Cymhorthydd Technegol

£31,537 - £33,699

Cyngor Gwynedd

Caernarfon, Pwllheli, Dolgellau

Awst 4, 2026

Full-time
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Pwrpas y swydd

Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

Datblygu gallu personol mewn materion technegol yn bennaf o ran paratoi darluniadau a dogfennau gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd cyfrifiadurol amrywiol.

Ymgymryd â rôl arweiniol yn natblygiad sgiliau technegol staff yr Uned ac is-staff (Technegwyr).

Bod yn rhan o dîm prosiect hyblyg a chynorthwyo staff peirianneg a thechnegol ar brosiectau.

Cynorthwyo i sicrhau bod YGC yn gweithredu ar sail fasnachol ac yn addasu ei hun i gystadlu’n effeithiol.

Bod yn llwyr ymroddedig i fodloni anghenion y cleient.

Os oes angen, cynorthwyo Cynrychiolydd y Peirianwyr â'u dyletswyddau a'u prosiectau adeiladu.

Cyflawni gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.

Cynorthwyo â'r gofynion ar gyfer rheolaeth ariannol fel rhan o'r prosiect.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

Canfod a chynnal y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag:-

oarfer gorau cyfredol o ran materion dylunio

osafonau a datblygiadau technegol (gan gynnwys technoleg gyfredol), a chyfrifoldebau proffesiynol a statudol (yn cynnwys e.e. y rhai dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, Deddf Adeiladu 1984, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982, Rheoliadau Cynefinoedd 1994 a Rheoliadau addas e.e. rheoliadau CDM) a’u cymhwysiad i’r gwaith a’r swyddogaethau sy’n cael eu gweithredu.

Rheoli staff eilaidd.

Dirprwyo i’r rheolwr yn ei h/absenoldeb.

Sicrhau bod YGC yn ateb gofynion y Cyngor.

Sicrhau y caiff holl daflenni amser a chymeradwyaeth staff eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau YGC.

Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch a chydweithredu â chynrychiolydd Iechyd a Diogelwch YGC.

Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.

Prif ddyletswyddau

Datblygu a chynnal perthynas broffesiynol gyda chleientiaid.

Cynorthwyo staff peirianneg a thechnegol i gwblhau prosiectau gan gynnwys amrediad o ddyletswyddau technegol, gweinyddol a swyddfa ddarlunio yn gymesur â lefel hyfforddiant, arbenigedd a chymhwysedd deilydd y swydd unigol.

Cwblhau Asesiadau Archwiliad Isadeiledd Priffyrdd a gwaith cynnal a chadw.

Goruchwylio rheolaeth ariannol, weinyddol a thechnegol gwaith adeiladu, ymchwilio, asesu neu waith cynnal a chadw a wneir ar ran y Cleient.

Sicrhau bod prosiectau yn cydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.

Cynorthwyo i Oruchwylio gwaith ar safleoedd adeiladu pan fo'r angen a chwblhau cyfrifoldebau a dyletswyddau dirprwyedig yn briodol.

Gweithredu a rheoli systemau a meddalwedd cyfrifiadurol. Cynorthwyo i ddatblygu systemau meddalwedd yn YGC.

Cysylltu â gwasanaethau eraill, ymgymerwyr statudol, awdurdodau eraill, sefydliadau allanol, ac unigolion sy’n ymwneud â holl agweddau’r gwaith.

Adrodd wrth, a derbyn cyfarwyddiadau gan Uwch Staff, yn rheolaidd ac fel bo’r angen i sicrhau bod y gwaith yn mynd yn ei flaen yn iawn.

Goruchwylio ac arwain gwaith a datblygiad staff eilaidd.

Dyletswyddau gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n berthnasol, ac yn gymesur ag awdurdod y swydd.

Cyfrifol am hunan ddatblygiad.

Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor.  Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Amgylchiadau arbennig

Rheoli gwariant ei hun ar brosiectau.

Gallu gweithio dan bwysau

Y gofyn i weithio tu allan i oriau swyddfa arferol mewn Ymchwiliadau Cyhoeddus, ymgynghoriadau, arddangosfeydd a chyfarfodydd y Cyngor ac ati

Cymhorthydd Technegol

Yn ôl i swyddi