Cwnselydd Ysgol

£12,777 - £13,419 a year

Cyngor Gwynedd

Caernarfon

Awst 14, 2025

Temporary

Disgrifiad o'r Cwmni

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth  cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth  

 

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person. 

 

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. 

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.) 

 

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Dora Wendi Jones ar 07881 986 338 neu drwy e-bost: [email protected]

 

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH 

Ffôn: 01286 679076 eBost: [email protected] 

 

DYDDIAD CAU:  10:00 O’R GLOCH, 14/08/2025

 

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus 

 

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn  yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais.  Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio  eich  E-BOST yn rheolaidd. 


Pwrpas y swydd

  • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
  • Darparu Gwasanaeth Cwnsela i blant a phobl ifanc o fewn ysgolion uwchradd, chynradd a’r gymuned yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

  • Gliniadur a ffon symudol

Prif ddyletswyddau

  • Gwasanaethu fel aelod o dîm i ddarparu gwasanaeth cwnsela effeithlon, proffesiynol a statudol ar gyfer plant a phobl ifanc pan a fel bo angen.
  • Darparu gwasanaeth cwnsela wyneb yn wyneb a/neu rithiol ar gyfer yr unigolion hynny yr ystyrir fyddai’n elwa o gwnsela:
  • Darparu a trefnu asesiad un i un yn unol â rheoliadau BACP, (British Association for Counselling and Psychotherapy)
  • Cydymffurfio a chynnal nifer cyfyngedig o sesiynau yn unol canllawiau’r gwasanaeth â rheoliadau BACP .
  • Sicrhau y caiff pob cleient ei asesu a bod naill ai’r gwasanaeth yn delio a’r achos neu y caiff y cleient ei gyfeirio at wasanaeth priodol.
  • Gweithredu mewn modd sy’n cydymffurfio â safonau cydnabyddedig darparwyr cwnsela:
  • Cydymffurfio â Chod Ymarfer a Fframwaith Moesegol y BACP.
  • Dilyn argymhellion Pecyn Cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar arfer dda.
  • Hoelio sylw ar drefniadau gwarchod ac amddiffyn plant a phobl ifanc .
  • Cynnal cydbwysedd yn annibynnol rhwng Gwarchod a Moeseg – er budd y cleient.
  • Cadw cofnodion safonol ar bob achos:
  • Casglu nodiadau sylfaenol ar bob achos unigol .
  • Darparu data ac adborth a’i mewnbynnu ar system rheoli gwybodaeth y gwasanaeth.
  • Sicrhau cadw yr holl nodiadau yn unol â deddfwriaeth Gwarchod Data .
  • Dilyn gweithdrefn ble ceir barn y defnyddiwr ynglŷn â’r gwasanaeth.
  • Ymgynghori a chydweithwyr allweddol eraill ym maes lles a iechyd meddwl plant a phobl ifanc a dilyn system gyfeirio gytunedig tuag at, ac ymlaen, o’r gwasanaeth.
  • Darparu gwybodaeth am y gwasanaeth cwnsela.
  • Codi ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc, eu rhieni a phobl broffesiynol eraill ynghylch presenoldeb y gwasanaeth cwnsela a sut mae’n gweithredu.
  • Gwneud staff yr ysgol yn ymwybodol o gwnsela, eu cynghori ynghylch y wefan gwasanaeth cwnsela o fewn yr ystod o wasanaethau cefnogol sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc.
  • Cyflawni unrhyw dasgau sy’n gysylltiedig a darparu cwnsela mewn ysgolion, sy’n rhesymol i’w ddisgwyl o ystyried cyflog y swydd, ar gais rheolwr llinell.
  • Gwarchod cleientiaid ac eraill sydd mewn perygl o gryn niwed:-
  • Mae cleientiaid yn ddibynnol ar y Gwasanaeth Cwnsela i ddarparu lefel uchel o gyfrinachedd. Mae’n hanfodol i’r Cwnselydd ddarparu‘r amgylchedd diogel hwn tra’n cadw cydbwysedd rhwng eu Fframwaith Moesegol ac Amddiffyn Plant. Mae angen monitro anghenion y cleientiaid yn gyson trwy gydol y broses Therapiwtig.
  • Cyd gordio’r gwasanaeth ar lefel ysgol drwy:
  • Drefnu a gweinyddu’r gwasanaeth ar y cyd â staff yr ysgol;
  • Cyfathrebu a chysylltu â staff yr ysgol, er budd yr unigolyn ifanc, gan gadw oddi mewn i derfynau
    cyfrinachedd y cleient;
  • Gweithredu fel adnodd i staff ysgolion drwy roi cipolwg ar fyd cwnsela a hyrwyddo’r gwasanaeth lle bo modd;
  • Cynnal a datblygu ymarfer proffesiynol drwy reolaeth gyson a pharhaus, goruchwyliaeth glinigol a hyfforddiant, a thrwy gymryd rhan mewn gwerthusiadau ac archwiliadau o’r gwasanaeth;
  • Asesu a rheoli’r risgiau i unigolion, ac i chi’ch hun.
  • Monitro, ail-asesu a rheoli’r risgiau i unigolion yn rheolaidd
  • Cymryd camau ar unwaith ac sy’n gymesur i ddelio â/mynd i’r afael ag unrhyw ymddygiad sy’n peri risg.
  • Cydymffurfio â gweithdrefnau ac arferion gwarchod y Bwrdd lleol Amddiffyn Plant a rhai’r adran.
  • Cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, safonau cenedlaethol a polisïau adrannol perthnasol.
  • Cadw cofnodion achos cywir ac wedi ei diweddaru a sicrhau bod ffeiliau’n cydymffurfio â gofynion polisi’r adran ar ddiogelu data, cadw cofnodion a chyfrinachedd.
  • Cyfrannu’n rhagweithiol mewn adolygiadau arfarnu perfformiad a goruchwyliaeth unigol.
  • Gwneud cyfraniad positif tuag at y tîm, trwy gydweithio â chydweithwyr a’r rheolwr llinell.
  • Mynychu cyfarfod tîm a cymryd rhan mewn unrhyw weithgorau perthnasol a cyfarfodydd adrannol a rhyng-asianaethol eraill fel bo angen.

Cyffredinol

  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithl