Lleoliad ymchwil Doethuriaeth Ansawdd Dŵr
£20,780 (pro rata)
Natural Resources Wales
Hydref 27, 2025

Disgrifiad o'r Cwmni
Y rôl
Dyma gyfle am dri mis i fyfyriwr gradd Doethuriaeth cofrestredig weithio yn y byd go iawn ym maes reolaeth amgylcheddol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y lleoliad yn canolbwyntio ar effeithiau cyfunol cemegau mewn amgylchedd dŵr, gan ddatblygu strategaeth i gyfrif am effeithiau cyfunol halogion mewn ansawdd dŵr er mwyn asesu risg yn well a datblygu strategaethau monitro ar gyfer asesiadau risg.
Yn ogystal â’i ddulliau statudol o fonitro sylweddau â blaenoriaeth sefydledig, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn defnyddio dulliau sgrinio nad ydynt yn targedu i asesu risgiau o halogion sy’n dod i’r amlwg. Gall y sgrinio gyfrif am dros 2,500 o sylweddau gan gynnwys cynhyrchion fferyllol, cynnyrch cosmetig, cyffuriau hamdden, ffwngladdwyr, meddyginiaethau milfeddygol ac eraill, gan roi cipolwg ar gymhlethdod y cymysgeddau cemegol mewn amgylchedd dŵr. Mae llawer o’r cemegau yn gyffredin ond ar lefelau islaw eu trothwyon gwenwynig unigol hysbys. Er na fyddent yn cael eu hystyried yn berygl ar eu pen eu hunain, mae tystiolaeth gynyddol y gallai cyfuniad o rai sylweddau arwain at broffiliau risg gwahanol.
Mae’r lleoliad yn rhoi cyfle i gael cipolwg ar weithrediad CNC a gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth o fewn cyd-destun amgylchedd Cymru. Bydd deiliad y lleoliad yn gweithio yn y tîm Cynllunio Dŵr Integredig – tîm diddorol ac amrywiol o fewn Grŵp Dŵr a Natur Cynaliadwy CNC. Bydd eu cyfraniadau at fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.
Disgwylir i ddeiliad y lleoliad weithio’n annibynnol o fewn paramedrau a chanllawiau a ddarperir gan CNC. Gan weithio’n agos gydag ystod eang o gydweithwyr bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meithrin perthnasoedd gwaith gwerthfawr, yn ehangu ei wybodaeth o’r sector hwn, ac yn gwella ei sgiliau trosglwyddadwy presennol. Bydd CNC, o bosibl, yn hwyluso gweithio gyda rhanddeiliaid sy’n berthnasol i’r maes gwaith, fel Llywodraeth Cymru.
Byddant yn ymuno â’r Tîm Cynllunio Dŵr Integredig sy’n rheoli ystod amrywiol o raglenni gan gynnwys Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd, Gwaith Modelu Ansawdd Dŵr, Geomorffoleg, y Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol, cynllunio adolygiad prisiau’r rhaglen honno a chyflawni rhaglen ariannu argyfyngau natur a hinsawdd Llywodraeth Cymru. Mae’r tîm yn cynnig cymorth technegol a chynghorol ar draws ein cyfarwyddiaethau Gweithredol a Thystiolaeth, Polisi, a Thrwyddedu.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddeall sut mae ymchwil a thystiolaeth yn cael eu defnyddio i lywio penderfyniadau. Gyda chefnogaeth gan ei oruchwyliwr yn CNC, bydd disgwyl i’r ymchwilydd gymryd cyfrifoldeb am reoli a chyflawni ymrwymiadau gwaith yn ystod y cyfnod lleoliad.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Thomaz Andrade drwy e-bostio [email protected]
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
Bydd y lleoliad hwn yn archwilio dewisiadau i ymgorffori effeithiau cymysgu yn y dulliau presennol i nodi halogion sy’n dod i’r amlwg sy’n destun pryder, a phrofi sut y gellid cymhwyso hyn i gronfa ddata gemegol CNC i nodi risgiau cyfunol. Byddai’r gwaith yn cynnwys:
- Adolygu llenyddiaeth ar ddulliau o ymgorffori cymysgu ac effeithiau cyfunol mewn asesiadau risg.
- Adolygu’n feirniadol brawf presennol gan CNC yn grwpio sylweddau yn ôl eu dull gweithredu.
- Adolygu’r data presennol i awgrymu’r camau nesaf gan gynnwys dull a rhestr fer o sylweddau i’w hasesu, a’r meini prawf ar gyfer asesu.
- Ymgymryd â dyletswyddau iechyd a diogelwch a chyfrifoldebau sy’n briodol i’r swydd.
- Ymrwymo i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth CNC, a meddu ar ddealltwriaeth o’r ffordd y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
Er bod amcan clir, gall fformat yr allbynnau fod yn hyblyg er mwyn i’r ymgeisydd dynnu ar ei brofiad, ei sgiliau a’i ddiddordebau ei hun. Dylai allbynnau gynnwys argymhellion ar ddull o ddatblygu agwedd CNC at gymysgu ac effeithiau cyfunol sy’n addas i ddata CNC, rhestr fer ddrafft o halogion sy’n dod i’r amlwg o gronfa ddata CNC sy’n ymgorffori effeithiau cymysgu ac argymhellion ar gyfer profion yn y dyfodol.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Dim ond gan fyfyrwyr cofrestredig sydd o fewn eu cyfnod a ariennir y gall CNC dderbyn ceisiadau i’r rhaglen lleoli myfyrwyr Doethuriaeth. Cyn gwneud cais, rhaid i bob ymgeisydd wneud y canlynol:
- Ceisio cymeradwyaeth gan eu goruchwyliwr academaidd
- Cadarnhau’r dull o dalu gyda’u hadran gyllid
- Cael cadarnhad y gallant gymryd seibiant astudio trwy gydol y lleoliad
Yn eich cais a’ch cyfweliad gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol drwy ddefnyddio dull STAR.
- Sgiliau ymchwil rhagorol
- Gallu dadansoddi gwybodaeth a data cymhleth
- Gallu ysgrifennu’n glir ac yn gryno
- Gallu cyflwyno deunydd technegol mewn fformat hygyrch
- Meddwl creadigol
- Gallu cymhwyso dull arloesol
Byddai dealltwriaeth sylfaenol o ecosystemau dyfrol a thocsicoleg yn fuddiol ond nid yn hanfodol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 – Lefel mynediad
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i’n staff ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i’w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd am weithio’n llawn amser, rhan-amser neu rannu’r swydd.