Cynllun Graddedigion Cenedlaethol Heddlu Nawr – Heddlu Dyfed-Powys
£29,907
Police Now
Dyfed / Powys
Medi 5, 2025

Disgrifiad o'r Cwmni
Rhaglen Genedlaethol i Raddedigion Police Now – Heddlu Dyfed‑Powys
Contract: Parhaol
Cyflog: £29,907
Dyddiad Cau: 5 Medi 2025
Lleoliadau: Cymru
Ar gyfer pob uchelgais, pob cam, pob newid. Os ydych chi’n barod i gamu i rôl lle mae’ch penderfyniadau’n siapio bywydau go iawn a chymunedau, dyma ble mae’ch taith yn cychwyn.
Mae ein rhaglen ddwy flynedd, sy’n dechrau ym mis Mawrth 2026, wedi’i dylunio i ddatblygu graddedigion amrywiol o unrhyw radd, sydd am adeiladu ymddiriedaeth, lleihau troseddu a throsi cymunedau.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Dyfed‑Powys, felly byddwch yn gweithio yn Sir Gaer, Ceredigion, Sir Benfro neu Bowys am hyd y rhaglen.
Y Rôl
Ar ein Rhaglen Graddedigion Genedlaethol, byddwch yn hyfforddi i fod yn heddwas cymdogaeth ac ar flaen y gad wrth greu cymunedau mwy diogel, gan weithio’n rhagweithiol i fynd i’r afael â materion tymor hir a gwella ansawdd bywyd i drigolion y cymunedau rydych chi’n eu gwasanaethu.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm heddlu cymdogaeth, gan dreulio dwy flynedd yn ymgorffori o fewn cymuned. Yn ystod y cyfnod hwn, fe fyddwch yn canolbwyntio ar adnabod bygythiadau, niwed a risg, ac yn mynd i’r afael â materion lleol a heriau cymhleth.
Mae bod yn heddwas yn heriol ac yn ddwys, ond yn hynod o wobrwyol. Bydd gennych chi’r cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cymunedau rydych chi’n eu gwasanaethu a chael effaith barhaus ar fywydau unigolion. Er y bydd eiliadau heriol ac arferion newydd i arfer gyda, byddwch yn cael cefnogaeth gan rwydwaith eang i’ch arwain ar hyd y ffordd.
Mae ein rhaglen yn rhoi’r cyfle i chi wneud ein cymdeithas yn well drwy ddatblygu sgiliau i fod yn arweinydd yn y dyfodol yn y gymdeithas, ac if od ar flaen y gad o fewn yr heddlu.
Fe gewch eich cyflog o’r diwrnod cyntaf ar
ôl i chi ddechrau yn ein academi hyfforddi. Yn ystod y rhaglen, bydd gennych berchnogaeth lawn a chyfrifoldeb am ddod â newid cadarnhaol. Nid oes teimlad mwy boddhaus na gweld y gwaith rydych chi’n ei wneud yn dylanwadu’n well ar fywyd rhywun.
Cymhwysterau
I wneud cais am y rhaglen hon gyda Heddlu Dyfed‑Powys, rhaid i chi:
- Fod gyda cymhwyster Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg, gyda gradd leiaf o C neu uwch (neu gyfwerth).
- Fod wedi ennill, neu’n gweithio tuag at, radd israddedig 2.2 neu uwch, mewn unrhyw bwnc, erbyn dyddiad cychwyn y rhaglen.
- Fod yn Ddinesydd Prydeinig neu fod gennych ganiatâd diderfyn i aros gyda hawl i weithio yn y DU.
- Bod wedi byw yn y DU am y dair blynedd ddiwethaf.
- Bod gennych drwydded yrru DU llawn.
- Bod gennych sgiliau iaith Gymraeg Lefel 1, neu fod yn barod ac yn gallu cyrraedd Lefel 1 erbyn Medi 2026. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan hyfforddwr Iaith Gymraeg penodedig gyda gwersi a mynediad at gwrs ar-lein.
