Cydlynydd Cynhyrchu

£28,000 - £30,000

Y Lolfa

Talybont

Tachwedd 14, 2025

Permanent

Disgrifiad o'r Cwmni

Cydlynydd Cynhyrchu

Cefndir

Sefydlwyd Y Lolfa yn Nhalybont, Ceredigion yn niwedd y chwedegau. Yn fuan daeth y wasg i fri fel un fentrus a bywiog yn cynhyrchu deunydd poblogaidd gan ddefnyddio dulliau argraffu newydd y cyfnod. Dilynwyd, o’r dechrau, y polisi o fod yn hunangynhaliol hyd y bo modd. Erbyn hyn, mae gan y cwmni ddwy wasg argraffu litho maint B2 – yn cynnwys un pump-lliw ac un berffeithio – a gwasg ddigidol a pheiriannau rhwymo. Yn ogystal â chyhoeddi tua 80 o lyfrau newydd bob blwyddyn, mae’r wasg yn cynnig gwasanaeth argraffu i gwsmeriaid masnachol. Trodd Y Lolfa yn gwmni cyfyngedig yn 1979. Erbyn hyn, mae’n cyflogi 22 o bobl gyda throsiant blynyddol o dros £1.6 miliwn, gyda thua £400k o incwm y wasg yn dod o argraffu masnachol. Mae gwefan y cwmni — www.ylolfa.com — yn cynnwys rhestr gyflawn o gyhoeddiadau’r Lolfa a gwybodaeth am y cwmni.

Y Swydd

Mae hon yn swydd gyfrifol, gyffrous ac amrywiol yng nghanol gwasg gyhoeddi amlycaf Cymru. O swyddfa fodern, braf ar y briffordd De-Gogledd, byddwch yn gyfrifol am reoli a chydlynu llif gwaith masnachol a chyhoeddi’r cwmni. Mae’r dyletswyddau’n cynnwys creu amserlenni wythnosol a phrisio gwaith allanol. Mewn swydd sy’n cyfuno’r masnachol a’r creadigol, byddwch yn delio â’r llif o bobl sy’n pasio trwy ddrysau gwasg brysur yn ddylunwyr, gwsmeriaid a chyflenwyr – a’u cadw nhw i gyd yn hapus. Mae’n swydd sefydlog mewn cwmni cadarn sy’n cynnwys y cyfuniad perffaith o her a boddhad.

Mae hon yn swydd amser llawn, 5 diwrnod yr wythnos. Bydd gan y Cydlynydd Cynhyrchu ei swyddfa ei hun yn Y Lolfa, Hen Swyddfa’r Heddlu, Talybont, Ceredigion.

Prif Ddyletswyddau

1. Goruchwylio’r llif gwaith a sicrhau ei fod yn rhedeg yn esmwyth ac effeithiol.

2. Prisio gwaith i gwsmeriaid argraffu masnachol a sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau ar amser.

3. Trefnu bod llyfrau a gyhoeddir gan Y Lolfa yn cael eu hargraffu’n gywir, yn brydlon ac i’r safon ddisgwyliedig.

4. Gwirio’r gwaith sy’n mynd drwy adrannau cynhyrchu’r cwmni.

5. Archebu gwaith yn achlysurol gan is-gontractwyr.

6. Archebu papur, inc a deunydd eraill ar gyfer yr adrannau argraffu a rhwymo.

7. Paratoi cardiau gwaith i bob eitem sy’n mynd trwy’r wasg a chreu rhestr waith ar gyfer cyfarfod staff wythnosol y cwmni.

8. Sicrhau bod offer yn cael eu cynnal a’u cadw yn gyson.

9. Bod yn barod i helpu mewn adrannau eraill pan fo angen.

Cymwysterau a Phrofiad

Hanfodol

  • Y gallu i gyfathrebu’n glir a gweithio’n drefnus.
  • Profiad o ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office (yn enwedig Excel) a Teams.
  • Y gallu i weithio o dan bwysau ac i ddatrys problemau.
  • Sgiliau rhifedd da.

