Hyfforddai Proffesiynol Cynnal Tiroedd

£31,537 - £33,699

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Mai 29, 2026

Full-time
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

MEDDWL. MENTRO. MWYNHAU.

Wyt ti wedi ystyried gyrfa ym maes cynnal tiroedd?

Mae Cynllun Yfory (cynllun graddedigion cyngor Gwynedd) yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd â gradd 2:2 neu gyfwerth ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.

Mae’n gyfle i ti ddatblygu arbenigedd mewn maes allweddol a deall mwy am weithio mewn llywodraeth leol. Mi fyddi di yn derbyn profiadau ymarferol a chyfleoedd i ddatblygu dy sgiliau arbenigol a phersonol i sicrhau gyrfa hir a llwyddiannus yma.

Pwrpas y Swydd.

  • Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau cymhwyster uwch a datblygu i fod yn arweinydd ac yn arbenigwr yn y maes.
  • Mae Gwasanaeth Cynnal Tiroedd Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am gynnal a rheoli ystod eang o ardaloedd gwyrdd, mynwentydd, cyfleusterau addysg a mannau chwarae ar draws y sir.

Prif Ddyletswyddau.

  • Cefnogi gwaith Cynnal Tiroedd ar draws gwasanaethau bwrdeistrefol, addysg a phartneriaid allanol, gan gymryd rhan mewn tasgau amrywiol fel cynnal tiroedd, prosiectau bioamrywiaeth a gwaith brys.
  • Mae’r rôl Hyfforddai Cynnal Tiroedd yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau proffesiynol wrth gyfuno gwaith ymarferol, gwaith swyddfa a gwneud penderfyniadau sy’n dylanwadu ar wasanaethau ledled Gwynedd.
  • Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
    • Gweithio ar draws ystod eang o wasanaethau gan gynnwys gwaith bwrdeistrefol, addysg a phartneriaid fel Priffyrdd, Byw’n Iach ac NMWTRA.
    • Ennill profiad mewn tasgau amrywiol megis cynnal tiroedd, prosiectau bioamrywiaeth, gwaith peirianneg ymarferol a chefnogi cydymffurfiaeth mewn mynwentydd.
    • Delio â chleientiaid a’r cyhoedd, gan ddatblygu sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmer.
    • Ymateb i waith brys fel llifogydd, bagiau tywod neu waith coed pan fo angen.
    • Dysgu sut i flaenoriaethu a gwneud penderfyniadau sy’n cael effaith ar wasanaethau a chymunedau Gwynedd.
    • Cyfuno gwaith swyddfa â gwaith ymarferol, gan gynnwys cynllunio gwaith a chefnogi timau ar y tir.
    • Datblygu sgiliau mewn meysydd fel garddwriaeth, bioamrywiaeth, peirianneg sifil, iechyd a diogelwch a gofal cwsmer.
    • Cael profiad mewn amgylchedd deinamig sy’n meithrin hyblygrwydd ac amlddisgyblaeth.
    • Dilyn polisïau’r Cyngor o ran iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu data a lleihau carbon.

 

DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026

Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected] neu cysylltwch hefo Lisa Thomas ar 01286679094

Am ragor o wybodaeth - Cynllun Yfory

Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.

Hyfforddai Proffesiynol Cynnal Tiroedd

Yn ôl i swyddi