Hyfforddai Proffesiynol Arwain a Rheoli – Y Gronfa Bensiwn
£31,537 - £33,699
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Mai 29, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
MEDDWL. MENTRO. MWYNHAU.
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes yma?
Mae Cynllun Yfory (cynllun graddedigion cyngor Gwynedd) yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd â gradd 2:2 neu gyfwerth ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae’n gyfle i ti ddatblygu arbenigedd mewn maes allweddol a deall mwy am weithio mewn llywodraeth leol. Mi fyddi di yn derbyn profiadau ymarferol a chyfleoedd i ddatblygu dy sgiliau arbenigol a phersonol i sicrhau gyrfa hir a llwyddiannus yma.
DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 29AIN o Fai 2026
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
Cynnal cyflwyniadau ar 23/06 a 25/06.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected] neu cysylltwch hefo Lisa Thomas ar 01286679094
Am ragor o wybodaeth - Cynllun Yfory
Dyma ddolen i Brosbectws Swyddi 2026, lle gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swyddi a’r canllawiau ar gyfer gwneud cais.
Pwrpas y Swydd.
- Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau cymhwyster uwch a datblygu i fod yn arweinydd ac yn arbenigwr yn y maes.
- Mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am weinyddu Cronfa Bensiwn Gwynedd drwy reoli a thalu buddion, cynnal cofnodion cywir, sicrhau cydymffurfiaeth a llywodraethu cadarn, a goruchwylio perfformiad buddsoddiadau’r gronfa.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau.
- Sicrhau llywodraethu a chydymffurfiaeth gadarn i Gronfa Bensiwn Gwynedd drwy arwain ar ofynion statudol, rheoli risg, cefnogi’r Pwyllgor a’r Bwrdd, a chydlynu cyfathrebu a phrosesau buddsoddi.
- Mae’r rôl Hyfforddai Proffesiynol Arwain a Rheoli – Y Gronfa Bensiwn yn cynnwys arwain ar fframwaith statudol a llywodraethu’r gronfa, rheoli risg a chydymffurfiaeth, cefnogi’r Pwyllgor a’r Bwrdd, cydlynu cyfathrebu â rhanddeiliaid, integreiddio egwyddorion ESG, a gyrru prosiectau a gwelliannau prosesau.
- Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
- Arwain ar gymhwyso’r fframwaith statudol a sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion y Rheoleiddiwr Pensiynau.
- Monitro newidiadau deddfwriaethol, asesu eu heffaith a chynghori uwch reolwyr a’r Pwyllgor.
- Sicrhau bod dogfennau statudol, polisïau a phrosesau llywodraethu yn gyfredol ac o ansawdd uchel.
- Cefnogi’r Pwyllgor a’r Bwrdd drwy ddarparu cyngor llywodraethu, paratoi papurau a chydlynu cyfarfodydd.
- Arwain ar reoli risg, datblygu’r gofrestr risg a chydlynu archwiliadau mewnol ac allanol.
- Rheoli cyfathrebu â rhanddeiliaid a sicrhau bod gwybodaeth statudol yn gywir ac yn brydlon.
- Integreiddio egwyddorion ESG a chefnogi llywodraethu buddsoddi drwy ddadansoddi perfformiad a chynghori ar risg.
- Dilyn polisïau’r Cyngor o ran iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu data a lleihau carbon.
Amgylchiadau Arbennig. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
-