Dadansoddwr Buddsoddi a Chynllunio Busnes
£31,500 per annum
Transport for Wales (TFW)
Pontypridd
Hydref 9, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Dyddiad Cau: 09/10/2026
Cyfeirnod y Swydd: 0955
Am y rôl
Cefnogi’r broses cynllunio busnes er mwyn cyflawni allbwn strategaeth gorfforaethol a chynllun busnes sy’n bodloni gofynion Bwrdd Trafnidiaeth Cymru (TrC) a Llywodraeth Cymru mewn ffordd sy’n cyd-fynd â Fframwaith Cynllunio Busnes TrC.
Prif Ddyletswyddau
- Arwain y gwaith o ddatblygu a dadansoddi Strategaeth Gorfforaethol a Chynllun Busnes Blynyddol TrC drwy’r cylch a’r prosesau cynllunio busnes sy’n cynnal ac yn cryfhau hyder rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod Strategaeth Gorfforaethol a Chynllun Busnes Blynyddol effeithiol yn cael eu datblygu, eu cymeradwyo a’u darparu
- Arwain y gwaith o ddatblygu Cynllun Busnes Blynyddol TrC drwy weithio ar draws y cyfarwyddiaethau busnes i gasglu a dadansoddi’r data a’r wybodaeth berthnasol i sicrhau bod y cynllun yn crynhoi blaenoriaethau strategol TrC a’i fod yn cyd-fynd â Fframwaith Cynllunio Busnes TrC
- Cynnal canllawiau ar gyfer cyfarwyddiaethau drwy ddatblygu “llinell welediad” ar gyfer pob cyfarwyddiaeth sy’n dangos sut mae cyfarwyddiaeth a’i swyddogaethau’n cyfrannu at y cynllun busnes i sicrhau bod lefel o gysondeb i’w gweld ar draws y sefydliad wrth lunio cynllun busnes effeithiol
- Cyflawni fframwaith adrodd ar berfformiad ar gyfer y Strategaeth Gorfforaethol a’r Cynllun Busnes Blynyddol drwy gofnodi’n systematig a chanfod ac amlygu problemau a risgiau a allai effeithio ar y broses o gyflawni’r Strategaeth Gorfforaethol a’r Cynllun Busnes, er mwyn dod â chysondeb a dealltwriaeth i amrywiaeth o randdeiliaid mewnol ac allanol
- Rheoli prosesau mewnol a dangos diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â’r Broses Llywodraethu Buddsoddiadau, gan sicrhau bod y busnes yn cyflawni gwelliannau a newidiadau yn unol â’r fframwaith cynllunio busnes a bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn unol â’r awdurdod dirprwyedig
- Cefnogi’r gofynion a datblygu achosion busnes o’r dechrau i’r diwedd drwy ddarparu arweiniad a chyngor i sicrhau bod cynllun gwireddu buddion ar waith
- Goruchwylio’r amserlenni cymeradwyo achosion busnes i sicrhau cydymffurfedd ag awdurdod dirprwyedig TrC i ddangos bod buddsoddiadau busnes yn gallu sicrhau gwerth da am arian a sut mae ein penderfyniadau’n dangos bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn cael ei hystyried gan ymgynghori â rhanddeiliaid mewnol TrC, a sicrhau bod cofnodion cywir yn cael eu cadw a’u hadolygu
- Darparu adroddiadau effeithiol ar wireddu buddion drwy fonitro a yw’r buddion a fwriadwyd wedi cael eu gwireddu a’u cynnal yn ystod achos busnes ac ar ôl ei gyflawni, er mwyn sicrhau bod buddion yn cael eu monitro ar draws y sefydliad mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’r strategaeth rheoli buddion
- Cefnogi gwelliant parhaus drwy ddeunyddiau hyfforddi ar gyfer y sefydliad ar ddatblygu a chyflwyno achosion busnes, a chynlluniau gwireddu buddion
Manylion am yr Unigolyn — Hanfodol
- Gradd mewn Cyfrifeg/Cyllid, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Astudiaethau Busnes neu faes tebyg, neu brofiad perthnasol sylweddol
- Profiad o ddadansoddi ac egluro gwybodaeth gymhleth ar lafar ac mewn adroddiadau ysgrifenedig, a data meintiol ac ansoddol
- Profiad o adnoddau adrodd a pharatoi adroddiadau, ee, Word, Excel, PowerPoint, PowerBI
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur
- Profiad o feithrin perthynas dda a pharhaol gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar bob lefel mewn amgylchedd busnes
Dymunol
- Yn meddu ar gymhwyster rheoli prosiectau fel APM neu Prince2 a/neu gymhwyster Rheoli Buddion fel APMG
- Gwybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
- Profiad o ddatblygu a mapio prosesau
- Profiad o ddefnyddio Visio
- Sgiliau Cymraeg