Dymunol

  • Profiad o phrosesau.
  • Profiad o drefnu gwaith, gan gynnwys prisio, amserlenni, blaenoriaethu ac arwain.
  • Profiad o weithio ym maes argraffu masnachol / gweithgynhyrchu neu feysydd cysylltiedig fel dylunio graffeg.
  • Dealltwriaeth o raglenni dylunio fel Adobe InDesign, Acrobat a Photoshop.
  • Diddordeb ym meysydd dylunio, technoleg a chynhyrchu.
  • Profiad o drin a gweithio ar beiriannau amrywiol.

Croesawn ymgeiswyr heb brofiad uniongyrchol: bydd y flwyddyn gyntaf yn gyfnod o hyfforddiant ar waith gyda chefnogaeth lawn, a darperir hyfforddiant pellach yn ôl yr angen.

Gallwn hefyd ystyried rhannu’r swydd yn ddwy gyda chyflog is.

Yr Iaith Gymraeg

Cymraeg yw iaith gweinyddol y cwmni a’r rhan fwyaf o’n cyhoeddiadau a’n gwaith argraffu. Mae’r gallu i sgyrsio mewn Cymraeg syml felly yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, ond rydym yn barod i ystyried ceisiadau gan ddysgwyr brwdfrydig ac i gynnig hyfforddiant i ddysgwyr sydd am wella eu Cymraeg fel bod modd i ni gynnig gwasanaeth Cymraeg i’r rhai sy’n dymuno hynny.

Cyflog ac Amodau · Cyflog blynyddol sefydlog (salaried): Cystadleuol – ebostiwch [email protected] am y manylion llawn.

  • Swydd amser llawn: 37¼ awr yr wythnos (5 diwrnod).
  • Gwyliau â thâl: 25 diwrnod + gwyliau banc statudol + diwrnod ychwanegol dros gyfnod y Nadolig.
  • Pensiwn: Cynllun trwy Royal London – cyfraniad gweithwyr 5%, cyfraniad y cwmni 3–5% yn ôl hyd gwasanaeth.
  • I gychwyn mor fuan â phosib. Dim hwyrach na’r 1af o Chwefror 2026
  • Cymorth adleoli: ar gael i ymgeiswyr o’r tu allan i’r ardal.
  • Darperi hyfforddiant a’r offer/meddalwedd angenrheidiol.

Cyfle Cyfartal

Rydym yn ymdrechu i ddatblygu gweithle o bob rhan o’r gymuned waeth beth fo’u rhyw, hunaniaeth rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oedran. Mae’r Lolfa wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol.

Amodau Eraill

Yr oriau gwaith arferol yw 7 ¼ awr y dydd, 5 dydd yr wythnos. Mae 25 dydd o wyliau â thâl yn ogystal â gwyliau banc statudol. Rydym fel arfer yn cynnig diwrnod ychwanegol dros gyfnod y Nadolig. Telir cyflogau’n fisol i mewn i’r banc. Rhoddir Cytundeb Gwaith sydd i’w lofnodi wrth ddechrau ac fe ddarperir Llawlyfr Staff. Rydym yn falch o’r awyrgylch gweithio braf sydd yma.

Cyfnod Prawf

Mae cyfnod prawf o chwe mis; gwneir y swydd yn barhaol wedyn os bydd y perfformiad yn foddhaol.

Ymgeisio

Anfonwch erbyn hanner dydd, dydd Llun y 3ydd o Dachwedd 2025

1. CV llawn yn nodi profiad, cymwysterau, diddordebau, a manylion dau ganolwr.
2. Llythyr neu e-bost (hyd at 500 o eiriau) yn esbonio pam eich bod yn ymgeisio am y swydd.
Rydym yn hapus i dderbyn ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Anfonwch eich cais at: Garmon Gruffudd, Rheolwr Gyfarwyddwr Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5AP Ffôn: (01970) 831 902 |

Cydlynydd Cynhyrchu