Hyfforddai Proffesiynol Coedyddiaeth NMWTRA
£31,537 - £33,699
Cyngor Gwynedd
Any NMWTRA Office (Newtown, Llandrindod, Aberystwyth)
Mai 29, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
MEDDWL. MENTRO. MWYNHAU.
Wyt ti wedi ystyried gyrfa ym maes coedyddiaeth?
Mae Cynllun Yfory (cynllun graddedigion cyngor Gwynedd) yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd â gradd 2:2 neu gyfwerth ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae’n gyfle i ti ddatblygu arbenigedd mewn maes allweddol a deall mwy am weithio mewn llywodraeth leol. Mi fyddi di yn derbyn profiadau ymarferol a chyfleoedd i ddatblygu dy sgiliau arbenigol a phersonol i sicrhau gyrfa hir a llwyddiannus yma.
Pwrpas y Swydd.
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau cymhwyster uwch a datblygu i fod yn arweinydd ac yn arbenigwr yn y maes.
- Bydd y gwasanaeth yn darparu arbenigedd coedyddiaeth dechnegol i sicrhau bod gwarchod coed yn cael ei ymgorffori’n gyson ar draws gwaith yr Asiant.
- Mae NMWTRA yn rheoli ac yn gwella’r priffyrdd A strategol ar ran Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod diogelwch, amgylchedd a choedyddiaeth yn cael eu hintegreiddio i bob agwedd o’r gwaith.
- Bydd y rôl Hyfforddai Proffesiynol Coedyddiaeth yn cynnwys datblygu a chynnal prosesau a systemau sy’n sicrhau bod materion coedyddiaeth dechnegol a gwarchod coed yn cael eu hintegreiddio’n effeithiol ar draws holl waith yr Asiant.
- Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
- Datblygu a chynnal systemau a phrosesau i sicrhau bod coedyddiaeth a gwarchod coed yn cael eu hystyried ym mhob ffrwd waith.
- Cynnal a goruchwylio arolygon, adroddiadau a gwaith coed technegol i safonau BS5837 a BS3998 ar draws timau amrywiol.
- Rheoli cyllidebau sy’n ymwneud â materion coedyddiaeth dechnegol ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol.
- Cydweithio â thimau mewnol ac â Llywodraeth Cymru ar faterion coedyddiaeth a gwarchod coed.
- Cynorthwyo gydag arolygiadau diogelwch coed pan fo angen.
- Rheoli a defnyddio offer amgylcheddol arbenigol megis PICUS, residrill ac offer arolygu eraill.
- Treulio amser yn unedau eraill yr Asiant i ddeall gweithrediadau ehangach y sefydliad.
- Dilyn polisïau’r Cyngor o ran iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu data a lleihau carbon.
DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected] neu cysylltwch hefo Lisa Thomas ar 01286679094
Am ragor o wybodaeth - Cynllun Yfory
Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.