Lleoliad i Raddedigion - Pobl a Lleoedd

£30,008 - £32,107

Natural Resources Wales

Caerdydd

Awst 9, 2026

Graduate Scheme
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Y rôl

Ymunwch â’r tîm i helpu i lunio dyfodol y lleoedd rydym yn gofalu amdanynt yng Nghanol De Cymru.

Nid yw hwn yn lleoliad “un ateb yn addas i bawb”. Byddwn yn gweithio gyda chi i deilwra rhaglen o amgylch eich diddordebau, gan roi cyfrifoldebau go iawn i chi, a’r cyfle i wneud gwahaniaeth o’r diwrnod cyntaf un.

Byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm cyfeillgar a phrofiadol sydd wirioneddol am fuddsoddi yn eich datblygiad. Gallech chi ddewis gweithio gyda Miki wrth i ni gydweithio â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i wella llesiant ac addasu i newid yn yr hinsawdd. Neu efallai y byddwch am ymuno â Sally, Harriet a Will sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â llygredd dŵr, lleihau perygl llifogydd ac adfer ein hafonydd fesul dalgylch. Gallech chi gefnogi gwaith Liz sy’n seiliedig ar dirwedd, i fynd i’r afael â’r argyfwng natur ac adfer ecosystemau, neu weithio ochr yn ochr ag Emily a’n Pennaeth Lle i ymgysylltu â gwleidyddion lleol ar faterion sy’n bwysig i’n cymunedau. Efallai y bydd cyfleoedd hefyd i weithio gyda Laura ar gynllunio hirdymor ar gyfer y coedwigoedd rydym yn eu rheoli, gan gydbwyso cynhyrchu pren, adfer byd natur, gwydnwch hinsawdd a llesiant. Byddwch chi hefyd yn dysgu sut rydym yn mynd i’r afael â heriau cymhleth yn sgil meddwl drwy systemau a dylunio gwasanaethau.

Yn bwysicaf oll, ni fyddwch chi’n gwneud hyn ar eich pen eich hun. Byddwch yn cael eich tywys, eich mentora a’ch annog gan bobl sydd am eich gweld yn tyfu mewn hyder ac yn datblygu sgiliau a fydd yn eich helpu o ran eich gyrfa. Mae eich safbwyntiau chi, eich profiadau chi a’ch gwybodaeth chi o ddiddordeb i ni hefyd, ac rydym am ddysgu ohonynt.

Os ydych chi’n chwilfrydig, yn llawn cymhelliant ac am i’ch gwaith wneud gwahaniaeth go iawn, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Andy Robinson at [email protected]

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.

Amdanom ni

Mae Tîm Pobl a Lleoedd Canol De Cymru yn rhan o Ardal Gweithrediadau Canol De Cymru. Mae’r tîm yn arwain ar weithgarwch cynllunio amgylcheddol strategol a gweithio mewn partneriaeth yn fewnol o fewn CNC ac yn allanol gyda rhanddeiliaid gyda’r nod o fynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol allweddol sy’n wynebu ein cymunedau amrywiol.

Rydym yn canolbwyntio ar gyflawni datrysiadau integredig, seiliedig ar le, sy’n cefnogi ecosystemau a thirweddau gwydn, yn lleihau llygredd a pherygl llifogydd, ac sy’n hyrwyddo mynediad at aer glân, dŵr glân, a mannau gwyrdd. Mae ein gwaith yn sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei werthfawrogi, ei ymgorffori wrth wneud penderfyniadau, a’i gefnogi drwy bartneriaethau cynhwysol a theg.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Rhoi eich hyfforddiant proffesiynol ar waith mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn.
  • Datblygu perthnasoedd gwaith da, yn fewnol ac yn allanol.
  • Darparu cymorth i arweinwyr Datganiad Ardal i helpu i gyflwyno’r Datganiad Ardal, yn enwedig o amgylch y themâu canlynol: Cysylltu Pobl â Natur, Gweithio gyda Dŵr ac Adeiladu Ecosystemau Gwydn, a’n gwaith yn cyflawni Cynlluniau Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB).
  • Cefnogi’r gwaith a wneir gan le Canol De Cymru: gan gynnwys ein cynllun cyfathrebu gweithrediadau a meithrin perthynas gyda’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau a swyddogion etholedig.
  • Cefnogi datblygiad a monitro prosiectau a ariennir yn allanol gan gymryd cyfrifoldeb am rai agweddau ar y rhaglen. Cymryd rhan yn y broses o ddatblygu, monitro, adolygu ac adrodd ar y Cynllun Lle integredig, gan weithio’n gyd-gynhyrchiol gyda thimau yn y lle.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)  
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Cymhwyster gradd mewn disgyblaeth berthnasol gyda chymhwysiad amgylcheddol, fel ecoleg, rheolaeth amgylcheddol, gwyddor amgylcheddol, neu ddaearyddiaeth.
  2. Sgiliau ysgrifenedig a llafar da a’r gallu i gyfathrebu’n hyderus, gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
  3. Sgiliau rhyngbersonol da gyda’r gallu i weithio dan bwysau gan weithio’n ddigymell i fodloni terfynau amser caeth.
  4. Sgiliau TGCh da, gan gynnwys hyfedredd mewn rhaglenni Microsoft Office fel Word, Excel, Outlook a PowerPoint.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 – Lefel mynediad

Gofynion y Gymraeg

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Gwybodaeth ychwanegol

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau. 

Oni nodir yn wahanol yn yr adran ‘Rôl’ yn yr hysbyseb hon, ni all Cyfoeth Naturiol Cymru gynnig nawdd fisa ar gyfer y swydd hon. Er bod gennym drwydded ar gyfer nawdd fisa i Weithwyr Medrus, mae ond yn berthnasol i rolau penodol sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a’r gofynion cyflog a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y llwybr fisa i Weithwyr Medrus. 

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn gweithredu polisi o gyfle cyfartal heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.   

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i’n staff ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i’w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. 

Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd am weithio’n llawn amser, rhan-amser neu rannu’r swydd.

Lleoliad i Raddedigion - Pobl a Lleoedd

Yn ôl i swyddi