Paralegal

£26,847 - £27,274 per annum

Conwy County Council

Colwyn Bay

Hydref 1, 2026

Full-time Permanent
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Dyddiad Cau: 01/10/2026

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Caiff cymwysterau a geirdaon eu gwirio.

Sgiliau Iaith Gymraeg: mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg, ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith neu’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.

Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Ceri Williams, Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, ar 01492 576111 neu [email protected].

Am y rôl

Cynorthwyo staff eraill yn yr Adain Gyfreithiol gydag ystod lawn o ddyletswyddau cyfreithiol gan gynnwys gwaith ar gyfer cleientiaid allanol a chleientiaid mewnol.

Prif Ddyletswyddau

  • Cynorthwyo gyda pharatoi a chynnal ymgyfreitha sifil a throseddol a mynychu’r Llys gyda Cyfreithwyr
  • Cynorthwyo gyda pharatoi a chynnal ystod lawn o achosion gofal plant gan gynnwys achosion gofal, maethu a mabwysiadu
  • Cynorthwyo gyda pharatoi rhybuddion a gorchmynion statudol o dan amrywiaeth o gyfreithiau, e.e. mewn perthynas â phriffyrdd, addysg ac ati
  • Cynorthwyo gyda pharatoi contractau a chytundebau
  • Cynorthwyo gyda throsglwyddo rhydd-ddaliadau a phrydlesi a materion Cynllunio Gwlad a Thref
  • Cynorthwyo gyda’r gwaith sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol oedolion, gan gynnwys Diogelu Oedolion Diamddiffyn, Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Deddf Galluedd Meddwl 2005
  • Ymgymryd âg ymchwil cyfreithiol yn ôl yr angen
  • Ymgymryd âg unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n gymesur â’r rheiny a nodwyd uchod ac sy’n briodol i deitl a gradd y swydd

Manylion am yr Unigolyn — Hanfodol

  • Profiad gwaith cyfreithiol diweddar neu flaenorol a/neu gymhwyster yn y gyfraith (neu’n gweithio tuag at gyflawni cymhwyster cyfreithiol)
  • Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys Word, Excel a Powerpoint
  • Sgiliau cymryd cofnodion
  • Sgiliau cyfathrebu a gwrando rhagorol gyda’r gallu i berthnasu â staff ar bob lefel o fewn yr awdurdod yn ogystal ag asiantaethau eraill a’r cyhoedd
  • Mae gallu cyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol
  • Brwdfrydedd, ymrwymiad a chymhelliant cyffredinol gydag agwedd hyblyg tuag at faterion gwaith a newidiadau fel maent yn codi o fewn adain Gyfreithiol ddeinamig
  • Gallu gweithio dan bwysau, blaenoriaethu tasgau, a chydweithio’n effeithiol o fewn tîm ac yn annibynnol
  • Gallu delio â materion sensitif
  • Sgiliau trefnu rhagorol gyda’r gallu i reoli eich llwyth gwaith eich hun
  • Gallu gweithredu ar gyfarwyddiadau oddi wrth gyfreithwyr/cymhorthwyr cyfreithiol yn y tîm, o fewn deddfwriaethau cyfredol a pholisïau a luniwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Gallu gwneud gwaith ymchwil cyfreithiol, cadw taenlenni a gwirio datganiadau tystion
  • Dealltwriaeth o’r angen am gyfrinachedd bob amser
  • Ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth o safon uchel
  • Gallu bod yn rhagweithiol wrth wneud penderfyniadau yn ystod cyfarfodydd tîm i ddatblygu a gwella arferion gwaith
  • Gallu cynllunio, rhaglennu a darparu gwaith yn unol â therfynau amser caeth, ar adegau heb oruchwyliaeth uniongyrchol

Dymunol

  • Gradd yn y gyfraith neu gyffelyb
  • Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg ar lefel 1 yn ddymunol
  • Gallu teithio ledled y Fwrdeistref Sirol

Paralegal

Yn ôl i swyddi