Hyfforddai Proffesiynol Cynllunio
£31,537 - £33,699
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Mai 29, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
MEDDWL. MENTRO. MWYNHAU.
Wyt ti wedi ystyried gyrfa ym maes marchnata?
Mae Cynllun Yfory (cynllun graddedigion cyngor Gwynedd) yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd â gradd 2:2 neu gyfwerth ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae’n gyfle i ti ddatblygu arbenigedd mewn maes allweddol a deall mwy am weithio mewn llywodraeth leol. Mi fyddi di yn derbyn profiadau ymarferol a chyfleoedd i ddatblygu dy sgiliau arbenigol a phersonol i sicrhau gyrfa hir a llwyddiannus yma.
Pwrpas y Swydd.
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau cymhwyster uwch a datblygu i fod yn arweinydd ac yn arbenigwr yn y maes.
- Cefnogi’r Adran i gyfathrebu, marchnata a chreu cynnwys digidol effeithiol sy’n hyrwyddo ei gwasanaethau, prosiectau a lleoliadau allweddol ar draws Gwynedd.
Prif Ddyletswyddau.
- Mae Adran Economi Gwynedd yn gweithio i gryfhau economi’r sir drwy gefnogi busnesau, datblygu cymunedau, hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy a chreu cyfleoedd gwaith o ansawdd i drigolion.
- Mae’r rôl yn canolbwyntio ar greu a chyflwyno cynnwys digidol ac ymgyrchoedd cyfathrebu i hyrwyddo gwaith amrywiol yr Adran Economi, gan gynnwys cynhyrchu fideos, erthyglau a deunydd ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a gwefannau’r Cyngor.
- Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
- Cefnogi gwasanaethau amrywiol yr Adran gan gynnwys Datblygu Economaidd, Cefnogi Busnes, Adfywio Cymunedol, Twristiaeth a Marchnata, Morwrol, Parciau Gwledig, Amgueddfeydd, Celfyddydau, Archifau a Llyfrgelloedd.
- Gweithio ar draws sawl lleoliad ac ased allweddol fel Parc Padarn, Parc Glynllifon, Llyfrgelloedd Gwynedd, STORIEL, Amgueddfa Lloyd George, harbwr Pwllheli a thraethau’r sir.
- Cefnogi gofynion cyfathrebu, ymgysylltu a marchnata’r gwasanaethau mewn amgylchedd gwaith amrywiol a deinamig.
- Datblygu sgiliau rheoli prosiectau, blaenoriaethu llwyth gwaith ac arwain eraill i gyflawni amcanion.
- Creu a chyflwyno cynlluniau cyfathrebu strategol, marchnata a chynlluniau ar gyfer datblygiadau a phrosiectau.
- Datblygu a defnyddio technegau marchnata digidol cyfoes wrth ymateb i dueddiadau a thechnolegau newydd.
- Rheoli ac ddefnyddio adnoddau creadigol gan gynnwys offer cynhyrchu cynnwys digidol fel lluniau a fideos.
- Dilyn polisïau’r Cyngor o ran iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu data a lleihau carbon.
DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected] neu cysylltwch hefo Lisa Thomas ar 01286679094
Am ragor o wybodaeth - Cynllun Yfory
Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.