Hyfforddai Proffesiynol Trethi a Budd-daliadau
£31,537 - £33,699
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Mai 29, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Lleoliad: Pencadlys, Pwllheli a Dolgellau
MEDDWL. MENTRO. MWYNHAU.
Wyt ti wedi ystyried gyrfa ym maes treth a budd-daliadau?
Mae Cynllun Yfory (cynllun graddedigion cyngor Gwynedd) yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd â gradd 2:2 neu gyfwerth ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae’n gyfle i ti ddatblygu arbenigedd mewn maes allweddol a deall mwy am weithio mewn llywodraeth leol. Mi fyddi di yn derbyn profiadau ymarferol a chyfleoedd i ddatblygu dy sgiliau arbenigol a phersonol i sicrhau gyrfa hir a llwyddiannus yma.
Pwrpas y Swydd.
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau cymhwyster uwch a datblygu i fod yn arweinydd ac yn arbenigwr yn y maes.
- Mae’r Gwasanaeth Budd-daliadau a Threthi Gwynedd yn prosesu ceisiadau am gymorth ariannol fel Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor a chymorth addysg, yn ogystal â chasglu trethi’n effeithlon i helpu dinasyddion dalu eu costau hanfodol.
Prif Ddyletswyddau.
- Prif bwrpas y Gwasanaeth Budd-daliadau yw i brosesu ceisiadau Budd-dal Tai, Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor, Budd-daliadau Addysg (Cinio am Ddim a Grant Datblygu Disgyblion), Taliadau Tai Dewisol.
- Bydd yr hyfforddai yn cefnogi gweinyddu ystod o wasanaethau trethi a budd-daliadau, prosesu grantiau a biliau, rhedeg adroddiadau ar systemau arbenigol, ac ymateb i ymholiadau, ohebiaeth ac apeliadau.
- Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
- Gweithio gyda systemau arbenigol megis MRI ac Opentext, a chynorthwyo gyda phrofi ac uwchraddio meddalwedd.
- Cefnogi archwiliadau mewnol ac allanol, gan gynnwys paratoi ymatebion a dogfennau perthnasol.
- Delio’n uniongyrchol â’r cyhoedd ar faterion Budd-daliadau, Treth Cyngor a Threthi Annomestig, gan gynnwys trafod materion sensitif.
- Mynychu apeliadau budd-dal a chynorthwyo gyda pharatoi dogfennau llys ac achosion sy’n ymwneud â thwyll neu ôl-ddyledion treth.
- Cysgodi Arolygwyr Trethi Lleol ac ymgysylltu ag ystod eang o asiantaethau allanol.
- Cyfrannu at brosiectau’r gwasanaeth, casglu data, ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a hyrwyddo gwasanaethau megis hunanwasanaeth ar-lein.
- Cymhwyso’r gyfraith berthnasol i sefyllfaoedd trigolion Gwynedd a chael profiad o unedau eraill yn yr Adran Cyllid.
- Dilyn polisïau’r Cyngor o ran iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu data a lleihau carbon.
DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected] neu cysylltwch hefo Lisa Thomas ar 01286679094
Am ragor o wybodaeth - Cynllun Yfory
Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.