Ymgynghorydd Talent Graddedig
£27,000 - £30,000
Darogan
Caerdydd
Mawrth 29, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Amdanom Ni
Darogan yw Hyb Graddedigion Cymru — yr unig blatfform sydd wedi’i neilltuo’n llwyr i yrfaoedd graddedigion yng Nghymru.
Rydyn ni’n cysylltu myfyrwyr a graddedigion gyda cyflogwyr drwy ymgyrchoedd recriwtio, digwyddiadau a gwasanaethau digidol. Ein cenhadaeth syml yw sicrhau bod pob myfyriwr graddedig yn gwybod y gallan nhw adeiladu gyrfa wych yma yng Nghymru.
Rydyn ni bellach yn chwilio am Gynghorydd Talent Graddedigion i ymuno â’n tîm sy’n tyfu ac i gychwyn gyrfa ym maes recriwtio, cyflogadwyedd a datblygu talent.
Y Rôl
Mae hon yn rôl lefel mynediad, wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwir graddedig diweddar sydd eisiau dysgu’n gyflym, a gwneud effaith wirioneddol.
Byddwch yn gweithio ar draws darpariaeth recriwtio, ymgysylltu âg ymgeiswyr, cefnogi cyflogwyr, datblygu busnes a digwyddiadau — gan ennill profiad ym mhob rhan o’r busnes a datblygu sgiliau masnachol ac unigolion gwerthfawr.
Beth Fyddwch chi’n Ei Wneud
Unwaith y byddwch wedi’ch hyfforddi’n llawn, byddwch yn cefnogi’r tîm gyda:
Ymgyrchoedd recriwtio graddedigion ac ymgysylltu gyda ymgeisgwyr
Sgrinio CVs a chefnogi cyfweliadau a phrosesau asesu
Cefnogi digwyddiadau gyrfaoedd a gweithgareddau allgymorth
Ymchwilio cyflogwyr, rolau a sectorau ar draws Cymru
Defnyddio systemau CRM i reoli data candidatiaid ac employeriaid
Tyfu ein portffolio o gleientiaid drwy weithgareddau datblygu busnes
Mae hon yn rôl ddysgu — dydyn ni ddim yn disgwyl i chi wybod popeth yn barod ac fe wnawn ni fuddsoddi yn eich dysgu a’ch datblygiad.
Pwy Rydyn Ni’n Chwilio Amdano
Rydyn ni’n agored i raddedigion o unrhyw ddisgyblaeth gradd. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i glywed gennych os ydych chi’n:
Chwilfrydig, gweithgar ac awyddus i ddysgu
Mwynhau gweithio gyda phobl a chyfathrebu’n glir
Trefnus ac yn gyfforddus gyda llu o dasgau gwahanol
Poeni am yrfaoedd graddedigion a dyfodol Cymru
Eisiau datblygu sgiliau mewn datblygu busnes, recriwtio, ymgynghori neu gyflogadwyedd
Mae sgiliau Cymraeg yn fantais ond nid yn hanfodol.
Y Manylion
Cyflog o £27,000 – £30,000 (yn dibynnu ar brofiad)
Comisiwn o 15%
Gweithio hybrid: gweithio o bell gydag un diwrnod yr wythnos yn ein swyddfa yng Nghaerdydd
Dyddiad cychwyn hyblyg: rydym yn agored i raddedigion sydd ar gael yn syth neu israddedigion sydd ar gael i ddechrau yn haf 2026
Pam Dechrau’ch Gyrfa gyda Darogan?
Ennill profiad ymarferol ar draws recriwtio, digwyddiadau ac ymgysylltu gyda cyflogwyr
Dysgu’n uniongyrchol gan dîm bach a chefnogol
Gweithio i sefydliad sy’n cael ei yrru gan genhadaeth ac sy’n poeni am effaith
Cael cyfrifoldeb go iawn o’r diwrnod cyntaf
Sut i Wneud Cais
Anfonwch eich CV a nodyn clawr byr yn dweud wrthym pam rydych eisiau gweithio gyda Darogan a beth rydych chi’n gobeithio ei ddysgu o’r rôl.