Facilities Apprentice
£26,861 - £27,910 per annum
Natural Resources Wales
Cardiff & Llandarcy (Swansea)
Hydref 6, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Dyddiad cau: 06/10/2026
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Gofynion y Gymraeg: Hanfodol — A1, Lefel mynediad. Noder: os nad ydych yn bodloni’r Gofynion y Gymraeg ar gyfer y rôl hon ni fydd eich cais yn cael ei adolygu.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Helen Beard ar [email protected].
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar wythnos sy’n cychwyn 19 o Hydref 2026 ar Microsoft Teams.
Y rôl
Ydych chi’n awyddus i gymryd eich cam cyntaf i yrfa werth chweil ym maes Rheoli Cyfleusterau? Mae gennym ddau gyfle cyffrous Prentis Cyfleusterau ar gael, gydag un swydd wedi’i lleoli yn Llandarcy a’r llall yn Llaneirwg, Caerdydd. Fel rhan o’n tîm Cyfleusterau’r De, byddwch yn cael profiad ymarferol ar draws portffolio eiddo amrywiol a hynny gan weithio tuag at Brentisiaeth Rheoli Cyfleusterau Lefel 3.
Amdanom ni
Mae gan CNC rôl hanfodol o ddiogelu, gwella a rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy. Mae ein tîm Cyfleusterau yn cefnogi’r gwaith pwysig hwn drwy ddarparu gweithleoedd diogel, effeithiol a chynaliadwy ar draws y sefydliad.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol, wedi’u hategu gan radd C / Lefel 2 TGAU (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg
- Sgiliau TGCh sylfaenol a’r gallu i ddysgu systemau newydd
- Ymwybyddiaeth o sut mae gwasanaethau Cyfleusterau yn cael eu cynllunio, eu darparu a’u gwella
- Diddordeb mewn Rheoli Cyfleusterau, rheoli eiddo, gwasanaeth cwsmeriaid neu gynnal a chadw adeiladau (dymunol)
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da
- Y gallu i drefnu eich amser, dilyn cyfarwyddiadau a chymryd y cam cyntaf pan fo’n briodol
- Trwydded yrru lawn y DU