Cydlynydd Ymgysylltu a Chyfathrebu
£31,537 - £33,699
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Mehefin 12, 2026
Disgrifiad o'r Cwmni
Pwrpas y Swydd.
- Sicrhau bod llais plant a phobl ifanc Gwynedd, yn enwedig y rhai sy’n anodd eu cyrraedd, yn cael ei glywed a’i ystyried mewn penderfyniadau.
- Cefnogi datblygu strategaethau, polisïau a chynlluniau’r Cyngor drwy ddefnyddio barn a llais pobl ifanc.
- Cydlynu gweithgareddau ymgysylltu, chyfathrebu a cyfranodiad effeithiol gyda pobl ifanc ar draws Gwynedd.
- Cryfhau dulliau cyfranogi sy’n gynhwysol, hygyrch ac yn adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Gwynedd.
- Sicrhau bod y Cyngor yn bodloni gofynion cenedlaethol a lleol o ran cyfranogiad plant a phobl ifanc.
- Defnyddio ymarferion Gwaith Ieuenctid drwy cwblhau hyfforddiant Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
- Cyllid Fforymau Ieuenctid
- Gliniadur.
Prif Ddyletswyddau.
- Cynllunio a chyflwyno cyfleoedd ymgysylltu ar gyfer pobl ifanc ar draws Gwynedd drwy ymarferion gwaith ieuenctid
- Datblygu ac arwain gweithgareddau cwricwlwm ieuenctid cynhwysol, sy’n adnabod a gweithio gyda phobl ifanc o grwpiau dan gynrychiolaeth, gan sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob person ifanc yng Ngwynedd.
- Gweithio mewn partneriaid gyda pobl ifanc i sicrhau bod hawliau a barn yn llywio penderfyniadau y Cyngor. Casglu, dadansoddi a chyflwyno safbwyntiau – pobl ifanc mewn ffordd sy’n llywio penderfyniadau strategol y Cyngor.
- Datblygu sgiliau a gwybodaeth pobl ifanc ar hawliau (UNCRC).
- Gweithio’n mewn partneriaith gyda gwasanaethau’r Cyngor, ysgolion, partneriaid a sefydliadau cymunedol i gryfhau cyfleoedd cyfranogi.
- Cefnogi datblygiad fforymau, grwpiau neu strwythurau sy’n galluogi pobl ifanc i leisio barn yn rheolaidd.
- Datblygu a gweithredu cynlluniau cyfathrebu sy’n hyrwyddo cyfleoedd cyfranogi i bobl ifanc.
- Sicrhau bod adborth clir yn cael ei roi i bobl ifanc ynghylch sut mae eu barn wedi dylanwadu ar benderfyniadau.
- Monitro ac adrodd ar effaith llais pobl ifanc.
- Cefnogi hyfforddiant a datblygiad staff a phartneriaid ar arferion ymgysylltu effeithiol gyda phobl ifanc.
- Sicrhau bod yr holl waith yn cydymffurfio â pholisïau diogelu, cydraddoldeb ac arferion gorau cyfranogi.
- Cefnogi’r gwaith o lunio a gweithredu cynllun cyfathrebu a chynllun ymgysylltu y Gwasanaeth Ieuenctid
- Cefnogi’r gwaith o hyrwyddo Rhaglen Gweithgareddau a Phrosiectau, Clwb Ieuenctid Gwynedd a’r Gwasanaeth Ieuenctid i ystod o gynulleidfaoedd mewnol (staff a chynghorwyr) ac allanol (pobl Gwynedd yn gyffredinol a grwpiau penodol yn ôl yr angen).
- Sicrhau bod gwybodaeth o ansawdd dda ar gael i gefnogi gweithgareddau ymgysylltu.
- Arwain ar ymgysylltu gydag ysgolion / sefydliadau a grwpiau er mwyn sicrhau cyfraniad a mewnbwn cynrhychiolaeth eang o blant a phobl ifanc Cyngor Gwynedd.
- Datblygu cyfleoedd i blant a phobl ifanc Gwynedd ymgyfarwyddo â’r drefn wleidyddol Lleol a Chenedlaethol.
- Hyrwyddo a chydlynnu’r broses o ymgysylltu gyda plant a phobl ifanc ar draws Gwynedd gan adrodd i grwpiau a phwyllgorau o fewn y Cyngor.
- Hwyluso pobl ifanc i feithrin eu sgiliau a’u hyder fel bod cyfranogiad a chyfraniad yn cael eu huchafu a'u bod yn gallu mynegi eu barn.
- Bod yn hyrwyddwr ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc, gan fabwysiadu ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y person ifanc drwy Waith Ieunectid.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau Arbennig. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
- Ar adegau bydd disgwyl i ddeilydd y swydd fo ar gael ar nosweithiau a penwythnosau er mwyn mynychu digwyddiadau penodol.