Intern Busnes Haf
Competitive
M Sparc
Gaerwen
Gorffennaf 31, 2025

Disgrifiad o'r Cwmni
Diben y Swydd
Mae’r interniaeth hon yn cynnig cyfle i ennill profiad uniongyrchol gwerthfawr o fewn amgylchedd deinamig ac arloesol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu profiad mewn cymorth busnes. Byddwch yn datblygu gwybodaeth am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu busnesau yn y rhanbarth, yn ogystal â sgiliau allweddol fel trefnu, cyfathrebu a datrys problemau. Gan weithio’n agos gyda thîm cefnogol, byddwch yn cyfrannu at brosiectau go iawn, yn meithrin hyder yn y gweithle, ac yn dyfnhau eich dealltwriaeth o’r ystod o gymorth sydd ar gael i fusnesau yn lleol ac ar draws Cymru, a sut mae hyn yn sail i lwyddiant cwmnïau o fewn ecosystem M-SParc.
Bydd yr interniaeth yn cefnogi M-SParc i ddatblygu a ffynnu fel Parc Gwyddoniaeth a sefydliad cymorth busnes mwyaf blaenllaw Cymru, ac yn annog diwylliant entrepreneuraidd o fewn y gymuned fusnes leol. Bydd y rôl yn helpu i gynnal a datblygu perthynas â chwmnïau tenant a’r gymuned fusnes ehangach, gan weithio gyda rhanddeiliaid allanol, datblygu a chefnogi prosiectau ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai.
Gwneud Gwahaniaeth.
Mae hwn yn gyfle cyffrous ac yn gyfle gyrfa ardderchog i weithio i’r Parc Gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf yng Nghymru. Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr o weithio ar draws sawl prosiect arloesol a gydnabyddir gan Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig fel prif ysgogwyr economaidd yn y rhanbarth. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm bach sy’n ymroddedig i wella ffyniant pobl Gogledd Cymru. Mae hwn yn gyfle i wneud argraff yn ogystal ag ennill profiad gwerthfawr mewn STEM a chymorth busnes.
Mae M-SParc (is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Brifysgol Bangor) yn gweithredu Parc Gwyddoniaeth ar Ynys Môn a nifer o gyfleusterau ‘Allgymorth’ yng Ngwynedd sydd â’r nod o gefnogi mentrau a phrosiectau sy’n cael eu harwain gan wybodaeth i dyfu a llwyddo. Mae rhagor o fanylion ar ein gwefan www.m-sparc.com .
Teitl y Swydd – Intern Busnes Haf
Yn Atebol i Cydlynydd Cymorth Busnes Gwynedd
Lleoliad Parc Gwyddoniaeth Menai; Ynys Môn
Oriau Gwaith Dydd Llun i Ddydd Gwener 37.5 awr yr wythnos. Mae’r hyblygrwydd i weithio oriau anghymdeithasol achlysurol iawn ar gyfer digwyddiadau yn hanfodol.
Cyflog Cyflog Byw Gwirioneddol £12.60
Tymor 8 wythnos Mehefin – Medi – dyddiad union i’w gadarnhau gyda’r intern
Byddwch yn Hyderus
Rydym yn ymwybodol na fydd rhai adrannau o’r ddemograffeg yn gwneud cais am rolau onibai eu bod yn bodloni 100% o’r meini prawf. Rydym yn eich annog i ystyried eich profiad a’ch angerdd a chymhwyso hyn i’ch cais, hyd yn oed os nad ydych yn bodloni’r holl feini prawf. Mae hyn yn berthnasol yn benodol i fenywod a phobl o’r mwyafrif byd-eang. Gallwn ddarparu’r ddogfen hon mewn amrywiaeth o fformatau os oes gennych ofynion ychwanegol.
Rhanddeiliaid Allweddol
Mae M-SParc yn dibynnu ar berthynas gref a gweithredol gydag amrywiaeth o sefydliadau allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i – Llywodraethau Lleol, Cymru a’r DU, Busnes Cymru, Prifysgol Bangor a sefydliadau addysg eraill, Banc Datblygu Cymru, Banc Busnes Prydain, a Menter Môn. Bydd y rôl hon yn caniatáu ichi adeiladu eich rhwydwaith gyda’r sefydliadau hyn.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Fel ein intern haf, byddwch yn cael cyfle i weithio ar draws M-SParc, gan ganolbwyntio ar gymorth busnes a busnes, ond gan ddysgu elfennau o gymorth busnes, arloesedd, ymchwil, marchnata a mwy. Isod mae’r gweithgareddau y cynigir i chi eu gwneud, ond bydd hyn o dan arweiniad a chyda chefnogaeth i uwchsgilio ac ennill profiad.
1. Cymorth a Gweinyddiaeth Busnes
- Cwrdd â busnesau, ochr yn ochr â Thîm Cymorth Busnes M-SParc, i ddeall gofynion a dysgu pa gymorth sydd ar gael yn y rhanbarth ac a gynigir i gwmnïau arloesol.
- Cysgodi’r Tîm Cymorth Busnes, ac aelodau o dîm Busnes Cymru, i ddysgu mwy am y cyfleoedd a gynigir yn y rhanbarth, o gymorth digidol a charbon isel arbenigol i sgiliau a chyllid.
- Cefnogi datblygiad cynlluniau busnes, gan ddefnyddio eich sgiliau presennol a dysgu beth sy’n gwneud cynllun busnes da.
- Gweithio gyda’r tîm i brofi a rhoi adborth ar brosiect MySparc; system newydd ei datblygu i gefnogi busnesau, unigolion a sefydliadau cymorth busnes i gysylltu a symleiddio’r cynnig Cymorth Busnes.
