Cynghorydd Busnes – Deallusrwydd Artiffisial

£27,000 - £38,200

M Sparc

Gweithio o adref

Awst 21, 2026

Full-time
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Er mwyn sicrhau bod busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn gallu defnyddio deallusrwydd artiffisial fel sbardun ar gyfer cynhyrchiant, gwydnwch a thwf cynaliadwy, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu rhaglen newydd i ddarparu cymorth digidol gwell, sy’n canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial, er mwyn cefnogi ymwybyddiaeth, mabwysiadu ac uwchsgilio busnesau bach a chanolig. Mae hwn yn gyfle cyffrous i sicrhau bod ein busnesau’n mabwysiadu ac yn datblygu atebion deallusrwydd artiffisial i gefnogi cynhyrchiant a thwf.


Mae M-SParc wedi cael ei is-gontractio i gyflawni’r prosiect hwn.


Mae M-SParc (is-gwmni dan berchnogaeth lwyr Prifysgol Bangor) yn Barc Gwyddoniaeth sydd â’r nod o gefnogi mentrau a phrosiectau sy’n cael eu harwain gan wybodaeth i dyfu a llwyddo. Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein gwefan www.m-sparc.com ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.



Teitl y Swydd Cynghorydd Busnes – Deallusrwydd Artiffisial (AI), (De Cymru)

Rheolwr Llinell Rheolwr Rhaglen AI (M-SParc)

Cyflog £27,000 – £38,200 Pro Rata, dependent upon experience.

Oriau Gwaith 37.5 awr

Cyfnod Tan 31 Mawrth 2027 yn y lle cyntaf.

Lleoliad Bydd angen i’r swyddog fod wedi’i leoli yn Ne-ddwyrain Cymru er mwyn cefnogi busnesau bach a chanolig ledled y rhanbarth yn effeithiol. Swydd sy’n cael ei chyflawni o’r cartref yw hon, yn teithio ledled De-ddwyrain Cymru yn ôl yr angen. Yn ogystal, disgwylir i’r swyddog ymweld â M-SParc yn Gaerwen, Ynys Môn, o leiaf unwaith bob chwarter.

Teithio Bydd y gofyniad i chi i ymweld â safleoedd a chleientiaid a mynychu digwyddiadau yn golygu bod y gallu i deithio’n hanfodol.

Y Swydd


Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan hanfodol yn y Rhaglen Ymwybyddiaeth a Mabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial, gan gefnogi arweinydd y prosiect, a chyflawni gweithgareddau diddorol i godi ymwybyddiaeth a darparu cymorth a chyngor i fusnesau bach a chanolig ynghylch mabwysiadu deallusrwydd artiffisial.


· Darparu cyngor 1:1, gan gynnwys arweiniad, argymhellion a chyngor penodol i fusnesau bach a chanolig ar eu hanghenion deallusrwydd artiffisial

· Arddangos a chodi ymwybyddiaeth o ddeallusrwydd artiffisial a’i alluoedd

· Annog busnesau i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial er mwyn gwneud busnesau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes yn fwy proffidiol, cynaliadwy ac effeithiol.

· Darparu digwyddiadau, gan gynnwys gweminarau, gweithdai a sesiynau rhwydweithio.

· Cefnogi a mynychu ymweliadau posibl â sefydliadau ysbrydoledig fel MIT




Y Cyfrifoldebau


1. Darparu cyngor penodol mewn meysydd fel mabwysiadu deallusrwydd artiffisial sy’n galluogi twf busnes.

2. Darparu cymorth cynghori drwy amrywiaeth eang o ddulliau digidol ac wyneb yn wyneb, h.y. 1:1, 1 i nifer, gweminarau, gweithdai a chymryd rhan mewn gweithgareddau eraill sy’n denu ac yn ymgysylltu â busnesau bach a chanolig.

3. Cydlynu a rheoli sesiynau rhwydweithio rhanbarthol i gynyddu diddordeb yn y technolegau sy’n dod i’r amlwg ac arddangos y ffordd lwyddiannus o’i fabwysiadau

4. Creu a datblygu cynnwys digidol sy’n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial i gydio’r dychymyg, i ysbrydoli ac i arddangos y ffordd o’i fabwysiadu.

5. Cefnogi’r gwaith o ddarparu Cyflymydd Deallusrwydd Artiffisial, gan gefnogi aelodau’r garfan i’w ddefnyddio

6. Sicrhau bod busnesau bach a chanolig ledled Cymru yn cael cynnwys a chyngor sy’n ymateb i anghenion busnes a thechnolegau newydd.

7. Gweithio gydag Arweinydd y Prosiect a’i gefnogi i ddatblygu cynnwys a gweithgareddau newydd ac arloesol, cynnig gwelliannau parhaus, a sicrhau llwyddiant cyffredinol y prosiect.


Dyletswyddau Cyffredinol


1. Gwneud penderfyniadau annibynnol, o fewn y fframwaith y cytunwyd arno gydag Arweinydd y Prosiect, a rheoli / cefnogi eu gwaith pan fydd yn absennol.

2. Cynllunio, blaenoriaethu a threfnu eich gwaith eich hun i gyflawni amcanion y cytunwyd arnynt.

3. Datrys problemau o ddydd i ddydd wrth iddynt godi, gan gydnabod pryd y dylid cyfeirio problem at bobl eraill.

4. Mabwysiadu agwedd gadarnhaol at waith tîm, gan chwilio bob amser am gyfleoedd i weithredu fel Llysgennad ar ran M-SParc




Manyleb y Person


Bydd yr ymgeisydd yn frwd dros ddeallusrwydd artiffisial, a bydd ganddo ddealltwriaeth ddofn ohono ac, yn hollbwysig, y ffyrdd o’i ddefnyddio. Bydd hefyd yn frwd dros eisiau cefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru i ddarganfod sut gall deallusrwydd artiffisial fod o fudd i’w twf, a sut i fabwysiadu hyn yn ymarferol yn eu busnes. Bydd ganddynt brofiad amlwg o ddarparu cyngor busnes i fusnesau bach a chanolig, a byddant yn gyfforddus yn darparu gweminarau, gweithdai a digwyddiadau i grwpiau ac ar sail un i un.

Cynghorydd Busnes – Deallusrwydd Artiffisial

Yn ôl i swyddi