Lleoliad ymchwil Doethuriaeth Amgylchedd y Dŵr

£20,780 pro rata

Natural Resources Wales

Hydref 27, 2025

Internship / Placement

Disgrifiad o'r Cwmni

Y rôl

Dyma gyfle am dri mis i fyfyriwr gradd Doethuriaeth cofrestredig ein helpu i ymchwilio i ddyfroedd pysgod cregyn a ddiogelir a chymryd camau gweithredu yn eu cylch.

Mae’n rhan o gylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i arsylwi, gwerthuso a chynghori ar y safon microbaidd a osodwyd ar gyfer dyfroedd pysgod cregyn a ddiogelir o dan Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017. Pan na chyrhaeddir y safon honno, rhaid inni ymchwilio a rhoi mesurau ar waith i wella’r dyfroedd pysgod cregyn a ddiogelir.

Mae’r lleoliad yn rhoi cyfle i gael cipolwg ar weithrediad CNC a gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth o fewn cyd-destun amgylchedd Cymru. Bydd yr ymchwilydd yn gweithio mewn tîm diddorol ac amrywiol, a bydd ei gyfraniadau at fynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.

Bydd disgwyl i’r ymchwilydd weithio’n annibynnol o fewn paramedrau a chanllawiau a ddarperir gan CNC. Gan weithio’n agos gydag ystod eang o gydweithwyr bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meithrin perthnasoedd gwaith gwerthfawr, yn ehangu ei wybodaeth o’r sector hwn, ac yn gwella ei sgiliau trosglwyddadwy presennol.

Bydd yr ymchwilydd yn ymuno â thîm sy’n rheoli ystod amrywiol o raglenni ac yn darparu cymorth technegol a chynghorol ar draws ein cyfarwyddiaethau Gweithredol a Thystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.

Mae hwn yn gyfle gwych i ddeall sut mae ymchwil a thystiolaeth yn cael eu defnyddio i lywio penderfyniadau. Gyda chefnogaeth gan ei oruchwyliwr CNC, bydd disgwyl i’r ymchwilydd gymryd cyfrifoldeb am reoli a chyflawni ymrwymiadau gwaith yn ystod y cyfnod lleoliad.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.

  1. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Eleanor Howlett at [email protected]  

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

Bydd y prosiect hwn yn dwyn ynghyd wybodaeth o amrywiol ffynonellau megis ymchwiliadau modelu arfordirol Dŵr Cymru, monitro’r Asiantaeth Safonau Bwyd, a Thimau Amgylchedd lleol CNC i lunio pecynnau tystiolaeth ar gyfer pob un o’r dyfroedd pysgod cregyn a ddiogelir.

Bydd angen i’r pecynnau ddangos ble mae tystiolaeth ar gael, tynnu sylw at feysydd ymchwil pellach, dogfennu ble mae mesurau wedi digwydd a nodi argymhellion ar gyfer mesurau pellach. Byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Gweithio ar draws amrywiol dimau CNC i nodi a chofnodi gwybodaeth berthnasol i wneud yr asesiad. Bydd CNC yn hwyluso gwaith gyda sefydliadau eraill fel Llywodraeth Cymru os oes angen. 
  • Ymgymryd â dyletswyddau iechyd a diogelwch a chyfrifoldebau sy’n briodol i’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth CNC, ac yn meddu ar ddealltwriaeth o’r ffordd y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau

Dim ond gan fyfyrwyr cofrestredig sydd o fewn eu cyfnod a ariennir y gall CNC dderbyn ceisiadau i’r rhaglen lleoli myfyrwyr Doethuriaeth. Cyn gwneud cais, rhaid i bob ymgeisydd wneud y canlynol:

  • ceisio cymeradwyaeth gan ei oruchwyliwr academaidd;
  • cadarnhau’r dull talu gyda’i adran gyllid;
  • cadarnhau y gall gymryd seibiant astudio am gyfnod y lleoliad.

Yn eich cais a’ch cyfweliad gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol drwy ddefnyddio dull STAR.

    1. Y gallu i ddeall ymchwiliadau o’r dalgylch i’r arfordir
    2. Y gallu i gyfathrebu ar draws timau, er mwyn cyflawni amcanion y prosiect.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 – Lefel mynediad

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.   

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i’n staff ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i’w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd am weithio’n llawn amser, rhan-amser neu rannu’r swydd.

External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Lleoliad ymchwil Doethuriaeth Amgylchedd y Dŵr