Peiriannydd Gweinyddwyr a Cwmwl

£38,510 - £40,444 per annum

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Hydref 16, 2026

Permanent Full-time
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Hysbyseb Swydd

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth.

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Gwyn Jones ar 01286 679605 neu drwy e-bost: [email protected]

Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: [email protected]

DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 16/10/2026

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person

Nodweddion personol

Hanfodol

  • Angen bod yn annibynnol a medru gwneud penderfyniadau ar ei ben ei hun ac fel rhan o dîm
  • Yn rhagweithiol wrth barhau i ddysgu am y diweddaraf yng nghyswllt diwydiant cymhleth sy’n newid yn gyflym.
  • Medru ennill sgiliau a diweddaru’n barhaus wrth i’r diwydiant fynd yn ei flaen.
  • Yn berchen ar drwydded yrru llawn yr DU

Dymunol: –

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol: –

Dymunol: Yn meddu ar radd neu brofiad perthnasol.

Profiad perthnasol

Hanfodol

  • Swyddog proffesiynol gyda phrofiad eang mewn cefnogi a chomisiynu gweinyddwyr
  • Yn awdurdod technegol / arbenigwr ar faes penodol
  • Profiad o ddadansoddi a dylunio isadeiledd

Dymunol

  • Profiad o ddatblygu poliïau a gweithdrefnau.
  • Profiad o gefnogi rhai o brif systemau isadeiledd TG a ddefnyddir gan y Cyngor

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol

Hanfodol

  • Gwybodaeth a gallu ardderchog mewn peirianneg gweinyddwyr a bod â gwybodaeth am dechnoleg ymylol, meddalwedd ac arferion gwaith
  • Dealltwriaeth o amgylchedd rhithiol e.e. VMWare, Hyper-V
  • Gwasanaethau a systemau gweithredu gweinyddwyr Microsoft Windows
  • Gwasanaethau a systemau gweithredu gweinyddwyr Linux.
  • Caledwedd gweinyddwyr.
  • Rhwydweithio TCP/IP gweinyddwyr.
  • Yn ymwybodol o ddatblygiadau yn y maes arbenigedd
  • Medru cyfathrebu mewn modd technegol ac annhechnegol
  • Medru datrys problemau yn rhesymegol.
  • Sgiliau dogfennu ardderchog
  • Gwybodaeth am y cylch datblygu sustemau
  • Gallu cefnogi/gweinyddu cronfeydd data

Dymunol

Arbenigedd ar sefydlu, ffurfweddu, cynnal a chadw:

  • Dealltwriaeth o amgylchedd rhithiol e.e. VMWare, Hyper-V
  • Technoleg storfa ddata SAN
  • Microsoft Active Directory
  • Microsoft Powershell
  • Microsoft Group Policy
  • Systemau wrth gefn
  • Diogelwch Gwybodaeth ac ISO27001
  • Technoleg ‘Data Centre’
  • Caledwedd ymylol e.e. cabinet, gwifrau, UPS
  • Technoleg Adfer Trychineb / Parhad Gwasanaeth

Anghenion ieithyddol

Gwrando a Siarad – Canolradd: Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.

Darllen a Deall – Canolradd: Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. (Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)

Ysgrifennu – Canolradd: Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy’n gyfarwydd i’r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y swydd

  • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
  • Darparu’r sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol i gyflwyno, cynnal a chefnogi gweinyddwyr ledled Gwynedd.
  • Sicrhau y cefnogir y maes TGCh yn unol â pholisiïau a gweithdrefnau sydd wedi’i nodi.
  • Wrth weithio fel rhan o dîm, nodi lle mae modd defnyddio TGCh i greu cyfleon ac arbedion effeithlonrwydd a gwell Gofal Cwsmer
  • Bod yn gyfrifol am sicrhau bod offer a sustemau TGCh y Cyngor yn gweithio bob amser.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

Cyllidol

  • Yn ymwybodol o strwythurau cyllidebol a chyfyngiadau prosiect/contract cefnogi.
  • Archwilio mentrau bychain/canolig.

