Gweithiwr Cymdeithasol

£37,280 - £44,075

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Chwefror 25, 2026

Full-time

Disgrifiad o'r Cwmni

Hysbyseb Swydd – Gweithiwr Cymdeithasol

(Glas-weithiwr Cymdeithasol/Gweithiwr Cymdeithasol/Gweithiwr Cymdeithasol Arweiniol)

Gwasanaeth: Plant - Tîm Plant Arfon

ARDAL ARFON

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.

Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.


Gwybodaeth am y swydd:

Ydych chi...

  • Am gyfrannu i gyflogwr sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau?
  • Yn dymuno gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg?
  • Yn berson brwdfrydig a phositif?
  • Yn meddu ar sgiliau pobl da

Os mai ‘ydw’ yw eich ateb i’r pwyntiau uchod, beth am ddod i weithio gyda ni? Dyma rol llawn profiadau gwahanol, strwythr clir, tim prysur, ffoniwch am drafodaeth.

Dyma gyfle cyffroes i fod yn rhan o dîm Gwaith Cymdeithasol Gwynedd.

Fel Gweithiwr Cymdeithasol byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau unigolion yma yng Ngwynedd drwy eu cynorthwyo i fyw eu bywydau yn y modd y maent eisiau ei fyw.

Byddwch yn cefnogi unigolion drwy anawsterau cymdeithasol a phersonol, ar yr un pryd â hyrwyddo eu hawliau dynol a’u llesiant. Byddwch yn gweithio gydag unigolion, gan gefnogi eu perthnasoedd â’u teuluoedd, grwpiau a chysylltiadau â’u cymuned. Eu helpu i adnabod eu cryfderau, datblygu eu sgiliau a gweithio ar broblemau neu heriau y gallent fod yn eu hwynebu.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn cynnal cofrestriad fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a gallu arddangos sgiliau yn unol a’r Swydd Ddisgrifiad a’r Manylion Person (ynghlwm).

Cyflog

Gweithiwr Cymdeithasol