Graduate Cyber Assurance Consultant
£32,000 per annum, pro rata
Corassure Ltd
Caerdydd
Tachwedd 30, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Ymgynghorydd Sicrwydd Graddedig
Am Corassure
Mae Corassure yn ymgynghoriaeth arbenigol sy’n gweithio wrth galon ardystio Amddiffyn yn y DU. Ers 2017, rydym wedi cefnogi’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD), DE&S a phrif gontractwyr amddiffyn mawr ar addasrwydd i hedfan o safbwynt seiberddiogelwch, ardystio elfennau rhaglenadwy (meddalwedd a chaledwedd cymhleth) a diogelwch drwy ddyluniad ar draws systemau awyr, tir a morol, gan gynnwys rhaglenni awyrennau heb griw. Mae ein chwaer-gwmni, Coracademy, yn darparu hyfforddiant achrededig gan BCS mewn addasrwydd i hedfan o safbwynt seiberddiogelwch a safonau ardystio.
Rydym wedi’n lleoli yng Nghaerdydd ac yn falch o fod yn datblygu gallu peirianneg amddiffyn arbenigol yng Nghymru. Fel tîm bach a hynod brofiadol, gallwn gynnig cyfle i chi ddysgu’n uniongyrchol gan y bobl sydd wedi ysgrifennu a llunio’r rheoliadau a’r safonau y mae ein diwydiant yn gweithio iddynt.
Y Cyfle
Rydym yn chwilio am Ymgynghorydd Sicrwydd Graddedig i ymuno â ni o fis Ionawr 2027. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’n Rheolwr Gyfarwyddwr a’n Huwch Ymgynghorydd, gan gefnogi prosiectau byw i gleientiaid o ddydd i ddydd. Mae hwn yn gyfle prin i ddechrau eich gyrfa ym maes seiberddiogelwch ac addasrwydd i hedfan ym myd amddiffyn, sy’n faes arbenigol a gwerthfawr iawn, a hynny wrth aros yng Nghymru.
Beth Fyddwch Chi’n Ei Wneud
Ardystio a sicrwydd
- Helpu i lunio dogfennau ardystio a sicrwydd, gan gynnwys cynlluniau, matricsau cydymffurfio, asesiadau, ac achosion diogelwch a diogeledd
- Adolygu tystiolaeth cleientiaid yn erbyn safonau megis DO-178C, DO-254, DO-326A/DO-356A a Safonau Amddiffyn
- Creu a chynnal olrheiniadwyedd cydymffurfio a’r offer ategol
Ymchwil a chefnogi’r tîm
- Ymchwilio i ofynion rheoleiddiol a chrynhoi canfyddiadau ar gyfer y tîm
- Cefnogi’r gwaith o baratoi deunyddiau hyfforddi a chynigion
Gwaith gyda chleientiaid
- Mynychu cyfarfodydd cleientiaid ac adolygiadau technegol, gyda rhywfaint o deithio yn y DU
Beth Rydym Yn Ei Gynnig
- Lleoliad: Hybrid, rhwng gweithio gartref a’n swyddfa yng Nghaerdydd, gydag ambell daith at gleientiaid yn y DU
- Contract: Lleoliad graddedig llawn amser am 6 mis drwy Tech Talent Cymru, gyda’r potensial i ddod yn swydd barhaol
- Dyddiad dechrau: Ionawr 2027
- Cyflog: £32,000 per annum, pro rata
- Datblygiad a mentora strwythuredig gan ymarferwyr blaenllaw ym maes addasrwydd i hedfan o safbwynt seiberddiogelwch ym myd amddiffyn
- Mynediad at hyfforddiant achrededig BCS Coracademy
- Cymorth tuag at gofrestru proffesiynol (e.e. BCS, llwybr IEng/CEng)
Rhan o Tech Talent Cymru
Cynigir y swydd hon drwy Tech Talent Cymru, rhaglen lleoliadau i raddedigion a ariennir gan Innovate UK ac a ddarperir gan Darogan. Mae’n cysylltu graddedigion talentog â chyflogwyr ledled Cymru sydd angen sgiliau digidol a thechnegol i dyfu.
Yn ogystal â phopeth y mae eich cwmni lletyol yn ei gynnig, fel graddedig Tech Talent Cymru byddwch yn cael:
- Hyfforddiant penodol cyn i’ch lleoliad ddechrau, fel eich bod yn barod i wneud gwahaniaeth o’r cychwyn
- Mentora parhaus drwy gydol eich lleoliad, gan bobl y tu allan i’ch tîm o ddydd i ddydd
Oni bai eich bod yn dewis optio allan, mae gwneud cais am y swydd hon hefyd yn golygu y byddwch yn cael eich ystyried ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol ar raglen Tech Talent Cymru. Felly gallai un cais agor mwy nag un drws.
Gofynion
Hanfodol
- Gradd (2:1 neu uwch) mewn Cyfrifiadureg, Seiberddiogelwch, Peirianneg Meddalwedd neu Systemau, Peirianneg Electronig neu bwnc cysylltiedig
- Sgiliau ysgrifennu cryf yn Saesneg a llygad am fanylder, gan fod llawer o’r gwaith yn ysgrifennu technegol manwl
- Meddylfryd dadansoddol, a bod yn gyfforddus yn gweithio gyda safonau a gofynion cymhleth
- Chwilfrydedd am hedfan, amddiffyn neu systemau sy’n hanfodol i ddiogelwch
- Trefnus, dibynadwy ac awyddus i ddysgu
- Yn gymwys ac yn fodlon cael cliriad diogelwch Security Check (SC) y DU. Fel arfer mae hyn yn gofyn am genedligrwydd Prydeinig yn unig ac isafswm cyfnod o breswylio yn y DU
Dymunol
- Profiad o feddalwedd sy’n hanfodol i ddiogelwch, asesu risg seiberddiogelwch neu beirianneg systemau
- Profiad o leoliad neu brosiect ym maes awyrofod neu amddiffyn
- Sgiliau Cymraeg