Ecolegydd Cynorthwyol

£39,862 - £41,771 per annum

Cyngor Gwynedd

Newtown, Llandrindod or Aberystwyth

Medi 14, 2026

Permanent
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Ecolegydd Cynorthwyol

Cyflog: PS1 (SCP 29-31) £39,862 – £41,771 y flwyddyn

Gweithio hybrid – dau ddiwrnod yn gweithio o un o’r swyddfeydd isod

Lleoliad: Newtown, Llandrindod, Aberystwyth

Bydd y Cynorthwyydd Ecoleg yn gyfrifol am gynorthwyo’r tîm Newid Hinsawdd a Amgylcheddol i weithredu gofynion polisi Llywodraeth Cymru (LlC) a deddfwriaeth amgylcheddol megis Deddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1980 ac Adran 6 Deddf Amgylchedd Cymru. Darparu cyngor a chefnogaeth ecolegol broffesiynol i ACGCHC a’n partneriaid yn ymwneud â’r asesiad effaith a mesurau lliniaru ein gweithredoedd ar ecoleg a bioamrywiaeth, gan sicrhau fod ACGCHC yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth ac yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd bioamrywiaeth. Darparu cymorth ecolegol uniongyrchol a chyngor technegol i dimau cyflawni cyfalaf a chynnal a chadw ACGChC, gan gynnwys adolygu dogfennau mewnol ac allanol, cynnal ac adolygu arolygon ac adroddiadau, darparu cyngor technegol, mynychu cyfarfodydd a goruchwylio safleoedd.

Gweithio o fewn y Tîm Amgylchedd i reoli rhestr eiddo stadau meddal gan gynnwys adnabod lleoliad a chyflwr yr asedau ecolegol. Cynnig, dylunio a rheoli rhaglen o brosiectau gwella ecolegol wedi’u datblygu o weithgareddau cynnal a chadw arferol ac ymatebol sy’n gysylltiedig â rheolaeth stadau meddal ac amgylcheddol. Cynorthwyo’r Timau Ecoleg ac Amgylchedd a staff arall ACGCHC i gael trwyddedau CNC lle bo’r angen a chyflawni unrhyw amodau a gofynion megis arolygon, monitro ac adrodd i sicrhau cydymffurfiaeth. Gweithio gyda’r Ecolegydd i ddatblygu rhaglen o Drwyddedau Gwaith ar gyfer Rhywogaethau Gwarchodedig hyd at foddhad CNC. Gweithio gyda’r Ecolegydd a CNC i ddatblygu system adrodd ar-lein ar gyfer cydymffurfiaeth gyda thrwyddedau, a gweithio i reoli prosiectau sy’n gysylltiedig â gwelliant ecolegol a gwaith lliniaru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Hannah Jones ar 07773 616096.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ac Saesneg yn hanfodol.

Manylion Person

Nodweddion Personol – Hanfodol

  • Gallu gweithio mewn amgylchedd tîm.
  • Gallu hunan gymell, ymroi, ac arddangos mentergarwch personol.
  • Sgiliau rhyngbersonol wedi’u datblygu’n dda a’r gallu i ddylanwadu a chymell eraill.
  • Gallu gweithio’n ddiogel dan bwysau a delio gyda therfynau amser tynn.
  • Gallu gweithio gydag ychydig o oruchwyliaeth, blaenoriaethu llwyth gwaith personol.
  • Sgiliau trefnu da, arloesol a blaengar.
  • Gallu cyfathrebu mewn ffordd gwrtais, dactegol, diplomyddol wrth ddelio gyda materion cynhennus, deall polisïau a chyfyngiadau eraill.
  • Gallu darparu arweiniad, rheoli, goruchwylio ac arwain ar faterion ecolegol o fewn timau a phrosiectau ACGCC.
  • Gallu dal ati hefo cyflawni cydymffurfiaeth ddeddfwriaethol a’r ymarfer ecolegol gorau pan nad yw pob amser yn ddewis poblogaidd ymysg eraill.
  • Gallu gweithio mewn ymgynghoriad a phartneriaeth â sefydliadau ac ymgynghorwyr allanol.
  • Ymroi i gywirdeb a chyflawni tasgau i gyflawni’r canlyniad gorau i’r amgylchedd.
  • Tystiolaeth o ymrwymiad i ddatblygiad personol a phroffesiynol parhaus.
  • Gweithio oriau y tu allan i oriau arferol yn aml, yn ôl y gofyn.

Nodweddion Personol – Dymunol

  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn Gymraeg a Saesneg.

Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Hanfodol

  • Gradd neu MSc mewn Sŵoleg, Botaneg, Ecoleg neu bwnc ecolegol perthnasol. HNC/HND/NVQ (Lefel 4) mewn pwnc yn ymwneud ag ecoleg, ac o leiaf 5 mlynedd o brofiad perthnasol.

Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Dymunol

  • Aelod o gorff proffesiynol perthnasol, e.e. CIEEM.
  • Deilydd Trwydded Rhywogaeth Warchodedig, er enghraifft ystlumod, pathewod, madfallod dŵr cribog.
  • Wedi cwblhau hyfforddiant mesurau lliniaru rhywogaethau arbenigol.
  • Wedi cwblhau hyfforddiant Dosbarthiad Cynefinoedd.
  • Wedi cwblhau hyfforddiant adnabod rhywogaethau.
  • Wedi cwblhau hyfforddiant Clerc Gwaith Ecolegol neu Amgylcheddol.
  • Wedi cwblhau hyfforddiant mewn technegau Arolygu Ecolegol.
  • Mynychu cyrsiau mewn defnydd TG, e.e. Excel, Word, GIS.
  • Mynychu hyfforddiant mewn Rheolaeth Traffig, e.e. Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd Pennod 8 a Chynllun Sector Priffyrdd Cenedlaethol 12D(M7).
  • Achrediad LISS/CSCS priodol.
  • Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch.

Profiad Perthnasol – Hanfodol

  • Profiad o gynnal arolygon ecolegol ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd.
  • Deall ecoleg ystod o rywogaethau gwarchodedig cyffredin.
  • Profiad o adnabod ystod o rywogaethau a chynefinoedd cyffredin y DU.
  • Wedi bod yn rhan o ddatblygiad mesurau lliniaru a gwaith gwella rhywogaeth neu gynefin.
  • Profiad o wneud cais a chael trwydded ar gyfer Rhywogaethau a Safleoedd Gwarchodedig.
  • Dealltwriaeth dda o Ddeddfwriaeth Amgylcheddol berthnasol Cymru/DU, yn enwedig ar gyfer Cadwraeth Natur.

Profiad Perthnasol – Dymunol

  • Profiad o ddatblygu mesurau lliniaru a gwella arbenigol ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig.
  • Profiad o weithio’n llwyddiannus fel ymgynghorydd Ecolegol neu Amgylcheddol ar gyfer prosiectau cynllunio, datblygu, neu isadeiledd.
  • Profiad fel Clerc Gwaith Ecolegol ar gyfer Prosiectau.
  • Profiad o weithio gydag eraill i ddatblygu datrysiadau gwrthdaro rhwng ecolegol a pheirianneg neu ofynion eraill.
  • Profiad o gynnal arolygon Cam 1 ac/neu fapio cynefin UKHabs.
  • Ystod eang o brofiad mewn rheolaeth ecolegol, amgylcheddol a chynefin.
  • Profiad gydag Asesiadau Effaith Amgylcheddol ac Asesiadau Rheoliadau Cynefin.
  • Profiad o ddarparu a rheoli rhaglenni gwaith ar gyfer mesurau lliniaru a gwella bywyd gwyllt a chynefin.
  • Profiad o feddiannu a rheoli cyllidebau.

Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Hanfodol

  • Gallu defnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), dal data yn y maes, dadansoddi a thrin data, cynhyrchu mapiau ac adroddiadau.
  • Llenyddiaeth TG – defnydd o Word, cronfeydd data a thaenlenni Excel.
  • Sgiliau ysgrifennu adroddiadau cryno, rheoli a dehongli data.
  • Gallu craffu adroddiadau a dogfennau a gynhyrchir gan eraill i sicrhau fod y cynnwys yn dderbyniol.
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig datblygedig i gynulleidfa eang. Yn gallu ysgogi ac addysgu eraill.
  • Sgiliau ymarferol yn adnabod prif grwpiau rhywogaeth a gwybod ble i ddarganfod gwybodaeth bellach.
  • Sgiliau datrys problemau a darganfod ffyrdd o ddatrys gwrthdaro a chyflawni canlyniadau o safon.
  • Gwybodaeth o ddeddfwriaeth cadwraeth natur y DU, deddfwriaeth amgylcheddol ehangach, safonau a chanllaw Arfer Dda’r Diwydiant.
  • Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch.
  • Trwydded Yrru ddilys gyfredol.

Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Dymunol

  • Gallu cynnal arolygon arbenigol, e.e. arolygon botanegol neu rywogaeth benodol fel ystlumod, pathewod, dyfrgwn, moch daear, llygod y dŵr.
  • Profiad o ddefnyddio amrediad o declynnau adnabod bywyd gwyllt arbenigol megis canfodyddion ystlum neu gamerâu arbrofol.
  • Profiad o ddefnyddio canllaw cysylltiedig â phriffyrdd, e.e. Canllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd.
  • Profiad o weithio ar brosiectau isadeiledd trafnidiaeth a rheolaeth o’r Stadau Meddal.

Ecolegydd Cynorthwyol

Yn ôl i swyddi