Cydlynydd Gwasanaethau Digartrefedd a Chefnogaeth

£44,075 - £46,142

Cyngor Gwynedd

North Wales

Awst 7, 2026

Full-time
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Pwrpas y swydd

Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

Cynorthwyo Rheolwr y Gwasanaeth i sicrhau bod y tîm(au) y mae’n arwain yn cyflawni yn effeithiol ac effeithlon yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd drwy greu a chynnal amgylchedd o barch ac ymddiriedaeth gan rymuso, arfogi ac ysbrydoli’r staff.

Arwain y tîm yn draws sirol, er mwyn darparu gwasanaethau a chefnogaeth i gynorthwyo pobl fydd yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref yng Ngwynedd yn effeithiol ac effeithlon yn unol â deddfau perthnsol, polisïau a threfniadau’r Cyngor.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

Staff y Tim Digartrefedd

Rheolaeth o’r cytundebau cefnogaeth mewn datblygiadau Llety â Chefnogaeth drwy’r Sir

Rheolaeth o’r Hosteli Digartref

Offer gweithio personol (dros £500)

Arian parod (cannoedd)

Prif ddyletswyddau

Cynorthwyo Reolwr y Gwasanaeth i:

Helpu’r tîm i adolygu a herio ei berfformiad

Creu a chynnal awyrgylch sy’n galluogi pob aelod o’r tîm i gyfrannu a chymryd penderfyniadau er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau posib

Sicrhau awyrgylch o ymddiriedaeth ac atebolrwydd gan sicrhau cyfathrebu priodol gyda ac o fewn y tîm.

Annog y tîm i arloesi, mentro a dysgu o brofiad er mwyn gwella perfformiad

Cymell a/neu mentora’r tîm i adnabod a gweithredu’n amserol er mwyn dileu rhwystrau sy'n atal y gallu i gyflawni yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd

Cynorthwyo i hwyluso datblygiad personol aelodau’r tîm

Gweithredu’n hyblyg o fewn egwyddorion gweithredu’r tîm i gyflawni yr hyn sy’n bwysig i drigolion Gwynedd.

Edrych yn barhaus am gyfleoedd i wella’r gwasanaeth gan adnabod materion sy’n rhwystro’r tîm rhag cyflawni yn effeithiol ac effeithlon a gweithredu er mwyn eu datrys.

Cyfrannu a gwneud penderfyniadau priodol er mwyn cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd

Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau uchod.

Sicrhau, drwy annog a chymell bod staff y tîm yn perchnogi egwyddorion Ffordd Gwynedd

Sicrhau amgylchedd o fewn y tîm sy’n hyrwyddo ac annog llesiant staff

Sicrhau bod y tîm yn cyfrannu at amcanion gwasanaethau neu sefydliadau eraill sy’n ceisio cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.

Hyrwyddo’r angen i adnabod a gweithredu ar fygythiadau a chyfleoedd y dyfodol gan gynnwys camau ataliol

Arwain newid o fewn y maes gwasanaeth lle mae angen gwneud hynny

Datblygu unigolion a thimau i sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gyflawni’r rolau sydd eu hangen rŵan ac i’r dyfodol

PRIF DDYLETSWYDDAU

Cyfrifoldeb am gydlynu ac arwain gwaith dydd i ddydd y tîm Digartrefedd a Chefnogaeth.

Sicrhau bod y tîm yn gweithredu mewn modd cadarn, rhesymol a phroffesiynol wrth gynghori neu weithredu ar geisiadau gwasanaeth gan sicrhau ethos o gydymdeimlad a’r awydd i helpu i wella amgylchiadau byw unigolion o theuluoedd bregus.

Sicrhau bod y Cyngor yn ymateb yn briodol a chyflawn i faterion digartrefedd.

Edrych am gyfleoedd i gyflwyno, ac arwain ar brosiectau strategol digartrefedd eraill a fyddai’n gwella ein darpariaeth gwasanaeth digartrefedd yng Ngwynedd.

Sefydlu a chynnal cytundebau darparu cefnogaeth mewn datblygiadau “Llety â Chefnogaeth” newydd yn y Sir.

Sicrhau darpariaeth briodol o opsiynau sector breifat (a thai eraill a brydlesir gan ein partneriaid cyhoeddus) er mwyn gallu cartrefu unigolion sy’n ddigartref am gyfnodau dros dro a pharhaol.

Rheoli tenantiaethau a roddir gan y Cyngor i unigolion wedi eu cartrefu mewn Llety â Chefnogaeth.

Monitro bod y cytundebau darparu cefnogaeth yn gweithio yn effeithiol.

Darparu arweiniad technegol a phroffesiynol am faterion Digartrefedd a Phrosiectau Strategol yn ôl y galw i swyddogion o fewn y tîm, i’r Rheolwr, Pennaeth Adran ac Aelodau yn ôl y galw.

Gweithredu fel y swyddog arweiniol ar faterion technegol a phroffesiynol materion Digartrefedd a Phrosiectau Strategol o fewn y Cyngor.

Cynorthwyo a chefnogi’r Rheolwr i sicrhau fod cynlluniau strategol yn ymwneud â’r maes yng Ngwynedd yn cael ei gyflawni’n effeithiol ac effeithlon.

Sicrhau bod y tîm Digartrefedd yn gweithredu yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau a pholisïau perthnasol.

Mynychu cyfarfodydd, Pwyllgorau, Is-Bwyllgorau neu Weithgorau yn ôl yr angen, gan gynnwys cyd-gysylltu ag asiantaethau a chynghorau eraill yn berthnasol i ddyletswyddau digartrefedd yr Adran.

Paratoi adroddiadau, gwybodaeth ystadegol a chyllidol yn ôl yr angen.

Sicrhau bod tîm yn gweithredu o fewn y cyllidebau sydd ar gael iddynt redeg y gwasanaeth a bod yn effro i’r angen i sicrhau’r gwerth ariannol gorau pob amser gan geisio adnabod cyfleon i wella effeithlonrwydd ariannol y tîm, Gwasanaeth ac Adran.

Cydweithio gydag eraill ar brosiectau penodol yn ymwneud â materion digartrefedd a thai yn gyffredinol gan gynnwys cefnogi timau eraill i gyflawni eu pwrpas hwythau.

Cefnogi’r Rheolwr a’r Pennaeth Adran i gyflawni gwasanaethau a phrosiectau yng Nghynllun Gweithredu Tai y Cyngor.

Creu perthynas a phartneriaethau er mwyn hybu cydweithio agos gyda chyrff cyhoeddus a trydydd sector eraill sy’n weithredol yn y maes digartrefedd/tai.

Adnabod, adolygu a monitro’n rheolaidd unrhyw risgiau Iechyd a Diogelwch i staff a/neu gleientiaid

Sicrhau bod gan y tîm systemau technoleg gwybodaeth effeithiol ac effeithlon i hwyluso darpariaeth gwasanaeth gan geisio symud i systemau gweithio digidol.

Ymgymryd â dyletswyddau rhesymol eraill yn gysylltiedig â’r gwasanaeth Tai cyhoeddus fel aelod o dîm rheoli’r Gwasanaeth.

Cyfrannu tuag at sicrhau llwyddiant, ffyniant a datblygiad yr Adran Tai ac Eiddo gan gynnwys cyfrannu mewn cyfarfodydd rheolwyr/arweinyddion tîm yr Adran.

Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam drin.

Amgylchiadau arbennig

Cydlynydd Gwasanaethau Digartrefedd a Chefnogaeth

Yn ôl i swyddi