Gwyddonydd Cynorthwyol
£26,861 - £27,910
Natural Resources Wales
Swansea
Gorffennaf 26, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Y rôl
Cyfle prentisiaeth Lefel 4 yw hwn o fewn tîm Gwasanaethau Dadansoddi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Yn ystod eich prentisiaeth, byddwch yn cyfuno astudio academaidd â phrofiad ymarferol mewn amgylchedd labordy proffesiynol, gan ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes gwyddoniaeth ddadansoddol.
Gan weithio o labordy CNC ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn treulio amser yn gweithio ar draws pob un o dair adran y Gwasanaethau Dadansoddi: Darparu Gwasanaethau, Anorganeg ac Organeg. Bydd y dull hwn o gylchdroi rhwng pob un yn rhoi profiad eang o weithrediadau labordy, technegau dadansoddi a phrosesau ansawdd, gan eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r gwasanaethau a ddarperir gan labordy amgylcheddol achrededig.
Byddwch yn atebol i Arweinydd y Tîm Organeg, a fydd yn cefnogi eich datblygiad drwy gydol y brentisiaeth ac yn cydlynu eich lleoliadau ar draws yr adrannau gwahanol. Wrth weithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol, byddwch yn cyfrannu at ddarparu canlyniadau dadansoddol cywir, dibynadwy ac amserol sy’n cefnogi cyfrifoldebau monitro amgylcheddol a rheoleiddiol CNC.
Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i ddatblygu sgiliau gwyddonol ymarferol, wrth gyfrannu at waith sy’n helpu i ddiogelu a gwella adnoddau naturiol Cymru.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Natalie Dudley-Burton at [email protected]
Bydd cyfweliadau’n wyneb i wyneb ar 10/08/2026 (bydd manylion lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)
Amdanom ni
Mae labordy Gwasanaethau Dadansoddi Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’i leoli ym Mhrifysgol Abertawe ac yn darparu gwasanaethau profi dadansoddol o ansawdd uchel sy’n cefnogi monitro amgylcheddol, rheoleiddio a chasglu tystiolaeth ledled Cymru.
Mae’r labordy yn cynnwys tair adran arbenigol: Darparu Gwasanaethau, Anorganeg ac Organeg. Gyda’i gilydd, mae’r timau hyn yn darparu data dadansoddol cywir a dibynadwy sy’n llywio’r broses o wneud penderfyniadau amgylcheddol ac yn helpu i ddiogelu adnoddau naturiol Cymru.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cefnogi timau’r Gwasanaethau Dadansoddi gyda gweithgareddau labordy o ddydd i ddydd sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaethau dadansoddi cywir, dibynadwy ac amserol.
- Defnyddio’r hyn a ddysgoch yn ystod eich prentisiaeth mewn lleoliadau labordy go iawn, gan ennill profiad mewn meysydd fel paratoi samplau, defnyddio offer a thechnegau dadansoddol, a chynorthwyo gyda tasgau labordy arferol o dan oruchwyliaeth briodol.
- Datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol gyda chydweithwyr ar draws y timau Darparu Gwasanaethau, Anorganeg ac Organeg, gan gyfrannu’n gadarnhaol at amcanion y tîm a chefnogi gweithrediad llyfn y labordy.
- Cefnogi gweithgareddau gweinyddol y labordy, gan gynnwys cofnodi data’n gywir, cynnal dogfennaeth, a defnyddio systemau gwybodaeth labordy ac TGCh yn unol â gweithdrefnau sefydledig.
- Helpu’r labordy i fodloni safonau iechyd, diogelwch ac ansawdd drwy ddilyn gweithdrefnau, gweithio’n ddiogel, nodi problemau ac adrodd pryderon i staff profiadol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- O leiaf pum TGAU ar radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
- Cymhwyster gwyddoniaeth perthnasol Lefel 3, fel Diploma BTEC Lefel 3 neu Dystysgrif Estynedig mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, neu Lefelau A / Lefelau AS mewn pynciau sy’n ymwneud â gwyddoniaeth.
- Sgiliau TGCh sylfaenol i gofnodi data, cynnal dogfennaeth a chefnogi prosesau labordy.
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd digonol i gofnodi canlyniadau’n gywir a dilyn gweithdrefnau ysgrifenedig.
- Ymwybyddiaeth o amgylcheddau labordy a diddordeb mewn datblygu sgiliau technegol o fewn cyd-destun gwyddoniaeth ddadansoddol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 – Lefel Mynediad
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Gwybodaeth ychwanegol
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Oni nodir yn wahanol yn yr adran ‘Rôl’ yn yr hysbyseb hon, ni all Cyfoeth Naturiol Cymru gynnig nawdd fisa ar gyfer y swydd hon. Er bod gennym drwydded ar gyfer nawdd fisa i Weithwyr Medrus, mae ond yn berthnasol i rolau penodol sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a’r gofynion cyflog a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y llwybr fisa i Weithwyr Medrus.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn gweithredu polisi o gyfle cyfartal heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i’n staff ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i’w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd am weithio’n llawn amser, rhan-amser neu rannu’r swydd.