Hyfforddai Proffesiynol Cynllunio
£31,537 - £33,699
Cyngor Gwynedd
Pwllheli
Mai 29, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
MEDDWL. MENTRO. MWYNHAU.
Wyt ti wedi ystyried gyrfa ym maes cynllunio?
Mae Cynllun Yfory (cynllun graddedigion cyngor Gwynedd) yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd â gradd 2:2 neu gyfwerth ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae’n gyfle i ti ddatblygu arbenigedd mewn maes allweddol a deall mwy am weithio mewn llywodraeth leol. Mi fyddi di yn derbyn profiadau ymarferol a chyfleoedd i ddatblygu dy sgiliau arbenigol a phersonol i sicrhau gyrfa hir a llwyddiannus yma.
Pwrpas y Swydd.
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau cymhwyster uwch a datblygu i fod yn arweinydd ac yn arbenigwr yn y maes.
- Mae’r Adran Amgylchedd yn darparu gwasanaethau rheng flaen allweddol i bobl Gwynedd, gan gynnwys cyfrifoldebau cynllunio megis rheoli datblygu a pholisi cynllunio o fewn ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd.
Prif Ddyletswyddau.
- Darparu cymorth ymarferol a phroffesiynol ar draws holl feysydd cynllunio, gan gynnwys prosesu ceisiadau, ymchwilio i orfodaeth a chyfrannu at bolisi strategol.
- Mae’r rôl Hyfforddai Proffesiynol Cynllunio yn cynnig profiad ymarferol eang mewn rheoli datblygu, gorfodaeth a pholisi cynllunio, gan gefnogi gwaith ceisiadau, ymchwil a phrosiectau strategol fel rhan o dîm cynllunio Gwynedd.
- Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
- Cynorthwyo gyda dyletswyddau rheolaeth datblygu a chydymffurfiaeth, gan gynnwys prosesu ceisiadau a pharatoi adroddiadau.
- Cefnogi cyflwyno adroddiadau mewn pwyllgorau, ymweliadau safle a chyfarfodydd perthnasol.
- Paratoi datganiadau ac adroddiadau ar gyfer apeliadau a chynrychioli’r Awdurdod fel tyst proffesiynol.
- Archwilio achosion o dorri rheolau cynllunio a chyfrannu at achosion ac apeliadau gorfodaeth.
- Darparu cyngor proffesiynol i ddatblygwyr, y cyhoedd ac Aelodau Lleol ar faterion cynllunio.
- Cefnogi gwaith polisi cynllunio, gan gynnwys paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol, canllawiau atodol a dogfennau strategol.
- Cydweithio ar brosiectau strategol a gwaith ymchwil sy’n flaenoriaeth i’r Cyngor, a chynrychioli Gwynedd mewn cyfarfodydd allanol.
- Dilyn polisïau’r Cyngor o ran iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu data a lleihau carbon.
DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected] neu cysylltwch hefo Lisa Thomas ar 01286679094
Am ragor o wybodaeth - Cynllun Yfory
Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.