Peiriannydd Datblygu Meddalwedd
£36,124 - £37,938 a year
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Awst 29, 2025

Disgrifiad o'r Cwmni
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Elfyn Evans (01286 679237), Emyr Williams (01286 679118) neu Gwyn Jones (01286 679605)
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 29.08.2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pwrpas y Swydd.
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Darparu’r sgiliau angenrheidiol a datblygu, gweithredu, cynnal a chefnogi datrysiadau meddalwedd sy’n cwrdd ag amcanion busnes.
- Ar gyfer pob prosiect sicrhau y glynir wrth Fethodoleg Datblygu Sustemau Cyngor Gwynedd a sicrhau bod pob pecyn gwaith yn cael ei gyflawni ar amser, o fewn y gyllideb ac yn unol âr fanyleb.
- Wrth weithio fel rhan o dîm, nodi lle mae modd defnyddio TGCh i greu cyfleon ac arbedion effeithlonrwydd a gwell Gofal Cwsmer.
- Bod yn gyfrifol am sicrhau gweithrediad parhaus isadeiledd TGCh y Cyngor.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Staff:
- Gall fod yn arweinydd technegol ar gyfer timau prosiect sy’n canolbwyntio ar dechnoleg.
- Bod yn fentor i raglennwyr/dadansoddwyr iau.
- Gall fod yn rheolwr llinell i raglennwyr/dadansoddwyr iau eraill.
- Datblygu staff iau eraill drwy oruchwylio gwaith i sicrhau cywirdeb a safon, yn ogystal â mentora i gefnogi’r unigolion a datblygu sgiliau fel yr angen
Cyllid:
- Yn ymwybodol o strwythurau cyllidebol a chyfyngiadau prosiect/contract cefnogi.
- Archwilio mentrau bychain/canolig.
Data/Offer/Meddalwedd:
- Bod â mewnbwn i agweddau technegol prosiectau sydd ag effaith ar y Cyngor i gyd ac sy’n cael effaith uniongyrchol ar y cyhoedd (a gwneud penderfyniadau yn ei chylch).
- Rhoi cefnogaeth ar gyfer cymwysiadau sy’n hanfodol i waith beunyddiol y Cyngor a hefyd i gymwysiadau a ddefnyddir gan y cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi problemau, eu datrys a’u hosgoi.
- Yn gyfrifol am sicrhau cywirdeb data sy’n hanfodol i’r Cyngor.
- Cysylltu gyda phartïon allanol i ddatrys materion
- Sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol yn cael eu diweddaru pan fo newidiadau’n cael eu gwneud i bob elfen sy’n gysylltiedig â’r cymwysiadau.
- Yn gyfrifol am sicrhau bod y diogelwch priodol yn ei le i ddiogelu data sensitif (drwy gyflwyno’r mecanwaith priodol i ganiatáu’r Cyngor gydymffurfio a pholisïau diogelu data)
Prif Ddyletswyddau.
Gwneud penderfyniadau, trefnu ac arloesi:
- Gwneud penderfyniadau lle mae rhaid asesu dewisiadau cymhleth.
- Defnyddio sgiliau technegol mewn nifer o ddisgyblaethau arbenigol a chymhleth i gyfarch anghenion defnyddwyr y Cyngor.
- Rhoi cymorth technegol i eraill.
- Addysgu aelodau iau o staff yn rheolaidd a rhoi arweiniad iddynt.
- Rhoi mewnbwn i syniadau newydd/arbedion effeithlonrwydd ynghylch sut y gall TGCh greu gwelliannau effeithlonrwydd, gwella gofal cwsmer neu greu cyfleon newydd o fewn ei swyddogaeth ei hun ac o fewn i’r prosiectau y mae’n gweithio arnynt ar hyn o bryd.
- Yn gyfrifol am wneud penderfyniadau i sicrhau bod elfennau o brosiectau’n cael eu cwblhau ar amser, y tu mewn i’r gyllideb ac i’r safonau disgwyliedig.
- Rheoli disgwyliadau a herio defnyddwyr o fewn i’r prosiectau y mae’n gweithio arnynt ar hyn o bryd.
