Cydlynydd Cyfathrebu a Digwyddiadau

£27,616 – £29,155

Meat Promotion Wales

Aberystwyth

Mehefin 26, 2026

Full-time
Yn ôl i swyddi

Disgrifiad o'r Cwmni

Disgrifiad Swydd: Cydlynydd Cyfathrebu a Digwyddiadau

Y Sefydliad

Hybu Cig Cymru (HCC) yw’r corff strategol sy’n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru. Ei genhadaeth yw rhoi cymorth i ddatblygu diwydiant cig coch yng Nghymru sy’n broffidiol, effeithlon, cynaliadwy ac arloesol ac sy’n ymateb yn gystadleuol i dueddiadau newidiol y farchnad.

Mae gan y sefydliad oddeutu 25 o staff yn y corff cychwynnol, ynghyd â 25–30 arall a gyflogir gan ein his-gwmni. Mae’r naill a’r llall yn gweithredu’n ddwyieithog ac mewn partneriaeth glos â rhanddeiliaid ar draws y sectorau bwyd a pholisi cyhoeddus. Fel corff cyhoeddus Cymreig, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a’r iaith Gymraeg, ac i gynnal y safonau uchaf o ran llywodraethiant, lles y gweithlu a diwylliant sefydliadol.

Trosolwg o’r swydd

Drwy adrodd i’r Pennaeth Gweithrediadau a Materion Allanol a gweithio fel rhan o’r tîm cyfathrebu a materion allanol, mae’r swydd hon yn darparu cefnogaeth o ddydd i ddydd ar draws y sefydliad ar gyfathrebu, digwyddiadau a materion allanol.

Fel rhan o dîm, mae deiliad y swydd yn helpu darparu gweithgarwch cyfathrebu, digwyddiadau a materion allanol y sefydliad, gan helpu i sicrhau bod blaenoriaethau strategol HCC yn cael eu cyfathrebu’n effeithiol.

Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr o bob rhan o’r sefydliad, mae’r rôl yn helpu i sicrhau bod prosiectau/rhaglenni unigol gan HCC yn cael eu cefnogi a’u cyfathrebu’n dda, gan gyfrannu at enw da’r sefydliad ymhlith rhanddeiliaid allweddol, cwsmeriaid ac aelodau’r cyhoedd.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Cyfathrebu a chysylltiadau â’r cyfryngau

  • Cynorthwyo gyda gweithgarwch cyfathrebu HCC, gan sicrhau negesau clir, cyson ac amserol i gynulleidfaoedd allanol a rhanddeiliaid.
  • Fel rhan o dîm, helpu i ddiweddaru a chynnal sianeli cyfryngau cymdeithasol corfforaethol HCC â newyddion, cyhoeddiadau a diweddariadau am y sefydliad.
  • Helpu i gynhyrchu negeseuon corfforaethol, gan sicrhau eu bod yn gywir, yn unol â’r brand ac yn cyd-fynd â’r negesau a’r blaenoriaethau sefydliadol a gytunwyd.
  • Monitro gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol corfforaethol ac uwchgyfeirio problemau, cyfleoedd neu ymholiadau at uwch-gydweithwyr yn ôl yr angen.
  • Cynorthwyo gyda chydlynu a gweinyddu gweithgarwch sy’n gysylltiedig â’r cyfryngau, gan weithio gyda chydweithwyr a phartneriaid i gefnogi cynrychiolaeth allanol gadarnhaol o HCC.

Cynorthwyo gyda digwyddiadau

  • Helpu cynllunio, trefnu a chynnal digwyddiadau dan arweiniad HCC a phartneriaid, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr mewnol a rhanddeiliaid allanol.
  • Cynorthwyo gyda logisteg a gweinyddu ar gyfer digwyddiadau, gan gynnwys deunyddiau paratoi a chyfrannu ar y diwrnod.
  • Mynychu digwyddiadau yn ôl yr angen i helpu eu cynnal ac ennill profiad o ymgysylltu â rhanddeiliaid.
  • Cyfrannu at gyfathrebu sy’n gysylltiedig â digwyddiadau, gan gynnwys hyrwyddo, gweithgarwch ar y diwrnod ac ar ôl y digwyddiad.

Cysylltiadau allanol ehangach

  • Cynorthwyo gyda gweithgarwch cysylltiadau allanol ehangach trwy gydweithio â thimau mewnol a phartneriaid allanol ar fentrau ar y cyd a chyfleoedd ymgysylltu.
  • Cynorthwyo gyda phrosiectau a digwyddiadau cydweithredol â phartneriaid allanol sy’n cefnogi amcanion ehangach HCC.
  • Helpu cynnal perthynas gadarnhaol â rhanddeiliaid allanol, gan gynorthwyo uwch gydweithwyr gyda gweithgarwch ymgysylltu.
  • Gweithio’n hyblyg gyda thimau i gefnogi tasgau gweinyddol a gweithrediadol, gan gyfrannu at broffil ac ymgysylltiad allanol HCC.

Cydlynydd Cyfathrebu a Digwyddiadau

Yn ôl i swyddi