Lleoliad i Ôl-raddedigion, Mapio a Dadansoddi Data Llongau Pysgota
£33,755-£36.693
Natural Resources Wales
Flexible
Awst 16, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Y rôl
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwilio am unigolyn ôl-raddedig i ymuno â lleoliad tymor penodol cyffrous i helpu i gyflawni prosiect tystiolaeth forol â blaenoriaeth uchel. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar fapio a dadansoddi gwerth pedair blynedd o ddata lleoliad llongau pysgota sydd wedi’i gasglu drwy Systemau Monitro Llongau (VMS), gan helpu i ddarparu’r dystiolaeth ofodol gadarn sydd ei hangen i gefnogi cyfrifoldebau cynghori ac adrodd morol CNC.
Dyma gyfle ardderchog i unigolyn sydd wedi graddio’n ddiweddar, neu i rywun sydd wrthi’n cwblhau PhD neu brosiect ôl-ddoethurol, yn ddelfrydol ym maes gwyddorau môr neu bysgodfeydd. Bydd cyfle i roi uwch sgiliau dadansoddi ar waith mewn prosiect sydd o bwys cenedlaethol. Bydd eich gwaith yn cael effaith uniongyrchol ar gadwraeth a rheolaeth forol yng Nghymru, a chewch ddatblygu ymhellach sgiliau y mae galw mawr amdanynt ym maes R a/neu FME, GIS, dadansoddi gofodol a phrosesu data.
Gan weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr morol profiadol mewn amgylchedd cefnogol a hyblyg, byddwch yn ennill profiad gwerthfawr o fewn sefydliad amgylcheddol pwysig, yn cyfrannu at ganlyniadau amgylcheddol ystyrlon ac yn meithrin rhwydwaith proffesiynol drwy gael eich mentora a chael cydweithio ag arbenigwyr ar draws CNC.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Gall ymgeiswyr weithio o gartref, ac mae presenoldeb yn un o swyddfeydd CNC yn gwbl ddewisol. Mae lleoliad y swyddfa gytundebol yn hyblyg, a bydd swyddfa CNC briodol yn cael ei chytuno wrth benodi. Bydd y trefniadau gwaith yn cael eu cytuno ar y cyd â’r ymgeisydd llwyddiannus, i gefnogi anghenion y busnes ac anghenion yr unigolyn.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Kirsten Ramsay at [email protected]
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Amdanom ni
Byddwch yn ymuno â Thîm Cyngor Ecosystemau Morol ac Arfordirol CNC, gan weithio’n agos â’r Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar gyfer Rhywogaethau Morol (Pysgod) a’r Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar gyfer Pysgodfeydd Morol.
Yn rhan o’r rôl, byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws swyddogaethau Strategaeth, Polisi a Thystiolaeth CNC, yn ogystal ag ystod o bartneriaid allanol. Byddwch yn cael eich cefnogi a’ch mentora drwy gydol y lleoliad, yn cymryd rhan mewn trafodaethau morol technegol, ac yn cael cyfleoedd i feithrin rhwydwaith proffesiynol gydag arbenigwyr o bob rhan o CNC.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Rhoi eich hyfforddiant proffesiynol ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn, i ddatblygu sylfaen dystiolaeth CNC drwy ddadansoddi data lleoliad llongau pysgota yn allbynnau gweithgarwch pysgota tybiedig (setiau data a mapiau).
- Datblygu llifoedd gwaith mapio, dadansoddi a phrosesu data ar gyfer data lleoliad llongau. Y nod fyddai i’r llifoedd gwaith hyn allu cael eu defnyddio yn achos setiau data yn y dyfodol.
- Gweithio’n agos gyda chynghorwyr pysgod a physgodfeydd morol CNC.
- Cyflwyno allbynnau mewn cyfarfodydd perthnasol.
- Datblygu perthnasoedd gwaith da yn fewnol ac yn allanol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Cymhwyster ôl-raddedig mewn disgyblaeth wyddonol neu ddadansoddi data perthnasol, fel gwyddorau môr, ecoleg, rheolaeth amgylcheddol, gwyddor amgylcheddol, daearyddiaeth, mathemateg, cyfrifiadura, gwyddor data ac ati.
- Profiad o weithio gyda setiau data mawr.
- Sgiliau dadansoddi data a chyfrifiadura cryf, gan gynnwys defnyddio R, GIS (ArcGIS yn ddelfrydol) ac FME, yn ddelfrydol.
- Mae gwybodaeth am wyddorau môr a physgodfeydd yn ddymunol.
- Sgiliau ysgrifenedig a llafar da a’r gallu i gyfathrebu’n hyderus.
- Sgiliau rhyngbersonol da gyda’r gallu i weithio dan bwysau gan weithio’n ddigymell i fodloni terfynau amser caeth.
- Sgiliau TGCh cryf, gan gynnwys hyfedredd mewn rhaglenni Microsoft Office fel Word, Excel, Outlook a PowerPoint.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 – Lefel mynediad
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Gwybodaeth ychwanegol
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Oni nodir yn wahanol yn yr adran ‘Rôl’ yn yr hysbyseb hon, ni all Cyfoeth Naturiol Cymru gynnig nawdd fisa ar gyfer y swydd hon. Er bod gennym drwydded ar gyfer nawdd fisa i Weithwyr Medrus, mae ond yn berthnasol i rolau penodol sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a’r gofynion cyflog a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y llwybr fisa i Weithwyr Medrus.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn gweithredu polisi o gyfle cyfartal heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i’n staff ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i’w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd am weithio’n llawn amser, rhan-amser neu rannu’r swydd.