Cymhorthydd Ymgysylltu a Marchnata

£27,274 - £29,071 per annum

Cyngor Gwynedd

Tŷ Cegin, Maesgeirchen, Bangor

Hydref 29, 2026

Temporary Full-time
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Cymhorthydd Ymgysylltu a Marchnata

Cyflog: GS4 £27,274 – £29,071 y flwyddyn

Oriau: 37 yr wythnos

Dros dro tan 31/03/2028

Lleoliad: Tŷ Cegin, Maesgeirchen, Bangor

Pwrpas y Swydd

  • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
  • Ymgysylltu â rhanddeiliad er mwyn cynnal perthnasoedd a chodi proffil yr Uned.
  • Cynorthwyo’r Uned gyda holl waith marchnata’r Uned, creu deunydd marchnata a sicrhau bod brand y gwasanaeth yn cael ei gyfathrebu’n glir a’i gynnal.

Prif Ddyletswyddau Yn Cynnwys

  • Cynorthwyo Swyddogion Gwybodaeth i Deuluoedd gyda marchnata holl waith Teulu Gwynedd drwy sicrhau fod brand Teulu Gwynedd yn cael ei adlewyrchu ymhob ymgyrch cyhoeddusrwydd, gan gynnwys diweddaru rheolaidd i’r tudalennau Gwasanaethau Plant a Theulu Gwynedd ar safle we’r Cyngor, cynorthwyo’r cymhorthyddion gweinyddol i ddilyn canllawiau brandio ar gyfer hyrwyddo gwybodaeth yr Uned ar y cyfryngau cymdeithasol sef Facebook ac Instagram, gwybodaeth ar hysbysfyrddau canolfannau, cynhyrchu defnyddiau cyhoeddusrwydd a chadw stoc o ddeunyddiau marchnata.
  • Cynhyrchu deunydd ymgysylltu a marchnata yn unol â chanllawiau brand yr Uned ar gyfer hyrwyddo ystod eang o wasanaethau a digwyddiadau a gynhaliwyd gan dimoedd yr Uned. Defnyddio meddalwedd Canva a phecyn brandio’r Uned ar gyfer cadw cysondeb ac adeiladu brand yr Uned.
  • Creu, golygu a chyhoeddi cynnwys digidol amlgyfrwng, gan gynnwys fideos, reels, straeon a chynnwys gweledol arall ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, gwefan y Cyngor a sianeli hyrwyddo perthnasol, gan sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau yr Uned.
  • Cynnal y platfformau hyrwyddo digidol gan sicrhau fod amrywiaeth o’r prosiectau yn cael sylw effeithiol ar gyfryngau cymdeithasol yr Uned a gwefan y Cyngor. Sicrhau cynhaliaeth amserlen pyst cyfryngau cymdeithasol drwy gwblhau adolygiad dadansoddol cyson a gweithio tuag at gael mwy o ddilynwyr a chyrhaeddiad uchel ar gyfryngau cymdeithasol yr Uned.
  • Adnabod tueddiadau marchnata cyfredol a mynychu hyfforddiant er mwyn sicrhau defnydd cyson o feddalwedd diweddar.
  • Trefnu a chynnal sesiynau estyn allan i godi proffil Teulu Gwynedd ar draws yr awdurdod, a chefnogi/mentora teuluoedd sydd yn cael hi’n anodd i gael mynediad digidol i wybodaeth berthnasol. Cefnogi darparwyr ymyraethau/gwasanaethau o bob sector i sicrhau fod eu gwybodaeth ar gael i deuluoedd y sir (uchafu defnydd o adnoddau megis DEWIS, Gwefan y Cyngor a rhwydweithiau cymdeithasol).
  • Sicrhau cefnogaeth i’r Uned gyda ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth o’r ystod eang o gefnogaeth sydd ar gael drwy ein cyfryngau cymdeithasol.
  • Cyfrifoldeb dros ymateb neu arall gyfeirio ymholiadau gan deuluoedd a darparwyr gofal plant at swyddogion perthnasol yn ôl yr angen.
  • Cynrychioli’r Uned mewn digwyddiadau yn rheolaidd ar gyfer hyrwyddo gwasanaethau’r Uned. Defnydd o gar eich hun yn angenrheidiol.
  • Sefydlu a chynnal perthynas waith effeithiol â’r cyhoedd, swyddogion mewnol ar draws yr Awdurdodau Lleol, asiantaethau statudol a gwirfoddol, a sefydliadau’r maes plant a theuluoedd.

Amgylchiadau Arbennig

  • Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos. Yn achlysurol bydd cais i weithio ar rota hyblyg rhwng 8am a 6pm. Hefyd bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol o bryd i’w gilydd.

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Sioned Owen ar [email protected].

Rhagwelir cynnal cyfweliadau.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Dyddiad Cau: 10:00 O’R GLOCH, 29/10/2026.

Manylion Person

Nodweddion Personol – Hanfodol

  • Y gallu i weithio a chymysgu yn hawdd â phobl.
  • Y gallu i adeiladu cysylltiadau a rhwydweithiau gyda phobl a mudiadau amrywiol.
  • Y gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
  • Person taclus a threfnus sy’n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo’r angen ac yn dangos blaengarwch.
  • Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau.
  • Creadigol a rhagweithiol.

Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Hanfodol

  • NVQ3 mewn cymhwyster perthnasol neu gyfatebol.
  • 3 TGAU (gradd A-C yn cynnwys Cymraeg a Saesneg).
  • Cymhwyster neu hyfforddiant mewn TG, cyfathrebu, cyfryngau cymdeithasol, gwybodaeth.

Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol – Dymunol

  • Hyfforddiant neu sgiliau ffotograffiaeth, golygu fideos a chreu cynnwys.

Profiad Perthnasol – Hanfodol

  • Profiad mewn marchnata, cyfathrebu a/neu rôl gweinyddiaeth gefnogol.
  • Profiad o gyfathrebu ac ymwneud yn effeithiol gydag unigolion a grwpiau ar lefel eang.
  • Profiad proffesiynol o hyrwyddo gwybodaeth drwy gyfryngau amrywiol e.e. newyddlenni, digwyddiadau, cyfarfodydd, cyflwyniadau, platfformau cyfryngau cymdeithasol (Instagram a Facebook yn bennaf).
  • Profiad o weithio ar feddalwedd dylunio megis Canva ac Adobe Creative Suite.

Profiad Perthnasol – Dymunol

  • Gweithio mewn cyd-destun cefnogi plant a theuluoedd.
  • Profiad o gynllunio a chwblhau gwaith ymchwil ffurfiol ac anffurfiol.

Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Hanfodol

  • Sgiliau cyfathrebu da a chadarn, a’r gallu i ymwneud â phobl yn effeithiol gan barchu’r angen am gyfrinachedd.
  • Dealltwriaeth o egwyddorion marchnata a strategaethau ymgysylltu â’r gynulleidfa darged.
  • Dealltwriaeth o frandio a phwysigrwydd cysondeb brand.
  • Sgiliau gofal cwsmer ardderchog.
  • Sgiliau cyflwyno.
  • Sgiliau trefnu da.
  • Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.

Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol – Dymunol

  • Gwybodaeth am y sector Gofal Plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar.
  • Sgiliau ymchwil a dadansoddi gwybodaeth.

Anghenion Ieithyddol – Hanfodol

  • Gwrando a Siarad – Uwch: Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi’i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Darllen a Deall – Uwch: Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni’r swydd.
  • Ysgrifennu – Uwch: Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosib cael cymorth i wirio’r iaith.)

Cymhorthydd Ymgysylltu a Marchnata

Yn ôl i swyddi