Hyfforddai Graddedig Dyfodol Môn - Swyddog Cydlynu Prosiectau

£28,142 - £31,022 per annum

Cyngor Sir Ynys Môn

Llangefni

Mai 11, 2026

Full-time
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn


Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn


Pwrpas cyffredinol y swydd


Cyfle unigryw o dan Gynllun Graddedigion Dyfodol Môn, bydd y rôl hon yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu dogfennaeth rheoli prosiectau manwl sy’n sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni a’u rheoli’n briodol i adlewyrchu tasgau a chynnydd gwirioneddol y prosiect ac i sicrhau bod holl ddogfennau’r prosiect yn cael eu diweddaru.

Cefnogi prosesau cynllunio busnes a monitro perfformiad y Cyngor i sicrhau monitro perfformiad yn amserol yn erbyn Cynllun y Cyngor.

Fel aelod o’r tîm o fewn y tîm perfformiad a moderneiddio, bydd y swydd yn adrodd i’r Rheolwr Perfformiad a Phrosiectau Strategol.


Mwy o wybodaeth


Cytundeb: 3 blwyddyn

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon. 

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith.  Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu’n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt

Enw: Elen Pritchard

Rhif ffôn: 07760314138

Cyfeiriad e-bost: [email protected]

Dogfennau ar gael

Mae’r dogfennu atodedig ar gael yn y linciau. Bydd clicio ar linc dogfen yn cychwyn ei lawrlwytho.

Hyfforddai Graddedig Dyfodol Môn - Swyddog Cydlynu Prosiectau

Yn ôl i swyddi