- Rheoli ei (l)lwyth gwaith hynod gymhleth a thechnegol ei hun er mwyn cyrraedd targedau.
- Mewnbwn i’r broses gwneud penderfyniadau o ran dethol cyflenwyr a chynnyrch.
- Mewnbwn i bolisïau a gweithdrefnau, efallai y bydd gofyn iddo/iddi eu dogfennu.
- Medru sicrhau cydbwysedd rhwng gofynion cyflawni gwaith prosiect a gwaith cefnogi pwysau mawr ac adhoc er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod ar gael i sustemau TGCh y Cyngor.
- Mewnbwn i’r broses cynllunio busnes.
- Cyfrannu tuag at sicrhau bod targedau perfformiad a mesuriadau gwella yn cael eu cyflawni, neu ragori arnynt.
Cyfathrebu:
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn cyfathrebu â defnyddwyr ledled y Cyngor i fyny at yr uwch reolwyr.
- Dogfennu gofynion defnyddwyr yn glir trwy gysylltu gyda defnyddwyr mewn cyfarfodydd a gweithdai.
- Datblygu manylebau cysyniadol a thechnegol.
- Paratoi a chyflwyno hyfforddiant i’r defnyddwyr.
- Cynrychioli’r adran TGCh mewn cyfarfodydd ar draws y Cyngor ac yn allanol o bryd i’w gilydd.
- Rhoi cyngor ac arweiniad i ddefnyddwyr ledled y Cyngor i fyny at yr uwch reolwyr.
Arall:
- Medru datrys problemau mewn nifer o feysydd o arbenigedd.
- Yn gyfrifol am godio a dylunio cymwysiadau cyflawn. Cynnig cyngor a hyfforddiant i eraill yn hyn o beth
- Gwneud awgrymiadau i ddatrys materion cymhleth a thechnegol.
- Gall fod yn ymgynghorydd i’r busnes er mwyn gwella cymwysiadau a datblygu rhai newydd.
- Gweithio ar sawl tasg yr un pryd.
- Yn gyfrifol am godio a dylunio.
- Yn gyfrifol am adnabod risgiau yn unol â fframwaith rheoli risgiau TGCh a sicrhau y cymerir cyfrifoldeb amdanynt.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyffredinol:
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol a’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau y Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd a lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, bydd gofyniad cytundebol i newid oriau/dyddiau gwaith yn unol a gofyn y gwasanaeth. Byddwch hefyd yn gorfod gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a bydd taliad am rhain yn unol ag Amodau a thelerau cyflogaeth y Sir. Bydd galwadau brys yn destun trafodaeth benodol.
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Yn rhagweithiol wrth barhau i ddysgu am y diweddaraf yng nghyswllt diwydiant cymhleth sy’n newid yn gyflym.
- Medru ennill sgiliau a diweddaru’n barhaus wrth i’r diwydiant fynd yn ei flaen.
- Angen bod yn annibynnol a medru gwneud penderfyniadau ar ei ben ei hun ac fel rhan o dîm.
DYMUNOL
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Yn meddu ar radd (neu gymhwyster cyfatebol) mewn maes priodol.
DYMUNOL
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
- Profiad o gefnogi a/neu ddatblygu cymwysiadau
- Profiad dadansoddi a dylunio systemau.
DYMUNOL
- Profiad o Systemau Gwybodaeth Daearyddol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Gwybodaeth a gallu mewn datblygu meddalwedd a chyda gwybodaeth am dechnoleg ymylol ac arferion gwaith.
- Yn ymwybodol o ddatblygiadau yn y maes arbenigedd
- Medru cyfathrebu mewn modd technegol ac annhechnegol
- Medru datrys problemau yn rhesymegol.
- Sgiliau dogfennu da
- Gwybodaeth am y cylch datblygu sustemau
DYMUNOL
- Gwybodaeth o’r model ITIL.
- Gwybodaeth o safonau perthnasol e.e. BS7799.
- Gwybodaeth o un neu fwy o’r isod:
Microsoft SQL Server
Java
JavaScript
VBScript
Technoleg .NET e.e. C# , web services, MVC