Lleoliad Gwaith Gweithrediadau Rheilffyrdd (12 mis)
£24,242
Transport for Wales
Caerdydd
Gorffennaf 15, 2025

Disgrifiad o'r Cwmni
Byddwch yn chi eich hun
Byddwch yn rymus
Byddwch yn Fyfyriwr ar Leoliad Gwaith gyda Trafnidiaeth Cymru
Lleoliad Gwaith Gweithrediadau Rheilffyrdd
Math o gontract: Cyfnod penodol o 12 mis
**Sylwch: Mae’n rhaid i chi fod â’r hawl berthnasol i weithio yn y DU drwy gydol y lleoliad gwaith sy’n para 12 mis. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**
Ein rhaglen lleoliad gwaith 12 mis
P’un a ydych chi yn y brifysgol ac yn chwilio am leoliad gwaith 12 mis, neu wedi graddio’n ddiweddar ac yn chwilio am gyfle i ddatblygu, mae ein rhaglen lleoliad gwaith 12 mis yn gyfle gwych i gael cipolwg ar ddiwydiant sy’n datblygu drwy’r amser.
Beth fyddai fy nghyfrifoldebau?
Cefnogi amrywiaeth o brosiectau o fewn Gweithrediadau Rheilffyrdd, gan gyfrannu at flaenoriaethau allweddol fel cynllunio gweithredol, diogelwch, profiad cwsmeriaid, cyfathrebu a gwella perfformiad.
A oes unrhyw ofynion hanfodol?
- I wneud cais am y swydd hon, rhaid i chi fod yn y brifysgol wrth wneud cais am leoliad gwaith 12 mis, neu ddechrau ar y lleoliad gwaith o fewn blwyddyn ar ôl graddio.
- Gradd (neu’n gweithio tuag at radd) mewn pwnc perthnasol fel: Rheoli Trafnidiaeth, Logisteg, Busnes, Daearyddiaeth, Cynllunio, neu ddisgyblaethau cysylltiedig.
- Diddordeb mewn trafnidiaeth a gwella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
- Sgiliau TG gyda gwybodaeth dda am feddalwedd Microsoft Office, gan gynnwys Word ac Outlook.
- Sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol, â’r gallu i roi sylw i fanylion.
Sgiliau Cymraeg
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n gallu siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Cyfle cyfartal
Ddim yn siŵr a ydych chi’n bodloni pob gofyniad? Mae ymchwil yn dangos y gallai rhai pobl, gan gynnwys menywod a phobl o grwpiau lleiafrifol, oedi cyn ymgeisio oni bai eu bod yn teimlo’n gwbl gymwys. Os yw’r cyfle hwn o ddiddordeb i chi a’ch bod yn bodloni’r gofyniad hanfodol o fod yn y brifysgol wrth wneud cais am leoliad gwaith 12 mis, neu y byddwch chi’n cychwyn ar y lleoliad gwaith o fewn blwyddyn ar ôl graddio, rydym ni’n eich annog i wneud cais – gallai eich sgiliau, eich profiad a’ch persbectif unigryw chi fod yn berffaith i ni.
Rydym ni eisiau i bawb deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Mae tîm amrywiol, sy’n cynrychioli pob rhan o gymdeithas, yn ein helpu i gyflawni ein gorau. Rydym ni’n chwilio am bobl dalentog, waeth beth fo’u cefndir.
Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol neu gymorth ychwanegol arnoch chi yn ystod y broses ymgeisio neu asesu, cofiwch roi gwybod i ni. Rydym ni yma i’ch cefnogi chi ar bob cam.
Y camau nesaf
Ai dyma’r cyfle iawn i chi? Cymerwch gip ar y disgrifiad swydd sydd wedi’i atodi i gael gwybod mwy neu cysylltwch ag aelod o’n tîm Doniau Cynnar i gael sgwrs.
Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam ymgeisio, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad terfynol.
Yn TrC, rydym ni’n awyddus i weld eich sgiliau, eich potensial a’ch brwdfrydedd. Er ein bod yn llwyr gefnogi defnyddio deallusrwydd artiffisial fel adnodd dysgu, rydym am asesu ymgeiswyr ar sail eu galluoedd eu hunain.
Felly, rhaid cwblhau ceisiadau heb gymorth deallusrwydd artiffisial. Os byddwn ni’n canfod cynnwys deallusrwydd artiffisial, yn anffodus ni fyddwn yn gallu ystyried y cais.
Rydym ni eisiau rhoi cyfle teg i bawb ddangos eu cryfderau, felly os oes angen unrhyw addasiadau arnoch chi yn ystod y broses ymgeisio neu gyfweld, cofiwch roi gwybod i ni – rydym ni’n fwy na pharod i’ch cefnogi chi.