Lleoliad Graddedigion Rheoli Risg Llifogydd
£30,008 - £32,107
Natural Resources Wales
Conwy
Gorffennaf 8, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Y rôl
Ydych chi wedi graddio’n ddiweddar ac yn awyddus i gael profiad mewn Rheoli Risg Llifogydd? Mae gennym gyfle cyffrous i raddedigion (o fewn y 18 mis diwethaf) mewn pynciau fel gwyddor yr amgylchedd, rheoli amgylcheddol neu ddaearyddiaeth.
Byddwch yn ymuno â’n tîm Rhybuddio a Hysbysu, gan gefnogi’r gwaith o ddarparu ein gwasanaeth rhybuddio llifogydd. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda chydweithwyr a phartneriaid, helpu cymunedau i ddeall risg llifogydd a pharatoi cynlluniau llifogydd, a chefnogi ymateb i ddigwyddiadau yn ystod llifogydd.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i weithio gyda thimau Rheoli Perygl Llifogydd eraill i ehangu eich profiad.
Byddwch yn rhan o dîm cefnogol, yn ymgysylltu â’r cyhoedd, partneriaid proffesiynol a Fforymau Gwydnwch Lleol.
Mae gyrru yn rhan hanfodol o’r swydd hon. Mae’r rôl yn gofyn am deithio’n rheolaidd ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru i fynd i swyddfeydd a safleoedd. Rhaid i chi gael trwydded yrru llawn a chyfredol y DU.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Rhys Hughes at [email protected]
Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb 31/07/2026 (bydd manylion lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cefnogi’ cyflawni cynlluniau gwaith, a grëwyd gan y tîm ac sy’n cyfrannu at gyflawni cynlluniau busnes.
- Cynnal cofnodion a gwybodaeth yn unol â rheoliadau/deddfwriaeth a safonau y cytunwyd arnynt.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd allanol gydag aelodau eraill o’r tîm.
- Rhyngweithio â chymheiriaid mewn timau CNC eraill.
- Cyfrannu at gyfrifoldeb dirprwyedig y tîm ar gyfer cyflawni rhaglenni gwaith.
- Gwaith arall yn ôl cyfarwyddyd y rheolwr llinell.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gradd mewn disgyblaeth sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd a chynaliadwyedd o sefydliad addysg uwch.
- Dealltwriaeth dda o egwyddorion rheoli risg llifogydd.
- Sgiliau ysgrifenedig a llafar da a’r gallu i gyfathrebu’n hyderus, gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Sgiliau rhyngbersonol da gyda’r gallu i weithio dan bwysau gan weithio’n ddigymell i gwrdd â therfynau amser caeth.
- Sgiliau TGCh cryf, gan gynnwys hyfedredd mewn rhaglenni Microsoft Office fel Word, Excel, Outlook a PowerPoint.
- Trwydded yrru lawn y DU.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 – Lefel mynediad
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Gwybodaeth ychwanegol
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Oni nodir yn wahanol yn yr adran ‘Rôl’ yn yr hysbyseb hon, ni all Cyfoeth Naturiol Cymru gynnig nawdd fisa ar gyfer y swydd hon. Er bod gennym drwydded ar gyfer nawdd fisa i Weithwyr Medrus, mae ond yn berthnasol i rolau penodol sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a’r gofynion cyflog a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y llwybr fisa i Weithwyr Medrus.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn gweithredu polisi o gyfle cyfartal heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i’n staff ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i’w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd am weithio’n llawn amser, rhan-amser neu rannu’r swydd.