Cyfieithydd
£33,673 - £37,563 per annum
Conwy County Council
Colwyn Bay
Tachwedd 11, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Dyddiad Cau: 11/11/2026
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Caiff cymwysterau a geirdaon eu gwirio.
Sgiliau Iaith Gymraeg: mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg, ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith neu’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Nia Llwyd, Rheolwr Gwasanaeth y Gymraeg a Chyfieithu, ar 01492 576079 neu [email protected].
Am y rôl
Darparu gwasanaeth a fydd yn galluogi’r Cyngor i weithredu’r egwyddor na fydd yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, yn unol â gofynion Mesur y Gymraeg 2011, Safonau’r Gymraeg a Pholisi Cymraeg Mewnol y Cyngor.
Dan gyfarwyddyd Rheolwr Gwasanaeth y Gymraeg a Chyfieithu, byddwch yn ymgymryd â holl agweddau’r gwasanaeth cyfieithu, sy’n cynnwys gwaith cyfieithu ysgrifenedig yn bennaf. Byddwch hefyd yn darparu cymorth ac arweiniad i staff ar y polisi dwyieithrwydd ac arfer da, yn unol â Safonau’r Gymraeg a Pholisi Cymraeg Mewnol y Cyngor.
Prif Ddyletswyddau
- Cyfieithu papurau cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, pwyllgorau, a grwpiau penodedig eraill, gan gynnwys adroddiadau, cofnodion a rhaglenni cyfarfodydd
- Cyfieithu dogfennau amrywiol eraill; er enghraifft: polisïau, cynlluniau lleol, ffurflenni, llythyrau, hysbysebion, gwybodaeth recriwtio, cylchlythyrau, rhybuddion, dogfennau cyfreithiol o bob math, arwyddion, newyddlenni a thaflenni
- Gall y swydd gynnwys cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd os byddwch chi’n dymuno. Ond nid yw’r gallu na’r gofyn am gyfieithu ar y pryd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
- Cynnig cymorth a chyngor parod i bob adran o’r Cyngor ynglŷn â materion mewn perthynas â Safonau’r Gymraeg a Pholisi Cymraeg Mewnol y Cyngor, a materion yn ymwneud â chyfieithu
- Darparu gwasanaeth darllen proflenni, golygu a gwirio testunau Cymraeg a gynhyrchir gan staff eraill, a chynnig cyngor iddynt ar y darnau unigol
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd a thrafodaethau tîm a chyfrannu’n bositif tuag at ddatblygu’r gwasanaeth cyfieithu a’r gwasanaethau iaith yn gyffredinol
Manylion am yr Unigolyn — Hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth
- Cymhwyster Lefel A/Safon Uwch mewn Cymraeg
- Gwybodaeth arbenigol o Gymraeg a Saesneg er mwyn cyfieithu’n fanwl gywir o’r naill iaith i’r llall
- Dewis yr union arddull a geirfa i gyfleu’r ddogfen wreiddiol wrth ei chyfieithu
- Cynghori aelodau eraill o staff y Cyngor ynglŷn â’r defnydd o dermau ac iaith
- Gallu defnyddio TG a meddalwedd Microsoft Office
- Gallu teipio’n gyflym ac yn gywir
- Gallu gweithio ar eich pen eich hun ac fel aelod o dîm
- Gallu gweithio dan bwysau cyson
- Gallu cadw cyfrinachedd
- Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg ar lefel 5 yn hanfodol
- Mae gallu cyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol
- Rheoli eich llwyth gwaith i gwblhau dogfennau i fodloni terfynau amser
- Gallu ymdopi â phwysau gwaith sylweddol a chynhyrchu cyfran sylweddol o waith o fewn terfynau amser tynn
- Sgiliau rhyngbersonol da i gydweithio gyda staff, cyfieithwyr eraill, Cynghorwyr a’r cyhoedd
Dymunol
- Aelodaeth o sefydliad/cymdeithas cyfieithwyr cydnabyddedig
- Profiad o ddefnyddio cof cyfieithu
- Gallu cyfieithu ar y pryd (nid oes rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â chyfieithu ar y pryd oni bai ei fod/bod yn dymuno gwneud hynny)
- Gwybodaeth am y Cyngor, ei drefnau a’r gwahanol adrannau
- Profiad o ddefnyddio offer cyfieithu sefydlog a symudol