Ymgynghorydd Cynaliadwyedd Graddedig – Darogan

Datblygwr Cronfa Ddata

£29,047 - £30,944

Companies House

Caerdydd

Mehefin 8, 2025

Llawn amser

Disgrifiad o'r Cwmni

Benefits

Crynodeb o’r Swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous o fewn ein cyfarwyddiaeth Technoleg i rywun brwdfrydig â chwilfrydedd mewn technoleg lansio gyrfa newydd.

Ydych chi wedi cwblhau neu yng nghanol eich blwyddyn olaf o radd mewn Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol/Peirianneg Meddalwedd neu debyg, gyda theimlad o angerdd tuag at ddata?

Os felly, does dim lle gwell i ddechrau nag yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Dewch i wneud gwaith rhyfeddol wrth ddatblygu nid yn unig eich galluoedd ond hefyd eich hyder i ffynnu a thyfu yn y gweithle. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â pheirianwyr a thechnolegwyr hynod o fedrus, gan siapio prosiectau sy’n hanfodol i economi’r DU.

Yn syml, dewch i ddarganfod yr effaith y gallwch ei wneud pan fyddwch wedi’ch arfogi, eich annog a’ch ysbrydoli i gyflawni eich gorau. Rydym yn chwilio am ddatblygwr cronfa ddata i dyfu o fewn ein tîm o dan lwybr strwythuredig.

Gwyliwch y fideo hwn i ddarganfod mwy am weithio yn y sector Digidol yn Nhŷ’r Cwmnïau

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cynnig diwylliant hyblyg a chroesawgar sy’n hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd, yn ogystal â dull gweithredol o fynd ati i wella lles sy’n ein galluogi i fod ar ein gorau yn y gweithle. Rydym yn cydnabod bod pobl yn allweddol i’n llwyddiant, felly rydym yn cynnig pecyn buddion gwych sy’n cynnwys gweithio hyblyg heb oriau craidd, 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 8 gŵyl banc ac 1 diwrnod breiniol, yn ogystal â chofrestru yn y cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil gyda chyfradd gyfraniad sy’n gyfartaledd o 28%.

Darganfyddwch fwy am yr hyn sy’n gwneud Tŷ’r Cwmnïau yn lle gwych i weithio

Disgrifiad o’r Swydd

Fel Datblygwr Cronfa Ddata, byddwch yn helpu cefnogi a datblygu gofynion data presennol a dyfodol Tŷ’r Cwmnïau. Byddwch yn tyfu eich sgiliau a’ch profiad yn yr offer a’r technolegau a ddefnyddir ar hyn o bryd i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a mewnol yn Nhŷ’r Cwmnïau, sy’n cynnwys Oracle, MongoDB a datblygu PL/SQL.

Byddwch hefyd yn darparu cymorth a gweinyddiaeth ar gyfer y cronfeydd data sy’n rhan o’r gwasanaethau datblygu, pen-i-ben a phrofi. Bydd gennych gyfle i gymryd rhan yn y broses o symud y cronfeydd data hyn i’r Cwmwl Cyhoeddus ac i helpu i siapio a chyflawni trawsnewidiad gwasanaethau Tŷ’r Cwmnïau.

Os yw hyn yn swnio’n rhywbeth y gallwch weld eich hun yn cymryd rhan ynddo, byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Cyfrifoldebau:

Mae hwn yn swydd raddedig o fewn ein harbenigedd Peirianneg Data, sydd o fewn ein tîm seilwaith ehangach; bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sail o sgiliau angenrheidiol PL/SQL, datblygu data a gweinyddu cronfeydd data i gefnogi a chyflawni’r cydrannau data sy’n ofynnol i gefnogi gwasanaethau Tŷ’r Cwmnïau.

Mae’r rôl yn cynnwys:

    • Gweithio gyda dadansoddwyr, cwsmeriaid, timau datblygu a chymorth, gan sicrhau bod gofynion canlyniadau ac ansawdd yn cael eu cyflawni.
    • Gweithio mewn amgylchedd Agile ar brosiectau lluosog, ochr yn ochr â phroffesiynau eraill, i ddarparu ein systemau busnes craidd.
    • Ffurfweddu a gosod atebion i ddiwallu anghenion y busnes a’r defnyddiwr, gan sicrhau bod safonau cytûn a phroses Rheoli Newid Tŷ’r Cwmnïau yn cael eu dilyn.
    • Ymateb a datrys digwyddiadau i gyflawni targedau cytûn.
    • Darparu dadansoddiad achos gwreiddiol i broblemau a chynnig/gweithredu camau cywiro priodol.
    • Cymryd rôl ragweithiol yn y prosiect i symud gwasanaethau ar-lein i’r cwmwl cyhoeddus.

Manyleb y Person:

Byddwch yn gryf eich cymhelliad ac yn ymdrechgar gyda sgiliau trefnu da. Rhaid i chi allu gweithio ar eich liwt eich hun a chadw’n dawel dan bwysau. Byddwch yn frwdfrydig, yn hyblyg gydag angerdd am ddatblygu eich hun a rhywun sy’n mwynhau’r cyfle i yrru newid mewn amgylchedd TG cyflym a dynamig.

Rydym yn chwilio am bobl sydd â’r canlynol:

    • Diddordeb yn y cwmwl ac awydd i ddysgu sgiliau digidol newydd.
    • Y gallu i ddangos y cymwyseddau i feistroli sgiliau digidol a thechnolegol yn gyflym.
    • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da.
    • Gallu gweithio’n gydweithredol fel rhan o dîm.
    • Gallu cyfathrebu’n effeithiol â Rhanddeiliaid ar bob lefel o’r busnes.

Cymwysterau:

    • Byddwch wedi cwblhau neu yn eich blwyddyn olaf o radd mewn Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol/Peirianneg Meddalwedd neu radd gyfwerth.
    • Bydd ceisiadau yn cael eu derbyn gan y rhai sy’n astudio tuag at radd ar hyn o bryd, ar yr amod eu bod yn cwrdd â’r gofynion uchod i ddechrau’r Rhaglen ym Medi 2025. Gofynnir am dystiolaeth eich bod wedi cyflawni’r cymhwyster.
    • Os na fyddwch yn gallu darparu tystiolaeth o gwrdd â’r gofynion cymhwyster ar ôl derbyn cynnig, bydd y cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Profiad a Sgiliau:

    • Cronfeydd data rhesymegol.
    • Profiad Rhaglennu (unrhyw iaith).
    • Oracle.
    • PL/SQL.
    • Linux.
    • MongoDB.

Ymddygiadau:

Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses dethol:

    • Newid a Gwella
    • Gweithio Gyda’i Gilydd
    • Cyflawni ar Gyflymder

Buddion:

Yn ogystal â’ch cyflog o £29,047, mae Tŷ’r Cwmnïau yn cyfrannu £8,414 tuag at eich bod yn aelod o gynllun Pensiwn Buddion Wedi’u Diffinio’r Gwasanaeth Sifil.

Datblygwr Cronfa Ddata