Lleoliad Graddedig Cadwraeth

£32,544 - £35,377

Natural Resources Wales

Hydref 19, 2025

Full-time

Disgrifiad o'r Cwmni

Y rôl

Ydych chi wedi graddio’n ddiweddar ac yn teimlo’n angerddol ynglŷn â natur, cynaliadwyedd, ac eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol? Ymunwch â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn rôl hanfodol sy’n cefnogi ffermwyr i amddiffyn a gwella safleoedd naturiol pwysicaf Cymru drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Fel rhan o’n rhaglen lleoliadau ôl-raddedig newydd, byddwch yn cael profiad ymarferol sy’n mynd ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Byddwch yn ymwneud ag amrywiaeth eang o waith cyffrous, gan gynnwys:

  • Cynnal asesiadau ecolegol yn y maes
  • Dadansoddi a dehongli data amgylcheddol
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda ffermwyr i gytuno ar gamau rheoli tir ymarferol a chynaliadwy
  • Cefnogi’r broses gydsynio ar gyfer gweithgareddau ar safleoedd gwarchodedig
  • Defnyddio tystiolaeth o’r byd go iawn, setiau data a systemau amgylcheddol i lywio eich gwaith

Byddwch wedi eich lleoli mewn timau amgylcheddol lleol ledled Cymru, sy’n golygu y byddwch yn cael rhoi eich gwybodaeth ar waith mewn lleoliadau byd go iawn lle bydd eich gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Er bod y tîm yn cael ei reoli’n ganolog, mae’r lleoliad yn cynnig hyblygrwydd, profiad ar lawr gwlad, a chyfle i ddatblygu eich rhwydwaith ar draws y sector.

Mae hwn yn gyfle unigryw i adeiladu sylfaen gref mewn rheolaeth amgylcheddol, datblygu eich sgiliau proffesiynol, a chwarae rhan weithredol wrth lunio dyfodol mwy cynaliadwy i Gymru.

Mae’r lleoliadau hyn wedi’u hanelu at unigolion sydd wedi cwblhau gradd ôl-raddedig, neu radd israddedig gyda phrofiad perthnasol yn y maes.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag

Callum Stone at [email protected] neu

Russell De’Ath ar [email protected]

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb, dyddiad a lleoliad i’w cadarnhau.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.

Amdanom ni

Mae’r Grŵp Tir a Natur Cynaliadwy yn chwarae rhan ganolog wrth gyflawni gweledigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru — lle mae natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd. Rydym yn arwain y ffordd ar ddiogelu, adfer a rheoli adnoddau naturiol tir Cymru mewn ffordd gynaliadwy.

Mae ein meysydd gwaith yn cynnwys ecosystemau a rhywogaethau daearol, rheoli tir cynaliadwy, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC), coetiroedd a choedwigaeth, a phriddoedd. Rydym yn datblygu polisi a strategaeth, yn darparu cyngor arbenigol, ac yn cydlynu cynllunio amgylcheddol integredig i gefnogi adferiad natur a gwydnwch yn wyneb yr hinsawdd.

Gan weithio ar draws CNC a chyda phartneriaid, rydym yn darparu canllawiau technegol, yn llunio rhaglenni tystiolaeth, ac yn sicrhau bod ein Rhaglen Tir a Natur yn cael ei chyflwyno’n effeithiol — gan helpu i sicrhau dyfodol iachach a mwy cynaliadwy i Gymru.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Helpu i gyflawni a chefnogi gwasanaeth Cynllun Rheoli Safleoedd Dynodedig (DSMP) y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC), gan gynnwys ystod o weithgareddau sy’n angenrheidiol i ysgrifennu’r cynllun rheoli ac i gytuno â’r "amserlen waith".
  • Cymhwyso eich hyfforddiant proffesiynol mewn sefyllfaoedd byd go iawn
  • Datblygu perthnasoedd gwaith da yn fewnol ac yn allanol gyda thimau amgylcheddol sy’n cefnogi staff profiadol i gynnal asesiadau mwy cymhleth neu dechnegol
  • Cysgodi a chefnogi’r broses gysynio fel eich bod, erbyn diwedd cyfnod y lleoliad, yn gymwys i ddelio â chaniatâd SoDdGA.
  • Gweithio gyda systemau a data Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cynlluniau rheoli, camau gweithredu a phenderfyniadau’n cael eu cofnodi yn unol â chytundebau lefel gwasanaeth, i gefnogi gweinyddwr y busnes.
  • Gweithio gyda’r gweinyddwr busnes ar gyfer gwasanaeth CFfC DSMP, gan gynnwys cefnogi’r Cynghorydd Arbenigol Arweiniol i gydlynu rheoli risg, camau gweithredu, penderfyniadau a materion, penderfyniadau recriwtio a chyfathrebu a chefnogi datblygiad a chynnal a chadw parhaus cofrestr risg gwasanaeth DSMP.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau

  1. Cymhwyster gradd mewn disgyblaeth berthnasol, megis ecoleg, rheolaeth amgylcheddol, gwyddor amgylcheddol, daeareg, amaethyddiaeth gynaliadwy neu wyddoniaeth amaethyddol.
  2. Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth.
  3. Hunan-gymhelliant a greddf.
  4. Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn fewnol a chyda rhanddeiliaid allanol.
  5. Gallu cadarn i ddadansoddi a dehongli gwybodaeth – mae hyn yn hanfodol.
  6. Y gallu i ddefnyddio data a gwybodaeth yn hyderus a chyflwyno data gan ddefnyddio systemau Microsoft.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel C1 – Hyfedredd

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.   

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i’n staff ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i’w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd am weithio’n llawn amser, rhan-amser neu rannu’r swydd.

Lleoliad Graddedig Cadwraeth