Cydlynydd Trafnidiaeth Ffyrdd

£15 per hour1

Transport for Wales (TFW)

North Wales

Awst 10, 2026

Graduate Scheme
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Sylwch: contract am gyfnod penodol o 6 neu 18 yw hwn

Mae’r swydd hon yn seiliedig ar gontract oriau blynyddol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio cyfanswm o oriau yn ystod y flwyddyn, yn hytrach nag amserlen wythnosol benodol. Bydd patrymau gweithio’n amrywio yn dibynnu ar anghenion busnes, gan gynnwys gyda’r nos, ar benwythnosau ac yn ystod cyfnodau prysur. Bydd shifftiau’n cael eu cynllunio ymlaen llaw a’u cyfleu gyda rhybudd rhesymol. Mae hyblygrwydd yn hanfodol er mwyn bodloni gofynion gweithredol.
Rydyn ni wedi ymrwymo i roi cymaint o rybudd â phosibl ar gyfer oriau gwaith a byddwn yn ceisio cydbwyso anghenion busnes â llesiant gweithwyr.

Y Swydd

Darparu cymorth cydlynu ar gyfer Gwasanaethau Bysiau yn lle Trenau (RRS) mewn lleoliadau gweithredu, gan amharu cyn lleied â phosibl ar deithwyr wrth iddynt symud o ddulliau trafnidiaeth. Monitro’r holl elfennau gweithredol i sicrhau eu bod yn rhedeg yn esmwyth a pharhau i gyfathrebu â staff rheoli’r Gwasanaethau Bysiau yn lle Trenau i sicrhau eu bod yn cael gwybod am yr holl wybodaeth berthnasol.

Darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn ystod gweithrediadau’r Gwasanaethau Bysiau yn lle Trenau. Sicrhau cyfathrebu effeithiol a rhagweithiol gyda theithwyr i’w cefnogi i orffen y daith.

 

 

Cyfrifoldebau’r swydd

  • Cynrychioli Trafnidiaeth Cymru (TrC) mewn modd cadarnhaol, proffesiynol ac agos-atoch bob amser.
  • Darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid drwy gynorthwyo teithwyr a darparu gwybodaeth gywir a chyfredol am deithio drwy gyhoeddiadau clir ynghylch diweddariadau i wasanaethau, amseroedd gadael a phatrymau galw yn ôl yr angen. Datblygu gwybodaeth ymarferol dda am rwydwaith TrC a daearyddiaeth leol i helpu teithwyr yn effeithiol.
  • Goruchwylio a chydlynu’r gwaith o symud bysiau a bysiau moethus a ddefnyddir yn lle trenau yn ddiogel ac yn amserol mewn lleoliadau dynodedig drwy gyfleu diweddariadau amser real, oedi, neu newidiadau i reolaeth, timau gorsafoedd, a phartïon perthnasol eraill yn gyflym ac yn glir.
  • Hyrwyddo diogelwch drwy sicrhau bod yr holl gamau gweithredu a phenderfyniadau yn cyd-fynd â phrotocolau a safonau diogelwch TrC.

Am beth rydyn ni’n chwilio

  • Sgiliau cadarn o ran gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu
  • Sylw gwych i fanylion er mwyn sicrhau gwasanaeth cywir
  • Sgiliau cadarn o ran gwneud penderfyniadau
  • Dull systematig o weithio

Sgiliau Cymraeg

Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.

Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.

Cyfle Cyfartal

Rydyn ni’n newid y ffordd y mae’r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni’n datblygu gweithlu sy’n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru’n teithio."

Pwy ydyn ni 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r dewis cyntaf. Rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o’r enw Rhwydwaith T, i’w gwneud hi’n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.

Y camau nesaf

Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi’n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.

Rydyn ni’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl. #LI-MS1

Cydlynydd Trafnidiaeth Ffyrdd

Yn ôl i swyddi