Hyfforddiant a Datblygiad
Mae ein hyfforddiant – sydd wedi ennill gwobrau – yn gosod y sylfeini ar gyfer gyrfa lwyddiannus a thrawsffurfiol mewn plismona. Trwy gydol yr academi hyfforddi preswyl wyth wythnos, bydd gennych fynediad at Hyfforddwr Perfformiad a Datblygiad sydd yn eich cefnogi i lywio gyrfa newydd a gwireddu eich potensial. Gallwch hefyd wneud cais am secondiad allanol neu i gael eich cynnwys mewn tîm mewnol yn ystod ail flwyddyn y rhaglen.
Datblygiad Gyrfa
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn heddwas cymdogaeth llawn, awdurdodedig gyda rôl barhaus o fewn yr heddlu. Mae llawer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i gael eu huwchraddio neu wedi archwilio meysydd eraill o fewn yr heddlu fel Gwrth Derfysgaeth, Adran Arfau neu Ymchwiliadau.
Gwobrau a Buddion
Cyflog
Byddwch yn derbyn cyflog cychwynol o £29,907. Bydd hyn yn cynyddu bob blwyddyn hyd at £48,231 o fewn saith mlynedd. Wrth gael eich hyrwyddo i’r radd nesaf yn yr heddlu, cwnstabl (sergeant), gallwch ennill cyflog cychwynol o £51,408.
Gwyliau
Byddwch yn dechrau gyda 22 diwrnod o wyliau y flwyddyn (ar ben gwyliau cyhoeddus), yn codi i 30 diwrnod yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth. Gallwch hefyd ddisgwyl ffurfiau eraill o wyliau gan gynnwys cyfnodau mabwysiadu, mamolaeth a thadolaeth.
Cydbwysedd Gwaith-bywyd
Nid yw hon yn swydd 9‑5 nodweddiadol. Mae heddweision yn gweithio ar batrymau shifft amrywiol sy’n rhoi hyblygrwydd a rhyddid iddynt fanteisio ar eu hamser y tu allan i’r gwaith. Yn wahanol i wythnos waith arferol, byddwch yn aml yn cael sawl diwrnod i ffwrdd yn olynol. Efallai y bydd yn cymryd peth amser i addasu i batrymau shifft, ond unwaith y gwnewch hynny, efallai y byddwch yn gweld bod hyblygrwydd y drefn yn eich galluogi i gydbwyso eich gwaith a’ch bywyd cartref yn well.
Pensiwn
Byddwch yn cael eich cofrestru’n awtomatig fel aelod o Gynllun Pensiwn yr Heddlu 2015, sy’n gwobrwyo heddweision am eu hymroddiad a’u gwasanaeth i’r cyhoedd. Mae’n cynnig pecyn ymddeol hael a diogel, gan ddarparu sefydlogrwydd ariannol a thawelwch meddwl.
Gostyngiadau Gwasanaethau Ariannol Mae nifer o sefydliadau partner yn gweithio ochr yn ochr â’r heddlu i gynnig ystod o wasanaethau ariannol gan gynnwys cynilo, buddsoddi a chynhyrchion amddiffynnol, yn ogystal a gostyngiadau a chymorthdaliadau. Mae llawer o siopau stryd fawr, manwerthwyr a sefydliadau cenedlaethol eraill yn cynnig gostyngiadau a chynigion arbennig i heddweision. Mae’r rhan fwyaf o heddluoedd hefyd yn cynnig mynediad at weithgareddau hamdden a chwaraeon wedi’u cymorthdalu.
Y Broses Ymgeisio
- Cais ar-lein
- Asesiad ymdrochol
- Canolfan asesu
- Cynnig amodol
Unwaith y byddwch wedi derbyn cynnig amodol, bydd angen i chi gwblhau gwiriadau cyn-cyflogaeth gan gynnwys prawf ffitrwydd, asesiad meddygol, cyfeirnodi a gwirio cefndir. Bydd eich cynnig terfynol yn dibynnu ar i chi basio’r holl wirio hyn.