Hyfforddai Graddedig Dyfodol Môn - Arolygydd Technegol
£28,142 - £31,022 per annum
Cyngor Sir Ynys Môn
Gaerwen
Mai 11, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn awyddus penodi Hyfforddai Graddedig Dyfdol Môn: Arolygydd Technegol i gefnogi’r gwaith o fonitro ac adrodd ar brosiectau tai ac adeiladu adfywio. Mae hon yn rôl ddatblygu sydd wedi’i chynllunio ar gyfer graddedigion nad oes ganddynt brofiad proffesiynol eto, ond sydd â diddordeb mewn adeiladwaith, rheoli asedau, diogelwch adeiladu neu’r amgylchedd adeiledig.
O dan oruchwyliaeth a gyda chefnogaeth strwythuredig, bydd deiliad y swydd yn helpu i fonitro gwaith amlfasnach mewn eiddo preswyl meddiannu. Gall prosiectau gynnwys datblygiadau newydd, adnewyddu ystadau, mân waith gwella, cartrefi sy’n dychwelyd i’r stoc dai, a gwaith addasu.
Mae’r rôl hon yn cynnig cyfleoedd sylweddol i ennill profiad ymarferol, datblygu sgiliau technegol, a meithrin hyder mewn rheoli ansawdd, iechyd a diogelwch safleoedd, a phrosesau adeiladu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn datblygu ei sgiliau cyfathrebu ac yn dysgu gweithio’n effeithiol gyda thenantiaid, lesddeiliaid, contractwyr ac ymgynghorwyr. Fel rhan o dîm proffesiynol sefydledig, bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at gynnal a gwella stoc dai y Cyngor wrth ddatblygu eu gyrfa eu hunain.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r gwaith o ddarparu cymhorthion a gwaith addasu ar draws eiddo CSYM o’r ymholiad cychwynnol hyd at ei gwblhau. Byddant yn derbyn arweiniad i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu cyswllt â chwsmeriaid trwy gydol y broses waith, ac i gefnogi cwblhau cyn ac ar ôl arolygiadau o atgyweiriadau, cartrefi gwag a mân addasiadau
Mwy o wybodaeth
Cytundeb: 3 Blwyddyn
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu’n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Elen Pritchard
Rhif ffôn: 07760314138
Cyfeiriad e-bost: [email protected]