- Ymchwilio i dueddiadau diwydiant, technolegau sy’n dod i’r amlwg, a thirweddau cystadleuol, gan roi adborth ar ganfyddiadau i dîm M-SParc a’u cefnogi yn eu nod o aros yn arloesol.
- Cyflwyniad i wahanol fathau o gymorth ariannol i fusnesau, rhwystrau i gyllid a nodi cyfleoedd i gefnogi busnesau o ran cael mynediad at gyllid.
2. Arloesi ac Ymchwil
- Gweithio gyda’r tîm gweithredol i ddysgu sut mae sefydliad mawr fel M-SParc yn gweithio.
- Cynnal ymchwil ar dueddiadau fel archebu ystafelloedd cyfarfod, i nodi amseroedd poblogaidd, ac ardaloedd heb eu defnyddio’n ddigonol, neu barcio ceir i nodi unrhyw welliannau i ymddygiad defnyddwyr, er enghraifft.
- Dysgu sgiliau cymorth busnes arbennig, gan ennill ymwybyddiaeth o’r holl elfennau dynol sydd eu hangen i wneud adeilad mawr aml-denant yn llwyddiant.
3. Digwyddiadau a Marchnata
- Helpu i drefnu gweithdai a digwyddiadau rhwydweithio ar draws lleoliadau M-SParc, gan edrych ar ddigwyddiadau presennol gan M-SParc a sefydliadau eraill ac awgrymu pynciau.
- Cymryd diddordeb mewn marchnata, cysgodi’r tîm marchnata a dysgu neu gynnig cyngor ar dueddiadau, marchnata effeithiol, a chyfathrebu.
- Casglu adborth a chynorthwyo gyda dadansoddiad ar ôl digwyddiad neu ddadansoddi ymgysylltiad a rhyngweithio ar gyfryngau cymdeithasol penodol ar gyfer postiadau penodol.
4. Adborth ar yr Interniaeth
- ·Myfyrio ar gynnydd a chanlyniadau dysgu yn ystod ac ar ôl yr interniaeth ac adrodd arnynt.
5. Dyletswyddau Cyffredinol
- Gwneud penderfyniadau annibynnol, o fewn y fframwaith y cytunwyd arno gan Gyfarwyddwr y Cwmni, a rheoli eu gwaith pan fyddant yn absennol.
- Cynllunio, blaenoriaethu a threfnu eich gwaith eich hun i gyflawni amcanion y cytunwyd arnynt.
- Datrys problemau o ddydd i ddydd wrth iddynt godi, gan gydnabod pryd y dylid cyfeirio problem at eraill.
- Mabwysiadu dull cadarnhaol o waith tîm, gan chwilio bob amser am gyfleoedd i weithredu fel Llysgennad i M-SParc.
- Sicrhau lefel eithriadol o Wasanaeth Cwsmeriaid.
- Unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cais y Cyfarwyddwr Gweithredol i adlewyrchu anghenion a gofynion newidiol M-SParc fel busnes.
- Dyletswyddau cyffredinol a dyletswyddau a rennir yn ôl yr angen a all gynnwys:
- Agor a chau’r adeilad yn ôl yr angen ar sail rota.
- Dyletswyddau derbynfa.
- Ymateb i ddigwyddiadau a senarios i sicrhau iechyd a lles staff a thenantiaid fel ei gilydd.
Effaith
- Bydd eich rôl a’ch perfformiad yn effeithio’n uniongyrchol ar berfformiad M-SParc, ein tenantiaid a’n rhanddeiliaid ac economi’r rhanbarth.
- Byddwch yn gwneud cyfraniad allweddol at Strategaeth M-SParc 2030 drwy gefnogi cyflawni effaith economaidd fesuradwy a manteision cymdeithasol i’r rhanbarth, meithrin diwylliant entrepreneuraidd, ysbrydoli ein partneriaid gyda’n hegni, ein brwdfrydedd a’n hagwedd "medrwn”, darparu cyfleoedd cyflogaeth i weithwyr medrus a dyfodol cadarnhaol i bobl ifanc yn y rhanbarth fod yn falch ohono ac anelu ato, a datblygu’r sgiliau yn y rhanbarth; i ysbrydoli pobl ifanc yn y sector.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae M-SParc wedi ymrwymo i hyrwyddo Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Iaith Gymraeg ym mhob un o’n gweithgareddau. Mae hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, a’r iaith Gymraeg yn helpu i feithrin y diwylliant cynhwysol a blaengar y mae M-SParc yn falch ohono.
Diffyg hyder yn eich sgiliau yn y Gymraeg? Efallai nad ydych chi wedi’i defnyddio ers tro neu ers i chi adael addysg? Fel sefydliad sy’n gweithredu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, rydym yn awyddus i gefnogi ymgeiswyr sydd am fagu hyder yn yr iaith.
Sut i Wneud Cais
Yn M-SParc rydyn ni’n angerddol ynglŷn ag arloesedd ac eisiau adlewyrchu hynny yn ein recriwtio hefyd – felly rydyn ni’n croesawu ceisiadau am rôl intern ym mha bynnag fformat sy’n fwyaf addas i chi. Gall hynny fod y CV a’r llythyr eglurhaol traddodiadol, neu os yw’n well gennych anfon fideo byr, podlediad, cyflwyniad, neu rywbeth creadigol arall, byddem wrth ein bodd yn gweld eich personoliaeth a’ch syniadau’n disgleirio. Yr hyn sy’n
bwysicaf yw eich brwdfrydedd, eich parodrwydd i ddysgu, a’ch diddordeb mewn bod yn rhan o’r gwaith cyffrous a wnawn yn M-SParc. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Siôn Wynne, Cydlynydd Cymorth Busnes Gwynedd ar [email protected]