Dirprwy Rheolwr Cartref Plant
£36,109 - £40,325 a year
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Chwefror 9, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Lleoliad:- Uned Egwyl Fer Hafan Y Ser, Penrhyndeudraeth a Hafan Ni, Criccieth
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Rona Jones ar 01766 772147
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 09.02.2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pwrpas y swydd
Gweithio fel rhan o dîm preswyl, a chynorthwyo’r rheolwr i ddarparu gofal i blant mewn gofal mewn Cartref Plant:
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
- Fel aelod o’r tim, darparu gofal uniongyrchol ac ymyrraethau ataliol i blant a phobl ifanc o ddydd i ddydd ynghyd a dyletswyddau a thasgau cefnogol eraill o fewn yr uned.
- Cydweithio’n agos gyda partneriaid mewnol ac allanol i gael y canlyniadau gorau i ddefnyddwyr gwasanaeth.
- Gweithredu fel dirprwy reolwr y cartref, gan gymryd cyfrifoldeb am rhai agweddau penodol wedi’w delegeiddio gan Reolwr yr uned.
- Mynychu cyfarfodydd ar ran yr uned.
- Cynorthwyo’r rheolwr gyda thasgau sy’n gysylltiedig a chynnal cofrestriad y cartref gydag Arolygaeth Gofal Cymru.
- Darparu ystod o ymyraethau gan ddefnyddio’r ymyrraeth fwyaf effeithiol a phwrpasol i gyd-fynd ag anghenion plant a’u teuluoedd.