  • Darparu’r sgiliau angenrheidiol a datblygu, gweithredu, cynnal a chefnogi datrysiadau meddalwedd sy’n cwrdd ag amcanion busnes.
  • Adrodd ar berfformiad y systemau canolog, a chasglu data a gwybodaeth i gynllunio darpariaeth TG y dyfodol.
  • Rhoi cyngor ac arweiniad yn ystod cyfnodau cynllunio prosiectau.
  • Sicrhau y cefnogir y maes digidol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan y Cyngor a/neu y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth.
  • Ar gyfer prosiectau sicrhau bod pob elfen cyraeddadwy yn cael ei gyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb, yn glynu wrth y safonau diogelwch yn unol â’r manylion ac yn cydymffurfio â pholisïau Cyngor Gwynedd.
  • Wrth weithio fel rhan o dîm, nodi lle mae modd defnyddio TGCh i greu cyfleoedd ac arbedion effeithlonrwydd a gwell Gofal Cwsmer.
  • Bod yn gyfrifol am sicrhau gweithrediad parhaus systemau corfforaethol TGCh y Cyngor.
  • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

Amgylchiadau Arbennig

Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a fydd yn gymwys am daliad yn unol ag Amodau a thelerau cyflogaeth y Cyngor. Bydd galwadau brys yn destun i drafodaeth benodol.

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Bryn Goodman Jones ar [email protected] neu Aled Rhys Hughes ar [email protected].

Dyddiad Cau: 10:00 O’R GLOCH, 23/10/2026.

Manylion Person

Nodweddion Personol – Hanfodol

  • Yn rhagweithiol wrth barhau i ddysgu am y diweddaraf yng nghyswllt diwydiant cymhleth sy’n newid yn gyflym.
  • Medru ennill sgiliau a diweddaru’n barhaus wrth i’r diwydiant fynd yn ei flaen.
  • Angen bod yn annibynnol a medru gwneud penderfyniadau ar ei ben ei hun.

Nodweddion Personol – Dymunol

  • Yn meddu ar drwydded yrru llawn.

Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Hanfodol

  • Yn meddu ar brofiad perthnasol mesuradwy i’r swydd.
  • Ardystiad proffesiynol cyfredol o’r diwydiant TG, megis rhai – Microsoft, Citrix, A+ neu debyg.

Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Dymunol

  • Yn raddedig mewn disgyblaeth TG neu debyg.

Profiad Perthnasol – Hanfodol

  • Yn awdurdod technegol / arbenigwr ar faes penodol.
  • Profiad o gefnogi, cynnal a chadw a gweinyddu systemau corfforaethol TG.
  • Profiad o gefnogi elfen/nau o amgylchedd MS 365.

Profiad Perthnasol – Dymunol

  • Profiad o gefnogi rhai o brif systemau canolg TG a ddefnyddir gan y Cyngor.
  • Profiad o ddatblygu polisïau a gweithdrefnau.

Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Hanfodol

  • Yn ymwybodol o ddatblygiadau yn y maes arbenigedd.
  • Medru cyfathrebu mewn modd technegol ac annhechnegol.
  • Medru datrys problemau yn rhesymegol.
  • Sgiliau cofnodi cadarn, ac y gallu i ddogfennu adroddiadau i gynulleidfa technegol a/neu annhechnegol.
  • Gwybodaeth fanwl o, ac y gallu i weinyddu, ffurfweddu a cynnal a chadw: systemau ebost corfforaethol (Exchange); systemau gweithredu; Active Directory; systemau SaaS.
  • Defnyddio/creu sgriptiau i ffurfweddu, cynnal a chadw a gweinyddu systemau TG.

Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Dymunol

  • Arbenigedd ar gefnogi, gweinyddu, dadansoddi a chynnal a chadw: amgylchedd Microsoft 365 (gan gynnwys Exchange, Teams, SharePoint Online, Purview, ‘Conditional access’); technoleg rhithwir (VMware/Hyper-V); systemau cadw wrth gefn; Microsoft Windows Server (fersiynau cyfredol); Exchange (On premise); SMTP; Azure; Entra; technoleg dilysu diogel (OAuth, SAML a.y.b.); Active Directory; IIS (fersiynau cyfredol).
  • Gwybodaeth o ddefnydd SQL management studio.
  • Gwybodaeth o’r model ITIL.
  • Systemau rheolaethol a monitro.
  • Gwybodaeth o safonau perthnasol e.e. ISO27001.

Anghenion Ieithyddol – Hanfodol

  • Gwrando a Siarad – Lefel Ganolradd: Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
  • Darllen a Deall – Lefel Ganolradd: Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. (Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
  • Ysgrifennu – Lefel Ganolradd: Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy’n gyfarwydd i’r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan.)

Peiriannydd Gweithrediadau Cymwysiadau

Yn ôl i swyddi