Hyfforddai Proffesiynol Iechyd, Diogelwch a Llesiant

£31,537 - £33,699

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Awst 28, 2026

Full-time
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Lleoliad: Caernarfon

MEDDWL. MENTRO. MWYNHAU.

Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes yma?

Mae Cynllun Yfory (cynllun graddedigion cyngor Gwynedd) yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd â gradd 2:2 neu gyfwerth ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.

Mae’n gyfle i ti ddatblygu arbenigedd mewn maes allweddol a deall mwy am weithio mewn llywodraeth leol. Mi fyddi di yn derbyn profiadau ymarferol a chyfleoedd i ddatblygu dy sgiliau arbenigol a phersonol i sicrhau gyrfa hir a llwyddiannus yma.

DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 28/08/2026

Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.

Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.

Cynhelir cyfweliadau ar 15/09/2026


______________________________________________________________-

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

Sgiliau rhyng-bersonol da gyda’r gallu i ddylanwadu a dwyn perswad.

Agwedd diplomatig a chydsyniol tuag at ddatrys problemau.

Gweithio’n hyblyg o fewn fframwaith tim

Ymrwymiad i lwyddo ac adnabod cyfleon i wella gwasanaeth 

Y gallu i weithio dan bwysau ac yn arddangos blaengaredd/ “gweld gwaith” 

Trwydded Yrru.

Gwiriad DBS – bydd y Cyngor yn gyfrifol am wneud y gwiriad yma ar yr ymgeisydd llwyddiannus.

DYMUNOL

-

CYMWYSTERAU  A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

Graddedig neu gyda chymhwyster cyfatebol

Yn fodlon ymgymryd â chymwysterau addas megis y Dystysgrif Cyffredinol Cenedlaethol NEBOSH a Diploma Cenedlaethol NEBOSH

DYMUNOL

-

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

Diddordeb mewn gweithio yn y maes iechyd, diogelwch, neu lesiant

Profiadau yn ymwneud â iechyd, diogelwch, neu lesiant yn y gwaith, wrth gwblhau cymwhyster neu mewn bywyd personol

DYMUNOL

-

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL 

HANFODOL

Gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf ym maes iechyd a diogelwch.

Dealltwriaeth o systemau a threfniadau rheoli iechyd a diogelwch.

DYMUNOL

Gallu i ddefnyddio cyfrifiadur ynghyd a gwybodaeth am becynnau Microsoft Office e.e. Word, Excel, Powerpoint

Sgiliau rheoli prosiect.

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch

Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg  ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.  Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch

Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Lefel Uwch

Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith).


Hyfforddai Proffesiynol Iechyd, Diogelwch a Llesiant

Yn ôl i swyddi