Data/Offer/Meddalwedd

  • Bod â mewnbwn i agweddau technegol y gweinyddwyr sydd ag effaith ar y Cyngor i gyd ac sy’n cael effaith uniongyrchol ar y cyhoedd (a gwneud penderfyniadau yn eu cylch).
  • Rhoi cefnogaeth ar gyfer gweinyddwyr sy’n hanfodol i waith beunyddiol y Cyngor a hefyd i wasanaethau a ddefnyddir gan y cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi problemau, eu datrys a’u hosgoi.
  • Yn gyfrifol am sicrhau cywirdeb data sy’n hanfodol i’r Cyngor.
  • Cysylltu gydag unigolion/cyrff allanol i ddatrys materion.
  • Sicrhau bod yr holl ddogfennau sy’n berthnasol i weinyddwyr yn cael eu diweddaru pan fo newidiadau’n cael eu gwneud i bob elfen sy’n gysylltiedig â’r cyfarpar TG.

Prif ddyletswyddau

Gwneud Penderfyniadau, trefnu ac arloesi

  • Rhoi cymorth technegol i eraill.
  • Addysgu aelodau iau o staff yn rheolaidd a rhoi arweiniad iddynt.
  • Rhoi mewnbwn i syniadau newydd/arbedion effeithlonrwydd ynghylch sut y gall TGCh greu gwelliannau effeithlonrwydd, gwella gofal cwsmer neu greu cyfleoedd newydd o fewn ei swyddogaeth ei hun ac o fewn i’r prosiectau y mae’n gweithio arnynt ar hyn o bryd.
  • Yn gyfrifol am wneud penderfyniadau i sicrhau bod elfennau o brosiectau’n cael eu cwblhau ar amser, y tu mewn i’r gyllideb ac i’r safonau disgwyliedig.
  • Rheoli ei (l)lwyth gwaith hynod gymhleth a thechnegol ei hun er mwyn cyrraedd targedau.
  • Mewnbwn i’r broses gwneud penderfyniadau o ran dethol cyflenwyr a chynnyrch.
  • Mewnbwn i bolisiïau a gweithdrefnau, efallai y bydd gofyn iddo/iddi eu cofnodi.
  • Medru sicrhau cydbwysedd rhwng gofynion cyflawni gwaith prosiect a gwaith cefnogi pwysau mawr ac adhoc er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod ar gael i sustemau TGCh y Cyngor.
  • Mewnbwn i’r broses cynllunio busnes.
  • Cyfrannu tuag at sicrhau bod targedau perfformiad a mesuriadau gwella yn cael eu cyflawni, neu ragori arnynt.

Cyfathrebu

  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn cyfathrebu â defnyddwyr ledled y Cyngor i fyny at yr uwch reolwyr.
  • Cofnodi gofynion defnyddwyr yn glir trwy gysylltu gyda defnyddwyr mewn cyfarfodydd a gweithdai.
  • Datblygu manylebau cysyniadol a thechnegol.
  • Cynrychioli’r adran TGCh mewn cyfarfodydd ar draws y Cyngor ac yn allanol o bryd i’w gilydd.

Arall

  • Medru datrys problemau mewn nifer o feysydd o arbenigedd.
  • Gweithio ar sawl tasg yr un pryd.
  • Yn gyfrifol am weithredu offer a systemau’r gweinyddwr a’u rhoi at ei gilydd.
  • Yn gyfrifol am adnabod risgiau yn unol â fframwaith rheoli risgiau TGCh a sicrhau y cymerir cyfrifoldeb amdanynt.
  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
  • Gweithredu o fewn poliïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
  • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
  • Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.

Amgylchiadau arbennig

  • Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a fydd yn gymwys am daliad yn unol âg Amodau a thelerau cyflogaeth y Cyngor. Bydd galwadau brys yn destun i drafodaeth benodol.

Peiriannydd Gweinyddwyr a Cwmwl

Yn ôl i swyddi