Dadansoddi Perygl Llifogydd
£30,008 - £32,107
Natural Resources Wales
Llandaff
Awst 2, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Y rôl
Mae’r lleoliad 12 mis hwn i raddedigion yn gyfle gwych i unigolion sydd wedi graddio’n ddiweddar (o fewn y 18 mis diwethaf) gyda gradd mewn disgyblaeth berthnasol, fel Technoleg Gwybodaeth, Gwyddor yr Amgylchedd, Rheolaeth Amgylcheddol, Daearyddiaeth neu bwnc cysylltiedig.
Yn rhan o’r tîm Dadansoddi Perygl Llifogydd, byddwch chi’n cefnogi’r gwaith o gynhyrchu gwybodaeth gywir am berygl llifogydd sy’n sail i waith rheoli perygl llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Prif ganolbwynt y lleoliad fydd datblygu a chynnal modelau a mapiau llifogydd hydrolig, gan helpu i ddarparu’r dystiolaeth sy’n cael ei defnyddio i ddeall a rheoli perygl llifogydd ledled Cymru.
Gan weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr profiadol, byddwch chi’n ennill profiad ymarferol ym maes modelu hydrolig, dadansoddi geo-ofodol, rheoli data a thechnegau mapio llifogydd. Byddwch chi’n cefnogi’r gwaith o gyflwyno rhaglenni modelu a mapio hydrolig, gan gynnwys cynhyrchu mapiau llifogydd, datblygu modelau a gweithgarwch dadansoddi technegol cysylltiedig. Byddwch chi’n cyfrannu at raglenni modelu a mapio cenedlaethol sy’n cefnogi cymunedau a’r amgylchedd, ac yn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Yn ogystal â’ch cyfrifoldebau craidd o ran Dadansoddi Perygl Llifogydd, byddwch chi’n cael profiad o waith Datblygu a Pherygl Llifogydd (DFR). Byddwch chi’n darparu cymorth ar gyfer gweithgarwch DFR yn ôl yr angen, gan ennill profiad o sut mae tystiolaeth am berygl llifogydd yn llywio penderfyniadau cynllunio a datblygu. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddeall sut mae tystiolaeth o berygl llifogydd yn cael ei defnyddio mewn prosesau cynllunio a rheoli datblygiadau, gan ehangu eich dealltwriaeth o reoli perygl llifogydd yn CNC.
Byddwch yn elwa ar raglen hyfforddi a datblygu gynhwysfawr ac yn gweithio’n agos gyda’r Prif Ymgynghorydd ac arbenigwyr profiadol eraill, a fydd yn eich mentora, yn eich hyfforddi ac yn eich cefnogi drwy gydol eich lleoliad. Bydd cyfleoedd hefyd i dreulio amser gyda thimau rheoli perygl llifogydd eraill, gan ddatblygu dealltwriaeth o sut mae gwahanol arbenigeddau yn cyfrannu at reoli perygl llifogydd ledled Cymru.
Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa, dysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant a gwneud cyfraniad ystyrlon at waith sy’n helpu i feithrin gwydnwch i berygl llifogydd ledled Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Mark Pugh at [email protected]
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cefnogi’r gwaith o gyflwyno modelau a mapiau hydrolig, a chynlluniau gwaith Datblygu a Pherygl Llifogydd (DFR).
- Cynnal cofnodion a gwybodaeth yn unol â rheoliadau/deddfwriaeth a safonau y cytunwyd arnynt.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd allanol gydag aelodau eraill o’r tîm.
- Rhyngweithio â chymheiriaid mewn timau eraill yn CNC.
- Gwaith arall yn ôl cyfarwyddyd y rheolwr llinell.
- Rheoli materion iechyd a diogelwch o ddydd i ddydd a chyfrannu at ddiwylliant iechyd, diogelwch a llesiant cadarnhaol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gradd mewn Technoleg Gwybodaeth neu ddisgyblaeth sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd a chynaliadwyedd, o sefydliad addysg uwch.
- Sgiliau ysgrifenedig a llafar da a’r gallu i gyfathrebu’n hyderus, gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Sgiliau rhyngbersonol da gyda’r gallu i weithio dan bwysau gan weithio’n ddigymell i gwrdd â therfynau amser caeth.
- Sgiliau TGCh cryf, gan gynnwys hyfedredd mewn rhaglenni Microsoft Office fel Word, Excel, Outlook a PowerPoint.
- Dymunol: Trwydded yrru lawn y DU.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 – Lefel mynediad
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Gwybodaeth ychwanegol
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn gweithredu polisi o gyfle cyfartal heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i’n staff ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i’w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd am weithio’n llawn amser, rhan-amser neu rannu’r swydd.