Hyfforddai Proffesiynol Cynllunio a Pheirianneg Trafnidiaeth
£31,537 - £33,699
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Mai 29, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
MEDDWL. MENTRO. MWYNHAU.
Wyt ti wedi ystyried gyrfa ym maes cynllunio a pheirianneg trafnidiaeth?
Mae Cynllun Yfory (cynllun graddedigion cyngor Gwynedd) yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd â gradd 2:2 neu gyfwerth ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae’n gyfle i ti ddatblygu arbenigedd mewn maes allweddol a deall mwy am weithio mewn llywodraeth leol. Mi fyddi di yn derbyn profiadau ymarferol a chyfleoedd i ddatblygu dy sgiliau arbenigol a phersonol i sicrhau gyrfa hir a llwyddiannus yma.
Pwrpas y Swydd.
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau cymhwyster uwch a datblygu i fod yn arweinydd ac yn arbenigwr yn y maes.
- Mae YGC yn darparu gwasanaeth ymgynghori amlddisgyblaethol sy’n cefnogi dylunio ac adeiladu seilwaith diogel a chynaliadwy ledled Cymru, tra’n cynnig cyfle i’r unigolyn ddysgu a datblygu ochr yn ochr â pheirianwyr profiadol.
Prif Ddyletswyddau.
- Mae’r prif ddyletswyddau’n cynnwys cefnogi prosiectau trafnidiaeth drwy gynnal astudiaethau, dadansoddi data a chynorthwyo gyda dylunio gwelliannau seilwaith sy’n gwella diogelwch a symudedd ar draws Gwynedd.
- Mae’r rôl yn rhoi profiad uniongyrchol o fyd peirianneg trafnidiaeth drwy weithio ar amrywiaeth o brosiectau sy’n gwella diogelwch, symudedd a seilwaith ar draws Gwynedd ochr yn ochr â pheirianwyr profiadol.
- Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
- Cefnogi prosiectau trafnidiaeth ac isadeiledd i wella diogelwch a safon bywyd trigolion Gwynedd.
- Cynnal astudiaethau dichonoldeb a diogelwch priffyrdd.
- Cyfrannu at archwiliadau diogelwch a dylunio gwelliannau ffordd ac isadeiledd bysiau.
- Dadansoddi data traffig ac asesu croesfannau cerddwyr a llwybrau cerdded a beicio.
- Adolygu data damweiniau a chynghori ar fesurau diogelwch ffordd.
- Dylunio ac ymgynghori ar arwyddion ffordd, marciau ffordd a mesurau diogelwch newydd.
- Cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus ar gynlluniau trafnidiaeth arfaethedig.
- Dilyn polisïau’r Cyngor o ran iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu data a lleihau carbon.
- Cyflawni gwaith o’r safon uchaf
- Dangos lefel uchel o Hunan ymwybyddiaeth
- Dangos y potensial i fod yn arbenigwr ac yn arweinydd
- Yn barod i herio
- Cydweithio efo pobol yn effeithiol
- Blaenoriaethu llesiant.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
- Meddu ar neu yn debygol o ennill gradd dosbarth 2:2 neu uwch.
- Fe ddylai eich gradd fod mewn pwnc sydd yn berthnasol i’r maes.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
- Trwydded yrru gyfredol ddilys
Gwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith).
DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
Cynnal cyflwyniadau ar 23/06 a 25/06.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected] neu cysylltwch hefo Lisa Thomas ar 01286679094
Am ragor o wybodaeth - Cynllun Yfory
Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.